
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999 o ran Cymru.
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “ardal berthnasol” yr un ystyr i “relevant area” yn Rheoliadau Addysg (Ardaloedd Perthnasol i ymgynghori ar Drefniadau Derbyn) 1999
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “nifer derbyn” (“admission number”) yw'r nifer o ddisgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y bwriedir eu derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol, fel a benderfynir gan awdurdod derbyn yn unol ag adran 89A(1);
 ystyr “nifer derbyn a nodir” (“indicated admission number”) yw nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol a benderfynir yn unol â'r dull asesu capasiti a nodir yn y canllawiau, “Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru” ;
 mae i “rhiant” yr ystyr sydd i “parent” yn adran 576 o Ddeddf Addysg 1996.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf.
Rhan 1
4 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 90(1)(c) y disgrifiad o wrthwynebiadau na chaniateir eu cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 90(1).
(2) Ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad—
(a) Os sylwedd y gwrthwynebiad yw ceisio newid y trefniadau derbyn o dan sylw a hwnnw'n newid a fyddai'n gyfystyr â newid a ragnodwyd at ddibenion adran 28, neu
(b) mewn unrhyw achos pan mai corff llywodraethu ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yw'r corff sy'n ceisio gwneud y gwrthwynebiad ac nad yw'r cyfrifoldeb dros benderfynu trefniadau derbyn yr ysgol wedi'i ddirprwyo iddo o dan adran 88(1)(a)(ii), ac mai gwrthwynebiad i'r canlynol yw'r gwrthwynebiad—
(i) trefniadau derbyn unrhyw ysgol gymunedol arall neu ysgol wirfoddol arall a reolir yn yr ardal berthnasol lle'r awdurdod addysg lleol yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, neu
(ii) trefniadau derbyn yr ysgol y mae'r corff sy'n ceisio gwneud y gwrthwynebiad yn gorff llywodraethu arni, onid yw sylwedd y gwrthwynebiad yn ymwneud â phenderfynu unrhyw nifer derbyn ar gyfer yr ysgol honno.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad o dan adran 90(1) onid yw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos ar ôl i'r hysbysiad sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 89(4)(b) ddod i law'r awdurdod derbyn sy'n gwrthwynebu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad o dan adran 90(2) onid yw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd gyntaf hysbysiad o'r penderfyniad ar drefniadau derbyn perthnasol mewn papur newydd yn y dull sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 89.
(3) Mae gwrthwynebiad sy'n dod i law ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) neu (2) i'w ystyried fel pe bai wedi'i gyfeirio'n briodol os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r gwrthwynebiad fod wedi dod i law yn gynharach na'r amser y daeth i law.
Rhan 2
6 
At ddibenion adran 90(2)(b) y disgrifiad o riant a gaiff gyfeirio gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau derbyn o dan yr is-adran honno yw unigolyn—
(a) os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(a), sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd; neu
(b) os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(b), sy'n rhiant y mae ei blentyn wedi cael ei ben blwydd yn ddwy oed ond heb gael ei ben blwydd yn bump oed, neu sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd,ac sydd (yn y naill achos a'r llall) yn preswylio yn yr ardal berthnasol y mae ymgynghori o dan adran 89(2)(b) ynghylch y trefniadau derbyn hynny'n gymwys.
7 

(1) At ddibenion adran 90(2)(c) y disgrifiad o wrthwynebiad y caniateir ei gyfeirio o dan adran 90(2) yw—
(a) gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli;
(b) gwrthwynebiad sy'n ymwneud â nifer derbyn ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn,
(a) ystyr “trefniadau dethol” (“selection arrangements”) yw'r trefniadau hynny (os oes rhai) yn y trefniadau derbyn a benderfynwyd ar gyfer ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol ac sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu o fewn ystyr adran 99(5); a
(b) mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—
(i) yn parhau o'r ddarpariaeth a wnaed yn nhrefniadau derbyn yr ysgol o dan sylw ar ddechrau blwyddyn ysgol 1997/98 ac a wnaed gan drefniadau derbyn olynol yr ysgol byth oddi ar hynny, a
(ii) yn llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon.
(3) At ddiben paragraff (2)(b)(ii), mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1) a (2)(c) (dosbarthiadau chwech), neu adran 101 (bandio disgyblion).
8 

(1) Rhaid i'r amod ym mharagraff (2) gael ei fodloni cyn bydd yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant o dan adran 90(2).
(2) Yr amod yw bod nid llai na phump o rieni sy'n bodloni'r gofyniad yn rheoliad 6 wedi cyfeirio gwrthwynebiadau o dan adran 90(2) (neu un neu fwy o wrthwynebiadau ar y cyd)—
(a) sy'n ymwneud â'r un trefniadau derbyn; a
(b) sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.
Rhan 3
9 

(1) Rhaid cyhoeddi penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhesymau drostynt o dan adran 90(7)—
(a) drwy hysbysu'n ysgrifenedig y partïon i'r gwrthwynebiad a'r holl gyrff eraill yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn ymgynghori â hwy o dan adran 89(2), neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â hwy ynghylch y trefniadau derbyn arfaethedig; a
(b) yn achos penderfyniad ar wrthwynebiad yn ymwneud â—
(i) trefniadau derbyn sydd eisoes yn bodoli o fewn ystyr rheoliad 7(2), neu
(ii) nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir
(pa un a gyfeiriwyd gwrthwynebiadau o'r fath gan riant ai peidio) drwy gyhoeddi'r wybodaeth ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.gwybodaeth.cymru.gov.uk o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad a'r rhesymau drosto.
(2) Yr wybodaeth i'w chyhoeddi o dan is-baragraff (1)(b) yw—
(a) enw'r awdurdod derbyn a'r ysgol (os yw'n wahanol) y mae'r trefniadau dethol yn gymwys iddynt; a
(b) disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.
10 

(1) Pan fo gwrthwynebiad ynghylch trefniadau derbyn ysgol benodol ar gyfer blwyddyn ysgol benodol wedi'i benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol ni chaniateir cyfeirio unrhyw wrthwynebiad dilynol (gan y person neu'r corff a wnaeth y gwrthwynebiad neu gan unrhyw un arall) ynghylch—
(a) y trefniadau hynny; neu
(b) trefniadau'r ysgol honno ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol,
a hwnnw'n wrthwynebiad sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.
(2) Nid yw paragraff (1)(b) yn rwystro gwrthwynebiad rhag cael ei gyfeirio ynghylch trefniadau ysgol—
(a) pan fo'r penderfyniad a grybwyllir ym mharagraff (1) wedi cadarnhau gwrthwynebiad i drefniadau derbyn yr ysgol; a
(b) pan mai sylwedd y gwrthwynebiad y ceisir yn awr ei gyfeirio yw bod trefniadau derbyn yr ysgol, a benderfynwyd gan yr awdurdod derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol, i'r graddau y maent yn berthnasol, yr un fath â'r rhai y cyfeiriwyd y gwrthwynebiad cynharach yn eu herbyn neu'n sylweddol yr un fath â hwy.
11 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan—
(a) bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud penderfyniad sy'n cadarnhau, i unrhyw raddau, wrthwynebiad i drefniadau derbyn a benderfynwyd gan awdurdod derbyn; a
(b) bydd yn rhesymol i awdurdod derbyn perthnasol fod o'r farn bod y trefniadau y mae wedi eu penderfynu, i'r graddau y mae'n berthnasol—
(i) yr un fath â'r trefniadau hynny; neu
(ii) yn ddigon tebyg i'r un penderfyniad fod wedi'i wneud yn eu herbyn pe bai gwrthwynebiad wedi'i wneud.
(2) Mewn achos pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn perthnasol adolygu ei drefniadau derbyn drwy wneud y newidiadau hynny sydd, ym marn resymol yr awdurdod, yn angenrheidiol er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad, a chaiff benderfynu ei drefniadau ar y ffurf honno sy'n ffurf wedi'i hadolygu.
(3) Ni chaniateir gwneud penderfyniad o'r fath ond—
(a) os gwneir trefniadau o'r fath o fewn deufis i'r dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto yn unol â rheoliad 9(1)(a); a
(b) os yw'r awdurdod derbyn perthnasol wedi hysbysu pob corff derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n yn ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad hwn, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod derbyn perthnasol” (“relevant admission authority”) yw awdurdod derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori o dan adran 89(2) â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, a hynny cyn iddo benderfynu'r trefniadau derbyn y mae'n dymuno eu hadolygu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006