
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006.
2 
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3 
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
4 
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Chwefror 2006.
5 
Y diwrnod penodedig i adran 175 ddod i rym yw 1 Medi 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
YR ATODLEN
Erthygl 4


Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 47 Niferoedd derbyn
Adran 48 Cyd-drefnu trefniadau derbyn
Adran 51 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym Diwygiadau pellach yn ymwneud â threfniadau derbyn
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 4, paragraffau 3(6), 5,6,7,12(2) a (6), 13,14 
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu— Diddymiadau
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), yn adran 84(6), y diffiniad o “the relevant standard number”, adran 86(6) adran 93, yn adran 143 y cofnod yn ymwneud â'r nifer safonol perthnasol, Atodlen 23 