
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006.
(2) Daw i rym ar Tachwedd 23 2006 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local transport authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “cydardal” (“collective area”) parthed grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol yw cydardal daearyddol yr awdurdodau trafnidiaeth lleol o fewn y grwp fel a ddiwygiwyd gan Erthygl 4 a fel a ddisgrifiwyd yn yr Atodlen fel y De-ddwyrain, y De-orllewin, Y Canolbarth a'r Gogledd yn ol y digwydd;
 ystyr “cynllun trafnidiaeth lleol cymwys” (“qualifying local transport plan”) yw cynllun trafnidiaeth lleol sy'n bodloni'r meini prawf a osodir yn adran 109C(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
 ystyr “y Ddeddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Trafnidiadeth 2000; ac
 ystyr “grŵp awdurdod trafnidiaeth lleol” (“local authority transport group”) yw unryw un o'r pedwar grwp o awdurdodau trafnidiaeth lleol a ddisgrifir yn yr Atodlen.
3 

(1) Mae cymhwysiad adran 108 o Ddeddf 2000 parthed paratoi cynlluniadau trafnidiaeth lleol gan awdurdodau trafnidiaeth lleol, yn ddarostynedig i erthygl 4 wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Gall yr awdurdodau trafnidiaeth lleol gyfansoddol baratoi cynllun trafnidiaeth leol ar y cyd parthed eu cydardal.
4 

(1) Yn unol ag adran 113A(1)(a) a (b) o Ddeddf 2000, gall awdurdod trafnidiaeth lleol Gwynedd, gan weithredu ar y cyd â'r awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Ngrŵp 3 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer eu cydardal ond er mwyn neilltuo pob ardal o Sir Gwynedd heblaw am ardal Meirionnydd.
(2) Yn unol ag adran 113A(1)(a) a (b) o Ddeddf 2000, gall awdurdod trafnidiaeth lleol Gwynedd, gan weithredu ar y cyd â'r awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Ngrŵp 4 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn lunio cynllun trafnidiaeth lleol ar gyfer eu cydardal i gynnwys sir Gwynedd ac eithrio dosbarth Meirionnydd.
5 
Yn unol ag adran 109C(2) o Ddeddf 2000, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cynllun trafridiaeth lleol cymwys yn cael ei ddisodli erbyn dim hwyrach na 30 Mehefin 2008.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Tachwedd 2006
YR ATODLEN
Erthygl 2 a 4


Rhif y Grŵp a chydardal Yr Awdurdod Lleol Cyfansoddol
Grŵp 1 Blaenau Gwent
Y De-ddwyrain Pen-y-bont ar Ogwr
 Caerffili
 Caerdydd
 Merthyr Tudful
 Sir Fynwy
 Casnewydd
 Rhondda Cynon Taf
 Tor-faen
 Bro Morgannwg
Grŵp 2 Abertawe
Y De-orllewin Castell-nedd Port Talbot
 Sir Gaerfyrddin
 Sir Benfro
Grŵp 3 Ceredigion
Y Canolbarth (gan gynnwys dosbarth Meirionnydd) Gwynedd
 Powys
Grŵp 4 Ynys Môn
Y Gogledd (ag eithrio Meirionnydd) Gwynedd
 Conwy
 Sir Ddinbych
 Sir y Fflint
 Wrecsam