
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 20 Chwefror 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005 yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (Dehongli)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o “Commission Regulation 795/2004” mewnosoder “, as last amended by Commission Regulation (EC) No. 394/2005, Commission Regulation (EC) No. 606/2005, Commission Regulation (EC) No. 1085/2005 and Commission Regulation (EC) No. 1701/2005.”; a,
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “Commission Regulation 796/2004” mewnosoder “, as last amended by Commission Regulation (EC) No. 239/2005 and Commission Regulation (EC) No.1954/2005 and Commission Regualtion (EC) No. 2184/2005.”.
4 
Yn lle rheoliad 6 (cyfnod o 10 mis), rhodder y canlynol—“
6 

(1) For the purposes of Article 24(2), first subparagraph, of Commission Regulation 795/2004, the period in which the beginning of the 10 month period referred to in Article 44(3) of the Council Regulation is to be fixed, is the period beginning on 1 October of the calendar year preceding the year of submitting an application under the Single Payment Scheme and ending on 30 April of the year of application.
(2) For the purposes of Article 24(2), second subparagraph, of Commission Regulation 795/2004, farmers are authorised to fix two different dates for the beginning of the 10 month period.”.
5 
Yn rheoliad 9 (Trosglwyddiadau), dileer paragraff (2) ac yn lle'r cyfeiriad at rif “9.—(1)” rhodder y cyfeiriad at rif “9”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006