
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001.
2 
Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—
(a) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “cerdyn hawl” (“entitlement card”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 9A(1);”;
(b) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol” (“Primary Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a sefydlwyd o dan adran 16A o'r Ddeddf;”;
(c) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “claf cymwys” (“qualifying patient”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 9A(3);”;
3 

(1) Diwygir rheoliad 3 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.
(2) Yn lle is-baragraff (1)(b) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—“
(b) pan fo'r claf yn cyflwyno presgripsiwn cyfatebol—
(i) mewn achosion pan fo'r claf yn glaf cymwys sydd hefyd yn cyflwyno cerdyn hawl dilys—(aa) am eitem hosan elastig ffi o £3.00, hynny yw ffi o £6.00 y pâr,(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £3.00;
(ii) ym mhob achos arall—(aa) am eitem hosan elastig y ffi yw'r hyn a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.”.
(3) Yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—“
(b) am bob swp-ddyroddiad cyfatebol—
(i) mewn achosion pan fo'r claf yn glaf cymwys sydd hefyd yn cyflwyno cerdyn hawl dilys—(aa) am eitem hosan elastig ffi o £3.00, hynny yw ffi o £6.00 y pâr,(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £3.00;
(ii) ym mhob achos arall—(aa) am eitem hosan elastig y ffi yw'r hyn a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.”.
(4) Yn lle is-baragraff (5)(b) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—“
(b) os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau—
(i) pan fo'r claf yn glaf cymwys sydd hefyd yn cyflwyno cerdyn hawl dilys, rhaid i'r ffi o £3.00 sydd i'w thalu am y cyffur hwnnw gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf,
(ii) ym mhob achos arall, mae'n rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.”.
4 
Yn lle is-baragraff (1)(c) o reoliad 8 rhodder yr is-baragraff a ganlyn—“
(c) person sydd dan 25 mlwydd oed ac sydd—
(i) yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig, neu
(ii) yn cyflwyno swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu
(iii) yn glaf cymwys sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol a cherdyn hawl dilys, neu
(iv) yn glaf cymwys sy'n cyflwyno swp-ddyroddiad cyfatebol sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol a cherdyn hawl dilys;”.
5 
Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder y rheoliad a ganlyn—“
9A 

(1) Bydd Bwrdd Iechyd Lleol, pan fydd wedi ei fodloni bod person yn glaf cymwys, yn dyroddi cerdyn (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel “cerdyn hawl”) i'r person hwnnw fydd yn ddilys dros gyfnod a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
(2) Mae cerdyn hawl a ddyroddir yn rhoi i'r claf cymwys y rhoddir ef iddo—
(a) hawl i dalu'r ffioedd am gyflenwi cyffuriau a chyfarpar yn ôl y gyfradd a bennir ym mharagraffau (1)(b)(i), (3)(b)(i) a (5)(b)(i) o reoliad 3; a
(b) i'r cleifion cymwys hynny sydd o dan 25 mlwydd oed, hawl i hawlio'r eithriad rhag y ffi a bennir ym mharagraffau (1)(c)(iii) a (iv) o reoliad 8
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “claf cymwys” yw person—
(a) sydd yn preswylio yng Nghymru; a
(b) sydd yn derbyn gwasanaethau o dan Ran 1 o'r Ddeddf gan ddarparydd sydd wedi contractio gydag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol i ddarparu gwasanaethau o'r fath; ac
mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath.”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2006