
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1978” (“the 1978 Act”) yw Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996;
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Cymdogaethau ac Amgylchedd Glân 2005.
2 
Daw darpariaethau canlynol Deddf 2005 i rym ar 27 Hydref 2006—
(a) adran 11 (hysbysiad symud);
(b) adran 12 (gwaredu);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 13 (canllawiau);
(ch) adran 15 (hysbysiad symud);
(d) adran 16 (gwaredu);
(dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 17 (canllawiau);
(e) adran 34 (tynnu placardiau a phosteri);
(f) at ddibenion amnewid adran 5 (ond gan eithrio adran 5(2)(d)) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989, adran 37 (pwerau gorfodi);
(ff) adran 50 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol i berchennog tir symud gwastraff oddi yno);
(g) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 56 (gorchmynion rheoli cŵn: darpariaethau atodol);
(ng) adran 66 (“person priodol”);
(h) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 67 (rheoliadau a gorchmynion);
(i) adran 80 (gorchmynion a rheoliadau);
(j) adran 81 (dehongli);
(ll) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 83 (tramgwyddau sŵn: defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(m) adran 84 at ddibenion dwyn i rym paragraffau 2, 7(2)(a) a (3), 8(2) a 12(2), (5) a (6) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (estyn Deddf Sŵn 1996 i gwmpasu mangreoedd trwyddedig etc.);
(n) adran 86 (gohirio dyletswydd i gyflwyno hysbysiad gostegu);
(o) adran 99 (trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig);
(p) adran 100 (adran 99: darpariaeth drosiannol);
(ph) yn Rhan 1 (cerbydau) o Atodlen 5 (diddymiadau), y diddymiadau i Ddeddf 1978 a Deddf 1984.
3 
I'r graddau nad yw eisoes mewn grym, mae adran 2 (gorchmynion gatio) yn dod i rym ar y dyddiad y mae Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 yn dod i rym.
4 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Tramgwyddau Amgylcheddol (Cosb Benodedig) (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 6 (pŵer i roi hysbysiadau cosb benodedig);
(b) adran 7 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 8 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(ch) adran 9 (hysbysiadau cosb benodedig: materion atodol);
(d) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 10 (tramgwydd gadael cerbyd: hysbysiadau cosb benodedig);
(dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 19 (tramgwydd ysbwriel: hysbysiadau cosb benodedig);
(e) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 20 (hysbysiadau clirio ysbwriel);
(f) adran 21 (hysbysiadau rheoli ysbwriel ar y stryd);
(ff) adran 22 (methu â chydymffurfio â hysbysiad: hysbysiadau cosb benodedig);
(g) adran 23 (rheolaethau ar ddosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl);
(ng) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 24 (hysbysiadau cosb benodedig: darpariaeth gyffredin);
(h) adran 25 (eithrio atebolrwydd);
(i) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 28 (hysbysiadau cosb benodedig: swm y gosb benodedig);
(j) adran 29 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(l) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 30 (hysbysiadau cosb benodedig: swyddogion awdurdodedig);
(ll) adran 31 (estyn hysbysiadau gwaredu graffiti i gwmpasu gosod posteri yn anghyfreithlon);
(m) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 38 (methu â dangos awdurdod: hysbysiadau cosb benodedig);
(n) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 45 (methu â darparu dogfennau: hysbysiadau cosb benodedig);
(o) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 48 (tramgwyddau sy'n ymwneud â chynwysyddion gwastraff: hysbysiadau cosb benodedig);
(p) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 52 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(ph) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig);
(r) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 60 (swm y cosbau penodedig);
(rh) adran 61 (pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad);
(s) adran 62 (swyddogion cymorth cymuned etc.);
(t) adran 69 (dynodi ardaloedd hysbysu o larwm);
(th) adran 70 (tynnu dynodiad yn ôl);
(u) adran 71 (hysbysu deiliaid allweddi a enwyd);
(w) adran 72 (enwi deiliaid allweddi);
(y) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 73 (tramgwyddau o dan adran 71: hysbysiadau cosb benodedig);
(a2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 74 (swm y gosb benodedig);
(b2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 75 (defnyddio derbynebau cosb benodedig);
(c2) adran 76 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi);
(ch2) adran 77 (pŵer mynediad);
(d2) adran 78 (gwarant i fynd i mewn i fangre drwy rym);
(dd2) adran 79 (pwerau mynediad: darpariaethau atodol);
(e2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 82 (tramgwyddau sŵn: hysbysiadau cosb benodedig);
(f2) adran 84 (estyn Deddf Sŵn 1996 i fangreoedd trwyddedig etc) at ddibenion dwyn i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 nad ydynt yn cael eu cychwyn gan erthygl 2(m);
(g2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 96 (defnyddio derbynebau cosb benodedig: awdurdodau haen uwch);
(ng2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 97 (defnyddio derbynebau cost benodedig: awdurdodau haen is);
(h2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 98 (adrannau 96 a 97: darpariaethau atodol);
(i2) Rhan 2 o Atodlen 5 (dirymiadau);
(l2) Rhan 9 o Atodlen 5 mewn perthynas â diddymu adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.
5 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 55 (pŵer i wneud gorchmynion rheoli cwn);
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 57 (tir y mae Pennod 1 yn gymwys iddo);
(c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 58 (prif awdurdodau ac awdurdodau eilaidd);
(ch) adran 63 (pwerau sy'n gorgyffwrdd);
(d) adran 64 (is-ddeddfau);
(dd) adran 65 (Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996);
(e) Rhan 5 o Atodlen 5.
6 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 101 (niwsans statudol: trychfilod);
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 103(2)(a) a (4)(a) (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol).
7 
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym—
(a) adran 102 (niwsans statudol: goleuadau);
(b) adran 103 (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol) ac eithrio adran 103(2)(a) a (4)(a).
8 

(1) Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1978 gan—
(a) adran 11 (sy'n diwygio adran 3 o Ddeddf 1978);
(b) adran 12 (sy'n diwygio adran 4 o Ddeddf 1978);
(c) adran 13 (sy'n mewnosod adran 4A (canllawiau) yn Neddf 1978),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd y mae awdurdod lleol, a hynny cyn 27 Hydref 2006—
(a) wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 3(2) o Ddeddf 1978; neu
(b) wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.
9 

(1) Nid yw'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1984 gan—
(a) adran 15 (sy'n diwygio adran 99 o Ddeddf 1984);
(b) adran 16 (sy'n diwygio adran 101 o Ddeddf 1984);
(c) adran 12 (sy'n diwygio adran 103 o Ddeddf 1984),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 99, 101 a 103 o Ddeddf 1984 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gerbyd—
(a) sydd ar ffordd ac y mae awdurdod wedi rhoi hysbysiad mewn perthynas ag ef cyn 27 Hydref 2006 o dan adran 99(3) o Ddeddf 1984;
(b) y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno cyn 27 October 2006 o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno.
10 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac er gwaethaf ei diddymu gan adran 65 o Ddeddf 2005 a Rhan 5 o Atodlen 5 iddi, mae Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn y dyddiad y diddymir Deddf 1996 yn unol â rheoliad 5(e) o'r Gorchymyn hwn.
(2) Bydd unrhyw dir sy'n dir dynodedig yn union cyn diddymu Deddf 1996 gan erthygl 5(e) o'r Gorchymyn hwn yn peidio â bod yn dir dynodedig ar y dyddiad y daw'r diddymiad yn weithredol—
(a) i'r graddau y mae gorchymyn rheoli cŵn (p'un a yw'n ymwneud â baeddu tir gan gŵn) a wnaed o dan adran 55 o Ddeddf 2005 yn gymwys mewn perthynas â'r tir hwnnw;
(b) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddirymu; neu
(c) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i leihau maint y tir dynodedig, i'r graddau y mae hwnnw wedi'i leihau.
(3) O ran effaith barhaol Deddf 1996—
(a) mae adran 88(2) i (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 4(2) a (3) o Ddeddf 1996, yn parhau i fod yn gymwys fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 19 o Ddeddf 2005 i adran 88 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb eu gwneud;
(b) er gwaethaf eu diddymu gan Ran 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, mae paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 a pharagraff 1(2)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 yn parhau i fod yn effeithiol;
(c) er gwaethaf ei diddymu gan Ran 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, bydd adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn parhau i fod yn effeithiol fel petai is-adrannau (2)(a), (3)(a) ac (c) a (4) o'r adran honno wedi'u dileu.
(4) Yn yr erthygl hon—
 mae i “tir dynodedig” yr ystyr a roddir i “designated land” yn adran 2(1) o Ddeddf 1996; ac
 ystyr “gorchymyn dynodi” (“designation order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 2(1) o Ddeddf 1996.
11 
Yn erthygl 5(1) o Orchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 —
(a) ar ôl “adran 32” mewnosoder “(7) ac (8)”; a
(b) hepgorer “a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2006