
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 fel a ganlyn —
(a) Yn rheloiad 3(3) yn lle “paragraff (1)(ch)” rhodder “paragraff (1)(dd)”
(b) Yn lle rheoliad 25 (Adolygu Ansawdd y Gofal) rhodder—“
25 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) y defnyddwyr gwasanaeth;
(ii) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth;
(iii) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal; a
(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) defnyddwyr gwasanaeth;
(b) cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth;
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal;
(ch) staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal; a
(d) y Cynulliad Cenedlaethol.
25A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth yn y cartref gofal.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
25B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau .”.
(c) Yn lle rheoliad 23 (Cwynion) rhodder—“
23 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i roi copi iddynt o'r weithdrefn gwynion ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y defnyddwyr gwasanaeth;
(b) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth; ac
(c) unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu bod defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya yn y cartref gofal.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, eu bod yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar yn y broses pan fo'n briodol.
(8) Os bydd y weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid bod y ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cartref.
23A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 23 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod sydd wedi trefnu i letya'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
23B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau .
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
23C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid iddo grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal.
(4) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(5) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
23D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
3 
Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 fel a ganlyn —
(a) Yn lle rheoliad 33 (Adolygu Ansawdd y Gofal) rhodder—“
33 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i blant.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu—
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn;
(b) bod y materion a nodir yn Atodlen 6 i gael eu monitro a'u hadolygu; ac
(c) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant;
(ii) yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;
(iii) awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant; a
(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref gofal ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig beidio â chydymffurfio â pharagraff (2)(c)(ii) neu (4)(b) mewn perthynas â phlentyn os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'i rieni neu'n cadw'r cysylltiadau hynny o fewn terfynau a'i bod yn angenrheidiol cyfyngu ar gyfathrebu at ddibenion diogelu neu hybu lles y plentyn.
(4) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant;
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;
(c) awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;
(ch) staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref plant;
(d) y Cynulliad Cenedlaethol.
33A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
33B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 24 (Cynrychioliadau a Chwynion) rhodder—“
24 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gwethdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan neu ar ran plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwynion iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref;
(b) eu rhieni;
(c) awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi yn y cartref plant yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid bod y ddarpariaeth hon wedi cael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cartref.
24A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 24 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau'r canfyddadwy'r plentyn.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleoli.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
24B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i blentyn mewn cartref plant, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
24C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
(3) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid iddo grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleoli i unrhyw blentyn a gaiff ei letya yn y cartref plant.
(5) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(6) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
24D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000
rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan paragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
4 
Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn —
(a) Ar ôl rheoliad 3 (Datganiad o Ddiben) mewnosoder —“
3A 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i blant.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) y plant perthnasol;
(ii) rhieni'r plant perthnasol;
(iii) awdurdod lleol sy'n trefnu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blentyn perthnasol; a
(iv) personau sy'n cael eu cyflogi i ofalu am blant perthnasol,
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) rhieni plant perthnasol;
(b) awdurdod lleol sy'n trefnu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blentyn perthnasol; ac
(c) personau sy'n cael eu cyflogi i ofalu am blant perthnasol; ac
(ch) y Cynulliad Cenedlaethol.
3B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant perthnasol.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
3C 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 14 (Cwynion) rhodder—“
14 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan neu ar ran plant perthnasol.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion plant.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwynion iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y plant perthnasol;
(b) eu rhieni; ac
(c) awdurdod lleol sy'n trefnu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd i blentyn perthnasol.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi i ofalu am blant perthnasol yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch ei gweithredu.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwyn yn ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar y gofal a ddarperir i blant perthnasol.
14A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 14 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd yn cael ei ddarparu i blentyn perthnasol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac y neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
14B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu darpariaeth i warchod plentyn neu ofal dydd i blentyn perthnasol, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
14C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu darpariaeth i warchod plentyn neu ofal dydd i blentyn perthnasol.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
14D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
5 
Diwygir Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 fel a ganlyn —
(a) Yn lle rheoliad 42 (Adolygu Ansawdd y Gofal) rhodder—“
42 

(1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i blant a leolwyd gan yr asiantaeth faethu annibynnol.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn;
(b) bod y materion a nodir yn Atodlen 7 yn cael eu monitro bob hyn a hyn fel y bo'n briodol; ac
(c) bod y darparydd gwasanaeth maethu yn cael barn —
(i) y plant a leolwyd ganddo;
(ii) eu rhieni;
(iii) unrhyw riant maeth neu ddarpar riant maeth y gwasanaeth maethu
(iv) awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo; a
(v) personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth faethu annibynnol
ar ansawdd y gofal maeth sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal maeth, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) plant a leolwyd ganddo;
(b) eu rhieni;
(c) unrhyw riant maeth neu ddarpar riant maeth y gwasanaeth maethu;
(ch) awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo;
(d) personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth faethu annibynnol; ac
(dd) y Cynulliad Cenedlaethol.
42A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn i'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i blant a leolwyd ganddo.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1) rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yr asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
42B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r darparydd gwasanaeth maethu ar unrhyw bryd am y camau y mae'n rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd er mwyn sicrhau cydymffurfedd â gofynion Deddf 1989 a Deddf 2000 ac ag unrhyw reoliadau a wneir odanynt
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff(1).
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 18 (Asiantaethau maethu annibynnol — cwynion a sylwadau) rhodder —“
18 

(1) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r darparydd gwasanaeth maethu gan neu ar ran plant a leolwyd ganddo neu'r rhieni maeth.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion plant a leolwyd gan y darparydd gwasanaeth maethu.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y darparydd gwasanaeth maethu.
(4) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a chymryd pob cam rhesymol i roi copi iddynt o'r weithdrefn gwynion ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y plant a leolwyd ganddo;
(b) eu rhieni;
(c) y rhieni maeth; ac
(ch) awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo.
(5) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu sicrhau bod y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth faethu annibynnol yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwynion.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r darparydd gwasanaeth maethu wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth faethu annibynnol.
18A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 18 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y plentyn yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r plentyn.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r darparydd gwasanaethau maethu yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Caiff y darparydd gwasanaeth maethu, mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
18B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y darparydd gwasanaeth maethu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo, gadarnhau datrysiad lleol cwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
18C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y darparydd gwasanaeth maethu i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu anfon copi o ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurdod lleol unrhyw blentyn a leolwyd ganddo.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r darparydd gwasanaeth maethu cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person confrestig.
18D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r darparydd gwasanaethau maethu yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r darparydd gwasanaethau maethu wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y darparydd gwasanaethau maethu amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r darparydd gwasanaethau maethu y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r darparydd gwasanaethau maethu yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r darparydd gwasanaethau maethu yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r darparydd gwasanaethau maethu ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
6 
Diwygir Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 fel a ganlyn —
(a) Yn lle rheoliad 23 (Adolygu ansawdd gofal) rhodder —“
23 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i'r preswylwyr.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) y preswylwyr;
(ii) cynrychiolwyr y preswylwyr;
(iii) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod preswylydd yn cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd; a
(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi yn y ganolfan breswyl i deuluoedd
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) preswylwyr;
(b) cynrychiolwyr preswylwyr;
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod preswylydd yn cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd;
(ch) staff sy'n cael eu cyflogi yn y ganolfan breswyl i deuluoedd; a
(d) y Cynulliad Cenedlaethol.
23A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r preswylwyr yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
23B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 20 (Cwynion) rhodder—“
20 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion”) er mwyn ystyried cwynion a wneir iddo gan breswylydd neu berson sy'n gweithredu ar ran y preswylydd.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion preswylwyr.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwynion iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y preswylwyr;
(b) cynrychiolwyr y preswylwyr; ac
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod preswylydd yn cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi i weithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion, cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwynion.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y ganolfan breswyl i deuluoedd.
20A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 20 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y preswylydd yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r preswylydd.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod sydd wedi trefnu i letya'r preswylydd yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
20B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i breswylydd mewn canolfan breswyl i deuluoedd, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
20C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu llety i breswylydd yn y cartref preswyl i deuluoedd.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.”
20D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
7 
Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003 fel a ganlyn —
(a) Yn lle rheoliad 19 (darpariaeth adolygu ansawdd y gofal) rhodder—“
19 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) y defnyddwyr gwasanaeth;
(ii) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth;
(iii) unrhyw awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth GIG sydd wedi trefnu i ddarparu gwasanaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth; a
(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth, ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) defnyddwyr gwasanaeth;
(b) cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth;
(c) unrhyw awdurdod lleol neu ymddiriedolaeth GIG sydd wedi trefnu i ddarparu gwasanaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth;
(ch) staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth; a
(d) y Cynulliad Cenedlaethol.
19A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
19B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 18 (Cwynion) rhodder—“
18 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwyno”) er mwyn ystyried cwynion a wneir iddo gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwyno fod yn briodol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwyno a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwyno iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y defnyddwyr gwasanaeth;
(b) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth; ac
(c) unrhyw awdurdod neu gorff iechyd sydd wedi trefnu i ddarparu gwasanaeth i ddefnyddiwr gwasanaeth.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwyno, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwyno.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.
18A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwyno a lunnir o dan reoliad 18 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol neu'r corff iechyd sydd wedi trefnu i wasanaethau gael eu darparu i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
18B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu darparu gwasanaethau i ddefnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
18C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu i ddarparu gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
18D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
8 
Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 fel a ganlyn —
(a) Yn lle rheoliad 22 (Adolygu ansawdd gweithrediad y cynllun) rhodder—“
22 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i bob oedolyn sydd wedi'i leoli o dan y cynllun lleoli oedolion.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) yr oedolion perthnasol;
(ii) cynrychiolwyr yr oedolion perthnasol;
(iii) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion;
(iv) gofalwyr lleoliad oedolion; a
(v) y staff sy'n cael eu cyflogi gan y cynllun,
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) oedolion perthnasol;
(b) cynrychiolwyr oedolion perthnasol;
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion;
(ch) gofalwyr lleoliad oedolion;
(d) staff sy'n cael eu cyflogi gan y cynllun; ac
(dd) y Cynulliad Cenedlaethol.
22A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig gynnal asesiad o ansawdd gweithredu'r cynllun gan gynnwys ansawdd y llety a'r gofal sy'n cael eu darparu i oedolion perthnasol drwy'r cynllun.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
22B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 21 (Cwynion) rhodder—“
21 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwyno”) ar gyfer ystyried cwynion a wneir iddo gan oedolyn perthnasol neu berson sy'n gweithredu ar ran oedolyn perthnasol neu ofalwr lleoliad oedolion.
(2) Rhaid i'r drefn gwyno fod yn briodol i anghenion oedolion perthnasol.
(3) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y drefn gwyno a chymryd camau rhesymol i roi copi o'r drefn gwyno iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) yr oedolion perthnasol;
(b) cynrychiolwyr yr oedolion perthnasol; ac
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y gofalwyr lleoliad oedolion a'r staff sy'n cael eu cyflogi at ddibenion y cynllyn yn cael eu hysbysu o'r drefn gwyno, yn cael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r drefn gwyno.
(6) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y drefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r drefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r drefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth y cynllun.
21A 

(1) Rhaid i'r drefn gwyno a lunnir o dan reoliad 21 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles yr oedolyn perthnasol yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r oedolion perthnasol.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu i leoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolion.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
21B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau gwaith.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu llety i oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
21C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu lleoli oedolyn gyda gofalwr lleoliad oedolyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
21D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
9 
Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 fel a ganlyn —
(a) Yn lle rheoliad 23 (Adolygu darpariaeth ansawdd y gwasanaeth) rhodder—“
23 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal sy'n cael ei roi i'r defnyddwyr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gofal yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) y defnyddwyr gwasanaeth;
(ii) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth;
(iii) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gofal yn cael ei ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth; a
(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth,
ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gofal, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) defnyddwyr gwasanaeth;
(b) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth;
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gofal yn cael ei ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth;
(ch) staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth; a
(d) y Cynulliad Cenedlaethol.
23A 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
23B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â'r Ddeddf ac ag unrhyw reoliadau a wneir odani.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 21 (Cwynion) rhodder—“
21 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwyno”) er mwyn ystyried cwynion a wneir iddo gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwyno fod yn briodol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwyno a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwyno iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) y defnyddwyr gwasanaeth;
(b) cynrychiolwyr y defnyddwyr gwasanaeth; ac
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gofal yn cael ei ddarparu i ddefnyddiwr gwasanaeth.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth yn cael eu hysbysu o'r drefn gwyno a chael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwyno.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y drefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwyno gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac yn gynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwyno yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.
21A 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwyno a lunnir yn unol â rheoliad 21 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol neu'r corff iechyd sydd wedi trefnu i wasanaethau gael eu darparu i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
21B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu darparu'r gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
21C 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynhoi natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol neu gorff iechyd sydd wedi trefnu darparu'r gwasanaethau i'r defnyddiwr gwasanaeth gan yr asiantaeth.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r gwyn gan y person cofrestredig.
21D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
10 

(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 fel a ganlyn —
(a) Ar ôl rheoliad 26 (Ffitrwydd y fangre) mewnosoder —“
26A 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gwasanaethau cymorth mabwysiadu sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth.
(2) Rhaid i'r system a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu —
(a) bod ansawdd y gwasanaeth yn cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn; a
(b) bod y person cofrestredig yn cael barn —
(i) unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(ii) cynrychiolwyr unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(iii) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gwasanaeth cymorth mabwysiadu yn cael ei ddarparu gan yr asiantaeth; a
(iv) y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth ar ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu, fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir.
(3) Yn dilyn adolygiad o ansawdd y gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig lunio adroddiad ar yr adolygiad hwnnw o fewn 28 o ddiwrnodau a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael ar fformat priodol pan ofynnir iddo wneud hynny gan —
(a) unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(b) cynrychiolwyr unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(c) unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gwasanaeth cymorth mabwysiadu yn cael ei ddarparu gan yr asiantaeth;
(ch) staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth; a
(d) y Cynulliad Cenedlaethol.
26B 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ofyn ar unrhyw bryd i'r person cofrestredig i gynnal asesiad o'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.
(2) O fewn 28 o ddiwrnodau o gael cais o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol asesiad ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau na fydd yr asesiad yn gamarweiniol nac yn anghywir.
26C 

(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd hysbysu'r person cofrestredig am y camau y mae'n rhaid i'r person cofrestredig ym marn y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â Deddf 2000 a Deddf 2002 ac ag unrhyw reoliadau a wneir odanynt.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu'r amserlen erbyn pryd y mae'n rhaid i'r person cofrestredig gymryd y camau sy'n ofynnol o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd unrhyw gamau sy'n ofynnol o dan baragraff (1) wedi'u cwblhau.”.
(b) Yn lle rheoliad 19 (Cwynion) rhodder y canlynol —“
19 

(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion”) er mwyn ystyried cwynion a wneir iddo gan berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.
(2) Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn briodol i anghenion y person sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer ystyried cwynion a wneir am y person cofrestredig.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau canlynol yn ymwybodol o fodolaeth y weithdrefn gwynion a chymryd pob cam rhesymol i roi copi o'r weithdrefn gwynion iddynt ar fformat priodol neu ar unrhyw fformat y gofynnir amdano —
(a) personau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;
(b) cynrychiolwyr person sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth; ac
(c) unrhyw awdurdod sydd wedi trefnu bod gwasanaeth cymorth mabwysiadu yn cael ei ddarparu gan yr asiantaeth.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr asiantaeth yn cael eu hysbysu o'r weithdrefn gwynion a chael copi ohoni a'u hyfforddi'n briodol ynghylch gweithredu'r weithdrefn gwynion.
(6) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys —
(a) enw, cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b) y weithdrefn, os oes un, y mae'r person cofrestredig wedi'i hysbysu ohoni gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(7) Rhaid i'r weithdrefn gwynion gynnwys darpariaeth ar gyfer datrys cwynion yn lleol ac mewn cyfnod cynnar, pan fo'n briodol.
(8) Os yw'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r ddarpariaeth hon gael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.”.
(9) Ni roddir cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol o dan (8) ond pan fo'r weithdrefn gwynion yn cynnwys darpariaeth i'r ystyriaeth ffurfiol gael ei gwneud gan berson sy'n annibynnol ar reolaeth yr asiantaeth.
(c) Yn lle rheoliad 20 (Cwynion — gofynion pellach) rhodder y canlynol —“
20 

(1) Rhaid i'r weithdrefn gwynion a lunnir o dan reoliad 19 gael ei gweithredu yn unol â'r egwyddor bod lles y personau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth yn cael ei ddiogelu a'i hybu a rhaid ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy'r personau hynny.
(2) Pan fo cwyn yn cael ei gwneud, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r achwynydd o'i hawl i gwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw bryd neu, pan fo'n berthnasol, i'r awdurdod lleol sydd wedi trefnu bod gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn cael eu darparu gan yr asiantaeth.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd am argaeledd unrhyw wasanaethau eiriolaeth y mae'r person cofrestredig yn credu y gallant fod o gymorth i'r achwynydd. Pan fo hynny'n berthnasol a phan fo'r achwynydd yn blentyn, rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r achwynydd bod rhaid i awdurdod lleol sy'n cael cwyn ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynyddion, ac yn neilltuol rhaid iddo gynnig cymorth i gael eiriolwr.
(4) Mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, caiff y person cofrestredig, gyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu roi cymorth arall at ddibenion datrys y gwyn.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gwyn, canlyniad yr ymchwiliad iddi ac unrhyw gamau a gymerwyd wrth ymateb i'r gwyn.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeng mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.
20A 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin yn lleol gael eu datrys gan y person cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau.
(2) Os caiff y gwyn ei datrys o dan baragraff (1), rhaid i'r person cofrestredig gadarnhau'n ysgrifenedig i'r achwynydd y datrysiad y cytunwyd arno.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig, ar gais y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth, gadarnhau'r datrysiad lleol i gwyn.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn am hyd at 14 o ddiwrnodau gwaith pellach gyda chytundeb yr achwynydd.
20B 

(1) Rhaid i gwynion sy'n cael eu trin drwy gyfrwng ystyriaeth ffurfiol gael eu datrys cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 35 o ddiwrnodau i'r cais am ystyriaeth ffurfiol.
(2) Rhaid i ganlyniad ystyriaeth ffurfiol gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y person cofrestredig i'r achwynydd a rhaid i'r cadarnhad hwnnw grynho i natur a sylwedd y gwyn, yr ymchwiliad a wnaed, y casgliadau a'r camau sydd i'w cymryd o ganlyniad.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig anfon copi o'r ymateb ysgrifenedig i gwyn i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac at unrhyw awdurdod lleol sydd wedi trefnu darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth.
(4) Caniateir i'r terfyn amser ym mharagraff (1) gael ei estyn gyda chytundeb yr achwynydd.
(5) Os na chafodd y gwyn ei datrys o fewn 35 o ddiwrnodau ar ôl y cais am ystyriaeth ffurfiol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r gwyn a'r rhesymau dros yr oedi am ei datrys.
(6) Os plentyn yw'r achwynydd, rhaid i'r person cofrestredig benodi person annibynnol a fydd yn cymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o'r cynrychioliadau gan y person cofrestredig.
20D 

(1) Pan fo a wnelo cwyn ag unrhyw fater—
(a) y mae'r achwynydd wedi datgan yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu codi achos mewn unrhyw lys neu dribiwnlys amdano, neu
(b) y mae'r person cofrestredig yn codi achos disgyblu amdano neu'n bwriadu codi achos disgyblu amdano, neu
(c) y mae'r person cofrestredig wedi cael ei hysbysu amdano bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan unrhyw berson neu gorff wrth ystyried achos troseddol; neu
(ch) y cynhaliwyd cyfarfod amdano sy'n cynnwys cyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion agored i niwed, neu
(d) yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano bod ymchwiliadau cyfredol wrth ystyried achos o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, rhaid i'r person cofrestredig ystyried, wrth ymgynghori â'r achwynydd ac unrhyw berson arall neu gorff arall y mae'n briodol yn ei farn ef ymgynghori ag ef, sut y dylid ymdrin â'r gwyn. Rhaid cyfeirio at y cyfryw gwynion at ddibenion y rheoliad hwn fel “cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol”.
(2) Caniateir peidio â pharhau i ystyried cwynion sy'n ddarostyngedig i ystyriaeth gydamserol os ymddengys ar unrhyw adeg i'r person cofrestredig y byddai parhau yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.
(3) Pan fo'r person cofrestredig yn penderfynu peidio â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad am y penderfyniad hwnnw i'r achwynydd.
(4) Pan fo'r person cofrestredig yn peidio â pharhau i ystyried unrhyw gwyn o dan baragraff (2), gellir ailddechrau'r ystyriaeth ar unrhyw adeg.
(5) Os peidir â pharhau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r person cofrestredig ganfod pa mor bell y mae'r ystyriaeth gydamserol wedi mynd a hysbysu'r achwynydd pan fydd ar ben.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig ailddechrau ystyried unrhyw gwyn pan beidir â pharhau â'r ystyriaeth gydamserol neu pan fydd wedi'i chwblhau a phan fo'r achwynydd yn gwneud cais i'r gwyn gael ei hystyried o dan y Rheoliadau hyn.”.
11 
Ym mharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau Cofrestri Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, yn lle “carry on” rhodder “manage”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006