
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006.
(2) Heblaw fel y darperir ym mharagraffau (3) a (4) o'r Erthygl hwn, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2006.
(3) Daw Erthyglau 4, 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn, a'r Atodlen iddo, i rym ar 2 Ebrill 2007.
(4) Daw Erthyglau 7, 8, 9 a 10 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ebrill 2008.
(5) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â dyletswyddau awdurdodau tai lleol yng Nghymru o dan Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd).
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Dai 1996; ac mae unrhyw gyfeiriad at adran gyda rhif yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Dai 1996;
 ystyr “llety a rennir” (“shared accommodation”) yw llety—
(a) nad yw'n fangre ar wahân a hunangynhwysol; neu
(b) lle mae unrhyw un o'r cyfleusterau canlynol heb fod ar gael i'r ymgeisydd neu wedi'i rannu gan fwy nag un aelwyd—
(i) toiled;
(ii) cyfleusterau ymolchi personol;
(iii) cyfleusterau coginio; neu
(c) nad yw'n sefydliad a gofrestrwyd o dan ddarpariaethau'r Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “llety Gwely a Brecwast” (“B&B accommodation”) yw llety a ddarperir yn fasnachol (p'run ai a ddarperir brecwast ai peidio)—
(a) nad yw'n fangre ar wahân a hunangynhwysol;
(b) lle mae unrhyw un o'r cyfleusterau canlynol heb fod ar gael i'r ymgeisydd neu wedi'i rannu gan fwy nag un aelwyd—
(i) toiled;
(ii) cyfleusterau ymolchi personol;
(iii) cyfleusterau coginio;
(c) nad yw'n llety sy'n eiddo i awdurdod tai lleol, landlord cymdeithasol cofrestredig neu gorff gwirfoddol yn ôl diffiniad adran 180(3) o Ddeddf Tai 1996, neu'n cael ei reoli gan un o'r rhain; neu
(ch) nad yw'n sefydliad a gofrestrwyd o dan ddarpariaethau'r Ddeddf Safonau Gofal 2000;
 ac mae “Gwely a Brecwast” (“B&B”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
 ystyr “llety Gwely a Brecwast bach” (“small B&B”) yw—
 llety Gwely a Brecwast—
(i) lle mae'r rheolwr yn byw ar y safle; a
(ii) sydd â llai na 7 ystafell wely ar gael i'w gosod.
 ystyr “llety o safon sylfaenol” (“basic standard accommodation”) yw llety—
(a) sydd yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol (megis gofynion yn ymwneud â diogelwch tân a nwy, cynllunio a thrwyddedau ar gyfer tai amlfeddiannaeth, lle bo hynny'n gymwys); a
(b) sydd â rheolwr y mae'r awdurdod tai lleol yn ystyried ei fod yn berson cymwys a phriodol gyda'r gallu i reoli llety Gwely a Brecwast;ac mae “safon sylfaenol” (“basic standard”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
 ystyr “llety o safon uwch” (“higher standard accommodation”) yw llety sy'n bodloni—
(a) y safon sylfaenol; a
(b) y safonau a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn,ac mae “safon uwch” (“higher standard”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
RHAN 1
3 
Wrth benderfynu at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 p'run ai a yw llety'n addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth rhaid cymryd y materion canlynol i ystyriaeth—
(a) anghenion iechyd penodol y person;
(b) agosatrwydd a hygyrchedd y gwasanaethau cymdeithasol;
(c) agosatrwydd a hygyrchedd cymorth gan deulu neu wasanaethau cymorth eraill; neu
(ch) unrhyw anabledd sydd gan y person.
RHAN 2
4 
Ar gyfer ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas oni bai ei fod yn bodloni'r safon sylfaenol o leiaf.
5 
Ar gyfer ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn Erthygl 6, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas ar gyfer person ifanc dan oed neu fenyw feichiog.
6 

(1) Nid yw Erthygl 5 yn gymwys—
(a) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na dwy wythnos;
(b) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos;
(c) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety amgen addas, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato;
(ch) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl gwneud y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; neu
(d) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) uchod, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato.
(2) Os yw'r llety amgen addas a gynigir at ddibenion paragraff (1) wedi'i rannu, rhaid iddo fodloni'r safon uwch.
(3) Yn achos aelwydydd sydd yn cynnwys dibynyddion sy'n blant, neu fenyw feichiog, rhaid i'r cynnig a wneir o dan is-baragraffau (ch) neu (d) fod o lety hunangynhwysol addas. Yn achos ymgeisydd sy'n berson ifanc dan oed, rhaid i'r cynnig fod o lety addas gyda chymorth.
(4) Wrth gyfrifo'r cyfnod, neu gyfanswm y cyfnod, y bu person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast at ddibenion paragraff (1), rhaid anwybyddu—
(a) unrhyw gyfnod cyn 2 Ebrill 2007; a
(b) pan fo awdurdod tai lleol yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan adran 193 yn rhinwedd adran 200(4), unrhyw gyfnod cyn y daeth yr awdurdod hwnnw yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd honno.
RHAN 3
7 
Ar gyfer dibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn erthygl 9, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth.
8 
Ar gyfer dibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn erthyglau 9 a 10, nid yw llety a rennir i'w ystyried yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth heblaw bod y llety hwnnw'n bodloni'r safon uwch.
9 

(1) Nid yw Erthyglau 7 ac 8 yn gymwys—
(a) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na dwy wythos;
(b) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos;
(c) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety amgen addas, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato;
(ch) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl gwneud y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato;
(d) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; neu
(dd) os yw'r person yn lletya mewn llety a rennir o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na dwy wythnos;
(e) os yw'r person yn lletya am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos, mewn llety a rennir o safon sylfaenol sy'n eiddo i awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd y cyfnod o bythefnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), wedi cynnig llety amgen addas, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety y cyfeiriwyd ato.
(2) Os yw'r llety amgen addas a gynigir at ddibenion paragraff (1) wedi'i rannu, rhaid iddo fodloni'r safon uwch.
(3) Yn achos aelwydydd sy'n cynnwys dibynyddion sy'n blant, neu fenyw feichiog, rhaid i'r cynnig a wneir o dan is-baragraffau (ch) neu (d) fod o lety hunangynhwysol addas. Yn achos ymgeisydd sy'n berson ifanc dan oed, rhaid i'r cynnig fod o lety addas gyda chymorth.
(4) Wrth gyfrifo'r cyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, y bu person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast at ddibenion paragraff (1), rhaid anwybyddu—
(a) unrhyw gyfnod cyn 7 Ebrill 2008; a
(b) pan fo awdurdod tai lleol yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan adran 193 yn rhinwedd adran 200(4), unrhyw gyfnod cyn y daeth yr awdurdod hwnnw yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd honno.
10 
Ni fydd Erthygl 7 yn gymwys tan 4 Ebrill 2011 ar gyfer unrhyw eiddo sydd ym mherchnogaeth i awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig neu yn cael ei reoli gan un o'r rhain, ac sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 ar 7 Ebrill 2008.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2006
ATODLEN
1 

Maint ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu mewn ystafell ar wahân neu gegin
Arwynebedd Llawr yr Ystafell Uchafswm o bersonau
Heb fod yn llai na 6.5 metr sgwâr 1 person
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr 2 berson
Heb fod yn llai na 14.9 metr sgwâr 3 pherson
Heb fod yn llai na 19.6 metr sgwâr 4 personMaint ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu o fewn yr ystafell
Arwynebedd Llawr yr Ystafell Uchafswm o bersonau
Heb fod yn llai na 10.2 metr sgwâr 1 person
Heb fod yn llai na 13.9 metr sgwâr 2 berson
Heb fod yn llai na 18.6 metr sgwâr 3 pherson
Heb fod yn llai na 23.2 metr sgwâr 4 person
Ar gyfer dibenion y cyfrifiadau o faint ystafelloedd uchod, ystyrir plentyn sy'n llai na 10 oed fel hanner person.
(a) Ni chaniateir lletya mwy na 4 person mewn un ystafell, heblaw gyda chaniatâd y lletywyr.
(b) Ni chaniateir rhannu ystafelloedd gan bersonau o rywiau gwahanol, sy'n 10 oed neu'n hyn, oni bai eu bod yn byw gyda'i gilydd fel partneriaid a'u bod ill dau dros oed cydsynio, neu pan fo rhiant neu warcheidwad yn dewis rhannu gyda phlentyn hyn.
(c) Rhaid i bob ystafell fod ag uchder o'r llawr i'r nenfwd o 2.1 metr o leiaf dros ddim llai na 75% o arwynebedd yr ystafell. Rhaid anwybyddu unrhyw ran o'r ystafell lle mae uchder y nenfwd yn llai nag 1.5 metr wrth gyfrifo arwynebedd y llawr.
(ch) Mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi ar wahân yn anaddas i'w defnyddio fel mannau cysgu.
2 
Rhaid bod yna ddarpariaeth ddigonol ar gyfer gwresogi yn y fangre. Rhaid bod yna ar gyfer pob ystafell gyfanheddol ac ystafelloedd ymolchi neu ystafelloedd cawod system wresogi sy'n alluog i gadw'r ystafell ar isafswm tymheredd o 18°C pan fo'r tymheredd y tu allan yn finws 1°C.
3 

(1) Mewn uned llety lle mae mwy nag un person yn lletya, rhaid i'r man paratoi bwyd a ddarperir o fewn yr uned gynnwys y cyfleusterau canlynol:
(a) pedwar llosgwr nwy neu hob, popty arferol a gril, neu dau losgwr nwy neu hob a microdon sy'n cynnwys popty a gril,
(b) sinc gyda draeniwr yn gysylltiedig, gyda chyflenwad parhaus o ddŵr poeth a dŵr oer i'w yfed,
(c) cwpwrdd storio gydag o leiaf 0.2 metr ciwbig o ofod heb gynnwys man storio o dan y sinc,
(ch) oergell,
(d) o leiaf pedwar o socedau 13-amp (sengl neu ddwbl) wedi'u lleoli uwchlaw'r wyneb gweithio,
(dd) wyneb gweithio ar gyfer paratoi bwyd gyda dimensiynau o 1 metr x 0.6 metr o leiaf, ac
(e) isafswm o 1 metr o ofod clir rhwng y cyfleusterau a dodrefn eraill yn yr ystafell.
(2) Mewn uned llety lle mae un person yn lletya, rhaid i'r man paratoi bwyd a ddarperir o fewn yr uned gynnwys y cyfleusterau canlynol:Fel (a) — (e) heblaw bod (a) i fod ag isafswm o ddau losgwr nwy neu hob.
4 

(1) Pan fo mannau paratoi bwyd yn cael eu rhannu rhwng mwy nag un aelwyd, rhaid bod yna un set o gyfleusterau cegin ar gyfer:
(a) bob 3 aelwyd sy'n deulu neu lai na hynny;
(b) bob 5 aelwyd person sengl neu lai na hynny. (Ar gyfer rhwng 6 a 9 aelwyd person sengl, bydd angen popty neu ficrodon ychwanegol.)
(c) bob 10 person neu lai na hynny lle mae yna gymysgedd o aelwydydd sy'n deuluoedd ac o aelwydydd personau sengl yn yr un fangre.
(2) Rhaid i bob set o gyfleusterau a rennir ddarparu'r cyfleusterau a ganlyn:
(a) fel ar gyfer uned lle mae un person yn lletya, heblaw bod yn rhaid i'r cyfleusterau coginio gynnwys pedwar llosgwr nwy neu hob, popty arferol, gril a meicrodon,
(b) tegell trydan,
(c) tostiwr.Gellir cynnwys y man paratoi bwyd a ddefnyddir gan y rheolwyr pan fyddir yn cyfrifo'r gymhareb, gyn belled â'i fod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd mewn cyfleuster a rennir.Pan nad oes gan breswylwyr fynediad at gyfleusterau cegin a bod y perchennog yn darparu o leiaf frecwast a phryd gyda'r nos ar gyfer preswylwyr, ystyrir fod y gofynion am gyfleusterau cegin wedi'u rhannu wedi'u bodloni.Ymhlith y cyfleusterau ychwanegol a ddarperir ym mhob ystafell wely neu oddi mewn i'r llety cyfan sydd ym meddiant pob aelwyd unigol rhaid cynnwys:
(a) oergell; a
(b) man storio y gellir ei gloi;neu gellir darparu'r rhain mewn rhyw fan arall oddi mewn i'r adeilad.
5 

(1) Rhaid i'r cyfleusterau sydd i'w defnyddio'n unig gan y meddiannydd neu'r aelwyd gynnwys:
(a) baddon neu gawod,
(b) basn ymolchi gyda chyflenwad parhaus o ddŵr poeth ac oer, ac
(c) toiled un ai yn yr un ystafell â'r cyfleusterau ymolchi neu mewn ystafell ar wahân, a gaiff ei ddefnyddio'n unig gan bob unigolyn neu aelwyd.
(2) Rhaid i gyfleusterau a rennir gynnwys:
(a) Un toiled ac un basn ymolchi gyda chyflenwad parhaus o ddŵr poeth ac oer oddi mewn i'r adeilad ar gyfer pob pum aelwyd neu lain a hynny. Rhaid i hwnnw fod wedi'i leoli dim mwy nag un llawr i ffwrdd oddi wrth y rhai y bwriedir iddynt ei ddefnyddio. Ar gyfer y pum aelwyd gyntaf gall y toiled a'r basn ymolchi fod yn yr ystafell lle mae'r gawod neu'r baddon. Rhaid i bob toiled a basn ymolchi ychwanegol ar gyfer llety i chwe aelwyd neu ragor fod mewn man ar wahân.
(b) Rhaid darparu un ystafell ymolchi neu un ystafell gawod ar gyfer pob pum person. Rhaid lleoli honno ddim mwy nag un llawr i ffwrdd oddi wrth y rhai y bwriedir iddynt ei ddefnyddio.
(c) Mewn mangreoedd sy'n lletya plant o dan 10 oed, rhaid i o leiaf hanner o'r cyfleusterau ymolchi gynnwys baddonau sy'n addas ar gyfer plant.Nid yw rhif y personau sy'n meddiannu uned llety lle darperir toiled ar gyfer eu defnydd hwy yn unig i'w cynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer toiledau a rennir.
6 
Rhaid i'r drws sy'n rhoi mynediad i bob uned llety fod yn un y gellir ei gloi ac yn un y gellir ei ddatgloi o'r tu mewn heb ddefnyddio allwedd.
7 
Rhaid i bob mangre fod ag ystafell gyffredin sy'n o leiaf 12 metr sgwâr mewn maint oni bai fod gan bob aelwyd le byw, ar wahân i'r lle maent yn cysgu, sydd ar gael ar gyfer eu defnydd hwy yn unig, neu fod y fangre ar gyfer aelwydydd o bersonau unigol yn unig.
8 

(a) Rhaid rhoi copi ysgrifenedig o 'reolau'r tŷ' i bob aelwyd, sy'n cynnwys manylion ynghylch sut y bydd sancsiynau'n cael eu gweithredu. Rhaid i'r ddogfen hon gael ei chymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n lleoli aelwydydd digartref yn y fangre.
(b) Rhaid rhoi i bob aelwyd wybodaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r safle gan gynnwys sut i weithio'r holl offer, er enghraifft, offer gwresogi a dŵr poeth ac offer diffodd tân.
(c) Rhaid sicrhau fod gwybodaeth ysgrifenedig ar gael i'r preswylwyr ynglŷn â'r ardal leol, gan gynnwys lleoliad neu fanylion cyswllt ar gyfer cyfleusterau lleol, londretiau, meddygfeydd ac ysgolion.
(ch) Rhaid bod gan breswylwyr fynediad i'w hystafelloedd ar bob adeg heblaw pan fo ystafelloedd yn cael eu glanhau neu pan fo gwaith cynnal a chadw arall yn cael ei wneud iddynt. Rhaid darparu trefniadau lletya amgen ar gyfer preswylwyr ar yr adegau hyn.
(d) Caniateir mynediad ar gyfer swyddogion priodol yr awdurdod tai lleol y lleolir y fangre yn ei ardal, ac i swyddogion unrhyw awdurdod sy'n lleoli aelwydydd digartref yn y fangre, i archwilio'r fangre ym mha ffordd bynnag ac ar ba adeg bynnag y maent yn ystyried sy'n angenrheidiol, i sicrhau cydymffurfio â'r gofynion; a bydd y rheolwr yn caniatáu cyflawni archwiliadau o'r fath, yn ddirybudd os bydd angen.
(dd) Caniateir mynediad ar gyfer swyddogion yr awdurdod lleol o gweithwyr iechyd a chymunedol awdurdodedig ar gyfer yr ardal lle lleolir y fangre, i ymweld â meddianwyr y fangre ac i'w cyfweld yn breifat yn yr ystafell(oedd) lle maent yn lletya.
(e) Gellir cysylltu ar unrhyw adeg â rheolwr sydd â chyfrifoldeb digonol o ddydd i ddydd i sicrhau bod y safle'n cael ei reoli'n effeithiol, a rhaid arddangos hysbysiad yn dangos enw, cyfeiriad a rhif ffôn y rheolwr mewn lleoliad lle gellir ei weld yn hawdd ar y safle.
(f) Mae yna gynllun eglur wedi cael ei sefydlu ar gyfer gadael yr adeilad mewn argyfwng, sy'n nodi beth a ddylid ei wneud pan glywir y larwm tân, a manylion llwybrau dianc a mannau ymgynnull diogel. Rhaid i'r rheolwyr sicrhau y rhoir gwybodaeth i bob person sy'n cyrraedd y fangre am y tro cyntaf ynghylch beth y dylid ei wneud yn achos tân ac ynghylch y rhagofalon tân a ddarperir.
(g) Rhaid cyflwyno copi i bob aelwyd o weithdrefn gwyno sy'n nodi sut y gellir gwneud cwyn. Rhaid i'r wybodaeth hon hefyd gynnwys gwybodaeth ynghylch lle gall y sawl sy'n cwyno gael rhagor o gyngor a chymorth.