
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997.
2 
I'r graddau nad yw'r diwygiadau a wneir i'r Prif Reoliadau gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 yn gymwys o ran Cymrumae'r diwygiadau hynny drwy hyn yn cael eu cymhwyso o ran Cymru yn ddarostyngedig i ddiwygiadau pellach a wneir gan y Gorchymyn hwn.
3 
Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
4 
Yn rheoliad 2(1A), hepgorer y geiriau “in relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only”.
5 
Yn rheoliad 2(1B), hepgorer y geiriau “in relation to England and in relation to Wales for the purposes of its application to regulation 4 only”.
6 
Hepgorer rheoliad 2(4).
7 
Yn rheoliad 2(4B) hepgorer y geiriau “In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,”.
8 
Hepgorer rheoliad 2(5).
9 
Yn rheoliad 2(5B), hepgorer y geiriau “In relation to England”.
10 
Hepgorer rheoliad 2(6).
11 
Ym mhennawd rheoliad 6A ac yn rheoliad 6A(1) a (2), hepgorer y geiriau “In relation to England” .
12 
Hepgorer rheoliad 8(2).
13 
Yn yr Atodlen—
(a) hepgorer paragraffau 1(1), 5(1), 6(1), 7, 8 a 9; a
(b) ym mharagraffau 1(2), 1(4), 5(2) a 6(2) hepgorer y geiriau “In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2006