
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 16(3), yn lle “Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen” rhodder “Ni chaiff neb drosglwyddo'n gwota nas defnyddiwyd gwota y mae ei angen”.
4 
Yn rheoliad 23(4)(a), yn lle “cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na” rhodder “cael ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Mai neu cyn”.
5 
Yn rheoliad 33(5)—
(a) yn lle “ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol”;
(b) yn lle “sicrhau bod y rhestr yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na” rhodder “ar 14 Mai neu cyn”.
6 
Yn rheoliad 35—
(a) ym mharagraff (1)(a)—
(i) yn lle “â chyflwyno” rhodder “ag anfon” ac yn lle “gyflwyno” rhodder “anfon”;
(ii) hepgorer “fel bod y datganiad yn ei gyrraedd”;
(b) ym mharagraff (1)(b)—
(i) yn lle “â chyflwyno” rhodder “ag anfon” ac yn lle “gyflwyno” rhodder “anfon”;
(ii) hepgorer “fel bod y crynodeb yn ei gyrraedd”;
(c) ym mharagraff (2), yn lle “a gyflwynwyd” rhodder “a anfonwyd”.
7 
Yn rheoliad 36—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “and (3)” rhodder “i (3)”;
(b) ar ôl paragraff (2) rhodder—“
(2A) Lle mae prynwr—
(a) yn anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol grynodeb o ddatganiadau y mae'n ofynnol eu cyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, sy'n anghywir; a
(b) drwy wneud hynny yn achosi gorddatganiad neu danddatganiad ganddo ef neu ganddi hi, o ddanfoniadau a wnaed iddo neu iddi,
mae ef neu hi'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n gyfwerth â swm damcaniaethol yr ardoll a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r maint yn ôl cyfaint y llaeth sy'n ffurfio'r gorddatganiad neu'r tanddatganiad.”;
(c) ym mharagraff (6)—
(i) ar ôl “agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol”, rhodder “,os yw'n cyflwyno hysbysiad,”;
(ii) ar y diwedd ychwaneger “gan ddechrau ar y degfed diwrnod ar hugain ar ôl cyflwyno'r hysbysiad”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mawrth 2006