
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Awst 2006.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn erthygl 2(1) (cymhwyso adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 ar ôl “Epizootic haemorrhagic virus disease” mewnosoder “Equine infectious anaemia”.
3 
Yn Rhan I o Atodlen 1 (Clefydau Penodedig) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996  ar ôl “Epizootic haemorrhagic virus disease” mewnosoder “Equine infectious anaemia”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
Jane Hutt
Y Trefnydd a'r Gweinidog dros Gydraddoldebau a Phlant
16 Awst 2006