
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 20 Hydref 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar 20 Hydref 2006 neu ar ôl hynny.
2 
Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 yn unol â'r rheoliadau a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2 (ffurflenni cais am grant), ym mharagraff (1) ar ôl “Schedule” rhodder “or a form to the like effect”.
4 
Mae'r ffurflen a welir yn yr Atodlen yn cael ei diwygio yn y modd a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006
YR ATODLEN
Rheoliad 4
1 
Yn y testun sy'n rhagflaenu Rhan 1, yn lle'r geiriau “qualifying park home” ym mhob man lle digwyddant, rhodder “caravan”.
2 
Yng nghwestiwn 1.7, yn lle'r geiriau “a qualifying park home” rhodder “a caravan”.
3 
Yn y tabl sy'n dilyn cwestiwn 2.1, yn lle'r geiriau “Disabled adaptations to a qualifying houseboat or qualifying park home ” rhodder “Disabled adaptations to a qualifying houseboat or caravan”.
4 
Yn y tabl cyntaf sy'n dilyn cwestiwn 2.2, yn lle'r geiriau “Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or qualifying park home” rhodder “Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or caravan”.
5 
Yn lle Nodyn 5B, rhodder—“
5B 
A “caravan” is defined in section 58. This expression—
(a) means a caravan within the meaning of Part 1 of the Caravan Sites and Control of Development Act 1960 (disregarding the amendment made by section 13(2) of the Caravan Sites Act 1968); and
(b) includes any yard, garden, outhouses and appurtenances belonging to it or usually enjoyed with it.”.
6 
Yn nodyn 10, yn lle brawddeg olaf yr ail baragraff, rhodder—“
 The definition includes spouses and civil partners; persons who live together as husband and wife or as if they were civil partners; parents; grandparents; children; grandchildren; brothers; sisters; uncles; aunts; nephews; and nieces.”.
7 
Yn nodiadau 19, 36A a 36B, yn lle'r geiriau “qualifying park home” ym mhob man lle digwyddant, rhodder “caravan”.
8 
Yn nodyn 49, yn lle'r frawddeg gyntaf, rhodder—“
 A partner is a person who lives with you as husband, wife, or civil partner, whether or not you are married to or a civil partner of that person.”.
9 
Yn nodyn 90E, hepgorer y geiriau “married or unmarried” ym mhob man lle digwyddant, ac ym mharagraff (b) yn lle “them” rhodder “the couple”.