
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn ystyr “best value performance plan” yn adran 6(1) o'r Ddeddf; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
2 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella am flwyddyn ariannol erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
3 
Rhaid i gopïau o adroddiad archwilydd ynghylch cynllun gwella gael ei anfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 30 Tachwedd o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
4 
Dirymir y gorchmynion canlynol—
(a) Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002; a
(b) Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Mawrth 2006