
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006 a fe ddaw i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.
2 
Mae'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094), a gyflwynwyd i'w gymeradwyo ar 6 Hydref 2005 gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac sydd i'w gyhoeddi gan RICS Business Services Limited, wedi'i gymeradwyo.
3 
Mae'r gymeradwyaeth o'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996 wedi'i thynnu'n ôl.
4 
Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn achos cyfreithiol) o ran gweithred neu anwaith sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006