
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 3 o Reoliadau Grant Cynnal Refeniw (Cyrff Penodedig) (Cymru) 2000, wedi'i ddiwygio —
(a) drwy hepgor paragraffau (e) ac (f); a
(b) drwy ychwanegu, ar y diwedd,—“
(k) Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006