
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005,
(b) ystyr “Deddf 1977” (“the 1977 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ac
(c) ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
(4) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni fynegir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac at Atodlenni iddi.
2 
Yn Atodlen 2—
(a) yn lle paragraff 8 rhodder—“
8 
Action under—
(a) the National Health Service Act 1977,
(b) Part 1 of the National Health Service and Community Care Act 1990,
(c) Part 1 of the Health Act 1999 (with the exception of sections 33 to 38), or
(ch) Part 1 of the Health and Social Care (Community Health and Standards) Act 2003,where the action is or has been the subject of an inquiry under the Inquiries Act 2005.”, a
(b) hepgorer paragraff 10.
3 
Yn Atodlen 3, ar ôl y cofnod sy'n ymwneud â Chyngor Gofal Cymru mewnosoder—“
 The Board of Community Health Councils in Wales”
 in relation to all its functions.
4 
Yn adran 41(1), yn y diffiniad o “family health service provider in Wales”—
(a) ym mharagraff (a) yn lle “section 28Q ”rhodder “section 28K or 28Q”,
(b) ym mharagraff (c) yn lle “primary medical or dental services” rhodder “primary medical services or primary dental services”, ac
(c) hepgorer paragraff (d).
5 
Mewn perthynas ag unrhyw gŵyn ynglŷn â mater a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2004—
(a) yn lle paragraff (a) o'r diffiniad o “family health service provider in Wales” (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(a) o'r Gorchymyn hwn) rhodder—“
(a) individuals undertaking to provide in Wales general medical services or general dental services under Part 2 of the National Health Service Act 1977;” a
(b) yn lle paragraff (c) o'r diffiniad o “family health service provider in Wales” (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) rhodder—“
(c) individuals performing in Wales personal medical services or personal dental services in accordance with arrangements made under section 28C of the National Health Service Act 1977 (except as employees of, or otherwise on behalf of, a health service body or an independent provider);”.
6 

(1) Mewn amgylchiadau ac eithrio'r rhai a ddisgrifir yn erthygl 5 a hyd nes y daw adran 172(1) o Ddeddf 2003 i rym mewn perthynas â chontractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol—
(a) (ym mharagraff (a) o'r diffiniad o “family health service provider in Wales” (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(a) o'r Gorchymyn hwn) yn lle “section 28K or 28Q” rhodder “section 28Q”;
(b) ym mharagraff (c) o'r diffiniad o “family health service provider in Wales” (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) yn lle “primary dental services” rhodder “personal dental services”, ac
(c) ar ôl paragraff (c) o'r diffiniad o “family health service provider in Wales” (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) mewnosoder—“
(d) an individual who, at that time, had undertaken to provide in Wales general dental services under Part 2 of that Act.”
(2) Hyd nes y daw adran 28C o Ddeddf 1977 i rym o ran Cymru, rhaid cymryd, at ddibenion y rhan honno o'r diffiniad o “family health service provider in Wales” fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) ac fel y'i amnewidiwyd gan erthygl 5(b) o'r Gorchymyn hwn sy'n cyfeirio at drefniadau a wneir o dan yr adran honno, ei fod yn cyfeirio'n unig at gynllun peilot o dan Ran 1 o'r Ddeddf honno.
7 
Cyhyd â bod contractau rhagosodedig a wnaed yn unol ag adran 176(3) o Ddeddf 2003 (gwasanaethau meddygol cyffredinol: trosiannol) mewn bod, bernir bod unrhyw gyfeiriad at gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol neu at gontract o dan adran 28Q o Ddeddf 1977 yn y diffiniad o “family health service provider in Wales” fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(a) ac fel y'i amnewidiwyd gan erthygl 5(a) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys cyfeiriad at gontract rhagosodedig.
8 

(1) Mae tribiwnlys prisio yng Nghymru yn dribiwnlys perthnasol at ddibenion y Ddeddf.
(2) Nid oes dim yn Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005 yn rhwystro person rhag gwneud cwyn i'r Ombwdsmon parthed gweithredu perthnasol gan aelod o staff gweinyddol tribiwnlys prisio yng Nghymru cyn 15 Chwefror 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006