
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006 a byddant yn dod i rym ar 16 Tachwedd 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 (Cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o lety diogel mewn cartref plant) wedi'i ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Tachwedd 2006