
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989 mewnosoder ar y diwedd —“
(6) Paragraph (3) does not apply where the billing authority revokes a decision or makes a relevant variation of a determination as a consequence only of the commencement of section 63 (Rural settlement lists etc.) of the Local Government Act 2003.”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru )1993 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, yn lle “section 43(5)” rhodder “section 43(4A)(b), (5)”.
(3) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2—
(a) Yn nodyn o dan y pennawd “Rural Rate Relief”—
(i) ar ôl y geiriau “From 1 April 2002” rhodder “until 31 March 2007”; a
(ii) mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—“From 1 April 2007 the Rural Rate Relief scheme is revoked and replaced by the National Assembly for Wales’s Small Business Rate Relief scheme mentioned below.”.
(b) Ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —“
From 1 April 2007 occupiers of —
(a) certain hereditaments with a rateable value of £2,000 or less are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill;
(b) certain hereditaments with a rateable value of more than £2,000 but not more than £5,000 are entitled to rate relief at 25% of the full rates bill;
(c) post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of not more than £9,000 are entitled to rate relief at 100% of the full rates bill; a
(d) post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of more than £9,000 but not more than £12,000 are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill.
In the cases of (a), (b) and (d) above billing authorities have discretion to provide relief in respect of all or part of the remaining 50% or 75% as the case may be.”.
(4) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2—
(a) Yn y nodyn o dan y pennawd “Rhyddhad Ardrethi Gwledig” —
(i) ar ôl y geiriau “O 1 Ebrill 2002 ymlaen” mewnosoder “hyd at 31 Mawrth 2007”; a
(ii) mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—“O 1 Ebrill 2007 ymlaen mae'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Gwledig wedi'i ddiddymu ac fe'i disodlir gan gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Cynulliad Cenedlaethol Cymru a grybwyllir isod.”
(b) Ar y diwedd, ychwaneger y canlynol —“
O 1 Ebrill 2007 ymlaen bydd gan feddianwyr—
(a) hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o £2,000 neu lai yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn;
(b) hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £5,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 25% o'r bil ardrethi llawn;
(c) swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o nid mwy na £9,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 100% o'r bil ardrethi llawn;
(ch) swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o fwy na £9,000 ond nid mwy na £12,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn.
Yn achosion (a), (b) ac (ch) uchod mae gan awdurdodau bilio y disgresiwn i ddarparu rhyddhad o ran y cyfan neu ran o'r 50% neu'r 75% gweddilliol yn ôl y digwydd.”.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir o ran unrhyw swm sy'n daladwy o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006