
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai ac anheddau y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
(b) ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989; ac
(c) ystyr “Gorchymyn 2002” (“the 2002 Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion adran 80(2)(b) o'r Ddeddf mae naill ai'r amod cyntaf neu'r ail amod yn gymwys—
(a) yr amod cyntaf yw, naill ai bod
(i) awdurdod tai lleol wedi datgan ardal yn ardal adnewyddu o dan adran 89 o Ddeddf 1989; neu
(ii) awdurdod tai lleol wedi darparu cymorth i unrhyw berson yn unol â pholisi a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn 2002 yn yr ardal honno (pŵer awdurdodau tai lleol i ddarparu cymorth);
(b) yr ail amod yw bod ardal ei ddosbarth neu'r ardal yn ei ddosbarth yn cynnwys lleiafswm o 25% o'r stoc dai a osodir gan landlordiaid y sector preifat.
(2) Rhaid i awdurdod tai lleol fod yn fodlon bod y naill neu'r llall o'r amodau a osodir o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) wedi'u bodloni cyn dynodi ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Hydref 2006