
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“Community legislation”) yw'r offerynnau hynny a restrir yn yr Atodlen; ac
 ystyr “penderfyniad perthnasol” (“a relevant determination”) yw unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â chymorth ariannol a hawliadau am gymorth ariannol yn unol â deddfwriaeth Gymunedol neu mewn cysylltiad â'r ddeddfwriaeth honno ac â'r ddeddfwriaeth a ddyfynnir yn rheoliad 4 (a) i (i) o'r Rheoliadau hyn.
3 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn neu weithdrefnau er mwyn ystyried penderfyniad perthnasol ymhellach, a hynny ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd y weithdrefn honno neu'r gweithdrefnau hynny yn gweithio fel apêl yn erbyn y penderfyniad perthnasol dan sylw.
(2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir yn unol â pharagraff (1) osod unrhyw ddyddiadau cau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ffermwr gyflwyno iddo wybodaeth a dogfennau sy'n gymwys ac i roi hysbysiad o'i fwriad i apelio yn erbyn penderfyniad perthnasol.
(3) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu ar gyfer apelio ar lafar neu'n ysgrifenedig i'r personau hynny y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu penodi at y diben hwnnw (heb fod mwy na thri ohonynt), gyda'r bwriad eu bod yn llunio adroddiad o'u casgliadau a'u hargymhellion o ran sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar yr apêl.
(4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu unrhyw weithdrefn o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff—
(a) talu i'r personau a benodir felly unrhyw dâl am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill, y bydd y Cynulliad yn eu pennu; a
(b) codi ar unrhyw berson yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd felly unrhyw ffi (heb fod yn fwy na £100) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu.
4 

(1) Dileer y darpariaethau a ganlyn —
(a) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Uwchdiroedd Cymru — Estyniad) 1987;
(b) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Y Preseli) 1994;
(c) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Bryniau Clwyd) 1994;
(ch) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Maesyfed) 1993;
(d) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Ynys Môn) 1993;
(dd) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Penrhyn Llŷn) 1987;
(e) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Coetir Llydanddail) (Cymru) 1994;
(f) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Lleiniau Arfordirol) (Cymru) 1994;
(ff) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Gwelltiroedd Cyfoethog eu Rhywogaethau) (Cymru) 1994;
(g) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Ymylon Dŵr) (Cymru) 1994;
(ng) Paragraff 14(6) o Gynllun Premiwm Coetir Fferm 1997;
(h) Paragraff 14(3) o'r Cynllun Coetir Fferm 1988;
(i) Paragraff 14(3) o'r Cynllun Coetir Fferm 1992;
(j) Y geiriau “Cynllun Tir Mynydd ” yn yr Atodlen i Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001).
5 
Dirymir Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004) drwy hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 December 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 2
1 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006 dyddiedig 11 Gorffennaf 2006 yn gosod darpariaethau cyffredinol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a'r Gronfa Gydlyniant ac yn diddymu Rheoliad (EC) 1260/1999.
2 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gefnogi datblygiad gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
3 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1290/2005 dyddiedig 21 Mehefin 2005 ar gyllido'r polisi amaethyddol cyffredin.
4 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
5 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 795/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.
6 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 dyddiedig 29 Medi 2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) Rhif 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001.
7 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer cefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac yn diwygio a diddymu Rheoliadau penodol.
8 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 dyddiedig 29 Hydref 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1782/2004 parthed y cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a'r defnydd o dir sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cynhyrchu defnyddiau crai.
9 
Rheoliad y Cyngor (EEC) 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n gydnaws â gofynion diogelu'r amgylchedd a chynhaliaeth cefn gwlad.
10 
Rheoliad y Comisiwn (EC) 817/2004 dyddiedig 29 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop.