
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2007.
2 

(1) Diwygir Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 8 (Adnabod anifeiliaid a symudir i Aelod-wladwriaeth arall o'r daliad geni neu o'r daliad mewnforio), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Mae'n rhaid bod gan yr ail ddull o adnabod god adnabod sydd yn union yr un fath â'r cod a ddefnyddiwyd yn y dull cyntaf o adnabod o dan erthygl 6(3), yn achos anifail a aned yng Nghymru, neu erthygl 10(3) yn achos anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad.”.
(3) Yn erthygl 13 (Rhoi dull newydd o adnabod gyda chod gwahanol yn lle'r hen un)—
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (1) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl canfod bod y modd adnabod yn annarllenadwy neu ar goll, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (2) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl canfod bod y modd adnabod yn annarllenadwy neu ar goll, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.”.
(4) Yn erthygl 23 (Tynnu tagiau clust neu roi rhai newydd yn eu lle), ym mharagraff (3), (4) a (5)—
(a) yn lle “6 mis” rhodder “28 niwrnod”;
(b) yn lle “i'r tag symud gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy” rhodder “canfod bod y tag symud ar goll neu'n annarllenadwy”.
(5) Yn erthygl 24 (Tynnu tagiau clust a thatŵs o dan Orchmynion blaenorol neu roi rhai newydd yn eu lle)—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) yn lle “6 mis” rhodder “28 niwrnod”;
(ii)  yn lle “sylwi ei golli neu ar ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy” rhodder “ar ôl sylwi ei fod wedi ei golli neu ei fod yn annarllenadwy”.
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (4) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl canfod bod y tag tarddiad wedi cael ei dynnu neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.”;
(c) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (5) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl i'r nod F gael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.”;
(ch) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(6A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (6) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod ar ôl i'r nod R gael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.”.
(6) Yn erthygl 25 (Rhoi tagiau clust newydd yn lle rhai a gollwyd mewn marchnadoedd), ym mharagraff (2), ar ôl “cyn gynted ag y bo modd” mewnosoder“, ond dim mwy na 28 niwrnod ar ôl i'r tag clust neu'r tatŵgael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy”.
(7) Yn Rhan 9 (Amrywiol), cyn erthygl 35 (Gorfodi), mewnosoder—“
34A 
At unrhyw ddiben yn ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff arolygydd—
(a) casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail, ac at y diben hwn gall ofyn i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a dal gafael ar unrhyw anifail;
(b) ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad beri bod unrhyw gopi neu gofnodion ar gael;
(c) symud ymaith a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;
(ch) cael mynediad i, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnodion;
(d) pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith;
(dd) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd fod ar gael, a chofnodi eu Rhif au;
(e) fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion o Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu unrhyw bobl neu bethau eraill sydd yn ei dyb ef yn angenrheidiol, gydag ef.
34B 

(1) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud anifeiliaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad, neu oddi arno, os yw'r arolygydd wedi'i fodloni bod gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn briodol.
(2) Gellir diwygio neu ddirymu hysbysiad o dan baragraff (1) drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.
34C 
Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn wneud hynny yn ddi-oed, oni bai bod ganddo achos rhesymol i beidio.
34Ch 
Rhaid i berson beidio â rhoi gwybodaeth y gŵyr ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.
34D 

(1) Os dangosir bod tramgwydd yn erbyn y Ddeddf sydd wedi ei gyflawni gan gorff corfforaethol—
(a) wedi cael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b) i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau'r aelod hwnnw o ran rheoli megis petai yn gyfarwyddwr i'r corff.
(3) Ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath.”.
3 

(1) Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 6, yn lle is-baragraff (3) rhodder—“
(3) Pan fo anifail yn cael ei draddodi o ddaliad yr adnabod i Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r ceidwad roi tag adnabod arall ar yr anifail gyda chod sy'n union yr un fath â'r cyntaf a nodi'r cod sydd ar y tagiau adnabod yng nghofrestr y ceidwad ac yn y ddogfen symud.”.
(3) Ym mharagraff 16 (symud i Aelod-wladwriaeth arall drwy ganolfan gynnull)—
(i) yn is-baragraff (3), ar ôl “ceidwad”, dileer y gair “cofnodi” a mewnosoder “osod ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail sy'n dwyn ei god adnabod unigol, a chofnodi”;
(ii) yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle “Rhif ” rhodder “cod”;
(iii) yn lle is-baragraff (6) rhodder—“
(6) Nid yw is-baragraff (5)(a) yn gymwys ond o ran anifeiliaid a gafodd eu symud o'r daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Cymru) 2006 ddod i rym.”
(4) Ym mharagraff 17 (symud i Aelod-wladwriaeth arall drwy ganolfan gynnull)—
(i) yn is-baragraff (3), hepgorer y geiriau “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)”;
(ii) hepgorer is-baragraff (4).
4 
Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sy'n cymryd lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006, yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2006
ATODLEN
Erthygl 4

Yn lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005, rhodder:“
ATODLEN 3
Erthygl 17(3)(a)
”
