
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006.
(2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas â chwestiwn perthnasol.
(3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr “cwestiwn perthnasol” yw cwestiwn o dan Reoliadau Addysg (Mân Dreuliau) 1997 parthed a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu i grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hyn ac—
(a) sy'n codi ynglŷn â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; a
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2 
Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005, mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a) ym mharagraff (2), rhodder “£13,431” yn lle “£13,116”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—“
(a) £83 pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,470; a
(b) £43 pan fo'r incwm hwnnw uwchlaw £12,470 ond nad yw uwchlaw £13,431.”.
(3) Yn rheoliad 4 —
(a) ym mharagraff (3), rhodder “£12,483” yn lle “£12,195” ; a
(b) ym mharagraff (4), rhodder—
(i) “£12,483” yn lle “£12,195”; a
(ii) “£12,304” yn lle “£12,016”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Tachwedd 2006