
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Ionawr 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod” (“authority”), o ran—
(a) cofrestr adran 31A, yw'r cyngor priodol;
(b) cofrestr adran 53B, yw'r awdurdod mesur tir; ac
(c) cofrestr adran 121B, yw'r cyngor;
 ystyr “cofrestr” (“register”) yw, yn ôl y digwydd, cofrestr adran 31A, cofrestr adran 53B a chofrestr adran 121B;
 ystyr “cofrestr adran 31A” (“section 31A register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod ei chadw o dan adran 31A o Ddeddf 1980 (cofrestr o fapiau, datganiadau a mynegiadau);
 ystyr “cofrestr adran 53B” (“section 53B register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod ei chadw o dan adran 53B o Ddeddf 1981 (cofrestr o geisiadau o dan adran 53); ac
 ystyr “cofrestr adran 121B” (“section 121B register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdod ei chadw o dan adran 121B o Ddeddf 1980 (cofrestr o geisiadau).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
2 

(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru fel a nodir yn y rheoliad hwn.
(2) O ran cofrestr adran 31A, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo map a datganiad—
(a) yn cael eu hadneuo gyda'r awdurdod, neu pan fo mynegiad yn cael ei gyflwyno iddo, o dan adran 31(6) o Ddeddf 1980 ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006;
(b) wedi'u hadneuo gyda'r awdurdod cyn 1 Gorffennaf 2006 a bod mynegiad sy'n ymwneud â hwy wedi'i gyflwyno yr un pryd (neu'n ddiweddarach) a hwnnw'n ddatganiad sy'n parhau i gael effaith ar 1 Gorffennaf 2006.
(3) O ran cofrestr adran 53B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 53(5) o Ddeddf 1981—
(a) ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2006;
(b) cyn 1 Gorffennaf 2006, os nad yw gweithdrefnau o dan Atodlen 15 i Ddeddf 1981 wedi'u cwblhau erbyn 1 Gorffennaf 2006.
(4) O ran cofrestr adran 121B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais y mae adran 121B o Ddeddf 1980 yn gymwys iddo.
3 

(1) Pan fo map a datganiad y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cael eu hadneuo gydag awdurdod, neu fod mynegiad y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn cael ei gyflwyno, neu fod cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn cael ei wneud, i awdurdod, mae'r awdurdod hwnnw—
(a) yn gorfod cofnodi yn y gofrestr y dogfennau a'r wybodaeth a ragnodir ym mharagraff (2) ac hefyd, pan fo rheoliad 4 neu 5 yn gymwys, yr wybodaeth a ragnodir yn y rheoliad hwnnw; a
(b) yn cael cofnodi yn y gofrestr honno unrhyw wybodaeth arall y gwêl yn dda.
(2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys—
(a) copi o'r map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais (ynghyd ag unrhyw fap a gyflwynwyd gyda'r cais);
(b) disgrifiad o effaith arfaethedig y map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais;
(c) disgrifiad o leoliad daearyddol y tir y mae'r map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais yn ymwneud ag ef, a rhaid i'r disgrifiad hwnnw gynnwys—
(i) cyfeirnod grid chwe-Rhif yr Arolwg Ordnans ar gyfer pob pen o'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig,
(ii) cyfeiriad a chod post y tir lle mae'r rhan berthnasol o'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig,
(iii) enwau'r prif ddinasoedd, trefi a phentrefi agosaf at y tir hwnnw,
(iv) unrhyw enw y gwyddys amdano yn lleol ar gyfer y lleoliad hwnnw, a
(v) enw unrhyw gyngor cymuned neu gyngor tref a sefydlwyd ar gyfer yr ardal lle mae'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig;
(ch) yn ddarostyngedig i reoliad 7, enw, cyfeiriad a chod post y person a adneuodd y map a'r datganiad, a gyflwynodd y mynegiad neu a wnaeth y cais;
(d) y dyddiad y daeth y map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais i law'r awdurdod;
(dd) y Rhif cyfeirnod a neilltuwyd gan yr awdurdod ar gyfer map a datganiad a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw, ar gyfer mynegiad a gyflwynwyd iddo, neu ar gyfer cais a wnaed iddo; ac
(e) disgrifiad o deitl swydd y person yn yr awdurdod sy'n gyfrifol am ymdrin â'r mater, ynghyd â Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yr awdurdod.
4 

(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 53B—
(a) Rhif y llwybr, pan fo'r ffordd eisoes wedi'i chofnodi ar y map diffiniol;
(b) unrhyw ddyddiad a bennwyd gan yr awdurdod ar gyfer penderfynu'r cais;
(c) y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais;
(ch) dyfarniad yr awdurdod ar ôl penderfynu'r cais;
(d) pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi—
(i) cyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff 3(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981 (cais yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'r awdurdod i benderfynu cais o fewn cyfnod penodedig), neu
(ii) cyflwyno hysbysiad o apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981,
datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad yn nodi'r penderfyniad a thelerau unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd;
(dd) pan fo'n ymarferol, dyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad arfaethedig; ac
(e) pan fo gorchymyn yn cael ei wneud gan yr awdurdod, datganiad ynghylch a yw'r gorchymyn wedi'i gadarnhau neu beidio (boed hynny gydag addasiadau neu beidio) a phan fo'n cael ei gadarnhau, y dyddiad cadarnhau.
(2) O ran cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(a) pan nad yw'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol, rhaid i'r awdurdod ddal ei afael, yn ei gofrestr adran 53B, ar yr wybodaeth a gofnodwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(b) pan fo'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol (boed ar y ffurf y gofynnwyd amdano yn y cais neu fel yr addaswyd y gorchymyn hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol), caiff yr awdurdod ddal ei afael ar yr wybodaeth gofnodedig cyhyd ag y gwêl yn dda a rhaid iddo wneud hynny am o leiaf 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r map diffiniol a'r datganiad yn cael eu haddasu.
5 

(1) Yn ychwanegol at yr wybodaeth a ragnodir yn rheoliad 3, rhaid i'r awdurdod gynnwys yn ei gofrestr adran 121B—
(a) y dyddiad erbyn pryd y mae'r awdurdod yn bwriadu penderfynu'r cais (os yw'n gymwys);
(b) y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais;
(c) dyfarniad yr awdurdod;
(ch) y dyddiad y mae gorchymyn yn cael ei wneud, a phan fo'n gymwys, yn cael ei gadarnhau;
(d) pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 121D o Ddeddf 1980, datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad o ganlyniad yr apêl; ac
(dd) pan fo'n ymarferol, dyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad arfaethedig.
6 

(1) Rhaid i gofrestr gael ei chadw ar ffurf electronig ac ar ffurf papur.
(2) Rhaid i'r fersiwn bapur o'r gofrestr honno gael ei chadw ym mhrif swyddfa'r awdurdod.
(3) O ran cofrestr—
(a) rhaid iddi gynnwys mynegai sy'n galluogi person i ganfod unrhyw gofnod yn y gofrestr ac, yn achos y fersiwn electronig o'r gofrestr, rhaid iddi gynnwys cyfleuster chwilio sy'n ei gwneud yn bosibl i chwiliadau am godau post ac allweddeiriau gael eu gwneud; a
(b) caniateir iddi gael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—
(i) yn ymwneud â thir o fewn un o ardaloedd penodol yr awdurdod y mae cyngor cymuned neu gyngor tref wedi'i sefydlu ar ei chyfer, a
(ii) yn cynnwys y manylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y gofrestr o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(4) O ran y fersiwn electronig o'r gofrestr, rhaid i'r awdurdod—
(a) trefnu bod y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio ar wefan yr awdurdod neu ar wefan y mae'r awdurdod yn ei chynnal at y diben hwnnw; a
(b) darparu modd i'r gofrestr gael ei harchwilio ym mhrif swyddfa'r awdurdod.
(5) Rhaid i awdurdod gadw'r gofrestr mewn ffordd sy'n addas i ganiatáu i gopi o unrhyw rai o'r manylion sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr gael ei gymryd gan neu ar gyfer unrhyw berson sy'n gofyn am gopi yn bersonol ym mhrif swyddfa'r awdurdod.
7 
Pan fo'r awdurdod wedi'i fodloni bod cynnwys neu gadw enw a chyfeiriad person yn y gofrestr yn achosi, neu'n debygol o achosi, niwed sylweddol neu ofid sylweddol i'r person hwnnw neu i berson arall, rhaid i'r awdurdod dynnu'r manylion hynny oddi ar y gofrestr, neu beidio â'u cynnwys ynddo, a rhaid iddo eu tynnu allan o unrhyw ddogfennau sydd wedi'u cynnwys, neu a gaiff eu cynnwys, yn y gofrestr.
8 
Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy'n ymwneud â materion a nodwyd yn rheoliad 3 gael ei wneud cyn pen 28 diwrnod ar ôl—
(a) 1 Gorffennaf 2006; neu
(b) os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y mae'r awdurdod yn cael map, datganiad, mynegiad neu gais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo,a rhaid i'r gofrestr gael ei diweddaru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 1 Gorffennaf 2006 beth bynnag) i gymryd i ystyriaeth unrhyw un o'r materion a nodwyd ym mharagraffau rheoliadau 4 a 5.
9 
Rhaid i awdurdod ddiwygio'r gofrestr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, os yw wedi'i fodloni bod y gofrestr yn cynnwys gwall o bwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Ionawr 2006