
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996; ac
 ystyr “y Rheolau Mewnfudo” (“the Immigration Rules”) yw'r rheolau a osodwyd fel a grybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (Darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio a rheoli).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (Dosbarthiadau a ragnodwyd o dan adran 160A(3) ac sy'n bersonau cymwys)—
(a) ar ddiwedd paragraff (d)(ii), ar ôl “1961”, hepgorer “.” a rhodder yn ei le “;”; a
(b) ar ôl paragraff (d), mewnosoder—“
(e) Dosbarth D1 —“person sydd o dan ofal dyngarol a roddwyd o dan y Rheolau Mewnfudo.”
3 
Nid oes gan y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn effaith mewn perthynas â cheisydd a wnaeth gais cyn 9 Hydref 2006 am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Hydref 2006