
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 1 Mawrth 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn (Cymru) (Rhif 2)” yw Gorchymyn Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Cymru) (Rhif 2) 2004.
2 
Yn erthygl 86(1) o Orchymyn (Cymru) (Rhif 2) (ystyr profiad addas), yn lle “Until the coming into force of article 5” rhodder “Until either the establishment of the General Practitioner Register pursuant to article 10(1) of the 2003 Order or the coming into force of paragraphs 21 and 22 of Schedule 8 to that Order, whichever occurs first,”.
3 
Dirymir erthygl 31 o Orchymyn (Cymru) (Rhif 2) (trefniadau ar gyfer Cofrestryddion Practis Cyffredinol).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006