
Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 17 Tachwedd 2006.
2 

(1) Diwygir Rhan I o Atodlen 3 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ar ôl paragraff (18), mewnosoder y paragraff a ganlyn-“
18A 
In the case of any compound feeding stuff for animals other than pet animals, all the feed materials must be declared in the statutory statement by their specific names and with an indication, in descending order, of the percentage by weight of each feed material in the compound feeding stuff, subject to a limit of variation of ± 15% in relation to each declared percentage.”.
(3) Ym mharagraff 23(1), hepgorer y geiriau “and by paragraph 19 of Schedule 4 to the 2001 Regulations”.
(4) Ym mharagraff 26, yn lle'r ymadrodd “under paragraph 25 above or under paragraph 19 of Schedule 4 to the 2001 Regulations” rhodder “under paragraphs 18A or 25 above”.
3 
Dirymir y darpariaethau canlynol—
(a) rheoliad 17A o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001 a pharagraff 19 o Atodlen 4 iddynt; a
(b) rheoliadau 6 a 10(c) o Reoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2006