
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2006.
2 

(1) Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 wedi'u diwygio'n unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 16(4), yn lle “1 January 2007” rhodder “1 Ebrill 2007”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Rhodri Morgan AC/AM
Prif Weinidog Cymru
21 Rhagfyr 2006