
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2006.
2 

(1) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn (sy'n ymwneud â chorfforaethau addysg bellach yng Nghymru) drwy hyn wedi'u dirymu.
(2) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mawrth 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2
Rhan 1

 Rheoliadau Coleg Menai (Llywodraethu) 1994 (O.S. 1994/1450)

Rhan 2

 Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Chweched Dosbarth) 1992 (O.S. 1992/1957)
 Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/1963)
