
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “cod cyfathrebu electronig” yr ystyr sydd i “electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003;
 mae “cyfarpar cyfathrebu electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys —
(a) cyfarpar o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig;
(b) strwythurau fel cytiau neu adeiladau eraill o ran eu natur (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w defnyddio ddim ond i gadw cyfarpar sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a); ac
(c) unrhyw gyfarpar atodol a feddiennir yn unig at ddibenion person a drwyddedir o dan adran 1 o Ddeddf Telegraffiaeth Radio 1949, a dim ond ar gyfer hynny, neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 159 o Ddeddf Cyfathrebu 2003;
 ystyr “Deddf 1988” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
 ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament
(a) a ddefnyddir ddim ond ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebu electronig,
(b) sy'n gwt ar y traeth neu'n swyddfa bost,
(c) y mae un neu fwy o baragraffau (a) i (c) o adran 47(2) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo,
(ch) sy'n hereditament a eithrir fel a ddiffinnir yn adran 47(9) o Ddeddf 1988,
(d) sy'n hereditament y Goron fel a ddiffinnir yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988, neu
(dd) sydd yn, neu fod rhan ohono yn, adeilad neu ran hunangynhwysol o adeilad fel a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o adran 66(2B) o Ddeddf 1988;
 ystyr “swyddfa bost” yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “post office”gan adran 42(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000.
3 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £12,000.
4 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, o ran hereditamentau â gwerth ardrethol o £5,000 neu lai, yr amodau i'w bodloni yw—
(a) nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir, a
(b) mae'r heraditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl.
5 
At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, o ran hereditamentau â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, yr amod i'w fodloni yw bod yr hereditament, neu fod rhan o hereditament, yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa bost.
6 
Y swm o E a ragnodir at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988 —
(a) os £2,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament a bod yr amodau yn erthygl 4 wedi'u fodloni, yw 2;
(b) os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £2,000 ond heb fod yn fwy na £5,000 a bod yr amodau yn erthygl 4 wedi'u bodloni, yw 1.333;
(c) os £9,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament a bod yr amod yn erthygl 5 wedi'i fodloni, yw 500,000;
(ch) os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £9,000 ond heb fod yn fwy nag £12,000 a bod yr amod yn erthygl 5 wedi'i fodloni, yw 2.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir y gorchmynion canlynol—
(a) Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998; a
(b) Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraff (1) i barhau mewn grym fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Rhagfyr 2006