
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001.
2 

(1) Diwygier Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.
(2) Ym mhob un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau “Bwrdd Safonau Gwin” lle bynnag y digwyddont, rhodder y gair “Asiantaeth”
(3) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) y diffiniad o “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yn rheoliad 2(1).
(b) rheoliadau 3(1), (3), a (4), 8(3) a 9(4); a chan
(c) rheoliad 18 roi “ei ddynodi” yn lle “ei dynodi”.
(4) Yn rheoliad 2(1)—
(a) mewnosoder yn y man priodol y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;”; a
(b) hepgorer y diffiniad o'r “Bwrdd Safonau Gwin”.
(5) Yn rheoliad 2(1)—
(a) Yn lle'r diffiniad o “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) rhodder “ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw'r Comisiynwyr Cyllid a Thollau;”;
(b) Yn lle'r diffiniad o “Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No. 1493/1999”) rhodder ““ystyr “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999” (“Council Regulation (EC) No.1493/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1795/2003, ac mae cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1493/1999” i'w dehongli yn unol â hynny;”;
(c) Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn ôl trefn yr wyddor—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90” (“Commission Regulation (EEC) No. 2676/90”) yw Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 sy'n penderfynu ar ddulliau'r Gymuned o ddadansoddi gwinoedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 355/2005;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1622/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win a sefydlu cod Cymunedol ar arferion a phrosesau gwinyddol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1428/2004, ac mae cyfeiriadau yn Atodlenni 2 a 5 at “Reoliad 1622/2000” i'w dehongli yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000” (“Commission Regulation (EC) No. 1623/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win o ran mecanweithiau'r farchnad, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1774/2004, ac mae'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 1623/2000” i'w ddehongli yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 883/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran masnach gyda thrydydd gwledydd mewn cynhyrchion yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 908/2004, ac mae'r cyfeiriad yn Rhan V o Atodlen 2 at “Reoliad 883/2001” i'w ddehongli yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001” (“Commission Regulation (EC) No. 884/2001”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 sy'n gosod rheolau cymhwyso manwl ynghylch y dogfennau sy'n mynd gyda chludiant cynhyrchion gwin a chofnodion i'w cadw yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Comisiwn (EC) Rhif 908/2004, ac mae'r cyfeiriad yn Rhan I o Atodlen 2 at “Reoliad 884/2001” i'w ddehongli yn unol â hynny;”;“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002” (“Commission Regulation (EC) No. 753/2002”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran y disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol y sector gwin, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1991/2004;”;“
 ystyr “Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86” (“Council Regulation (EEC) No. 2392/86”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86 sy'n sefydlu cofrestr o winllannoedd y Gymuned, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98, ac mae'r cyfeiriad yn rhan VII o Atodlen 2 i “Reoliad 2392/86” i'w ddehongli yn unol â hynny;”.
(6) Yn rheoliad 3(5), hepgorer y geiriau “Bwrdd Safonau Gwin neu'r”
(7) Yn lle rheoliad 10, rhodder y rheoliad canlynol—“
10 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo un o swyddogion awdurdodedig yr Asiantaeth—
(a) wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 8(2) (“hysbysiad rheoliad 8”); neu
(b) wedi gwrthod rhoi cydsyniad i symud cynnyrch sector gwin a reolir o dan reoliad 9 (“gwrthodiad rheoliad 9”).
(2) Caiff person y rhoddwyd hysbysiad rheoliad 8 iddo, neu y gwrthodwyd cydsyniad iddo o dan reoliad 9, wneud cais am gael adolygiad o'r hysbysiad neu'r gwrthodiad.
(3) Mae cais a wneir gan berson o dan baragraff (2) i'w wneud i'r Asiantaeth cyn pen 6 mis ar ôl cael yr hysbysiad rheoliad 8 neu'r gwrthodiad rheoliad 9.
(4) Pan anfonir hysbysiad rheoliad 8 neu wrthodiad rheoliad 9 drwy'r post mewn amlen ragdaledig ac arni'r cyfeiriad cywir, yna , oni phrofir y gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad neu'r gwrthodiad, yn ôl y digwydd, wedi'i gael y diwrnod gwaith nesaf os bydd yn cael ei anfon drwy bost dosbarth cyntaf ac ar y diwrnod gwaith ar ôl hynny os anfonir ef drwy bost ail ddosbarth.
(5) Pan wneir cais am hynny o dan baragraff (2) cyn pen y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)—
(a) rhaid i'r Asiantaeth enwebu person o'r rhestr a sefydlir o dan baragraff (6) i benderfynu a ddylai'r hysbysiad rheoliad 8 neu'r gwrthodiad rheoliad 9, yn ôl y digwydd, sefyll;
(b) rhaid i'r person a enwebir roi cyfle i'r person ac i'r Asiantaeth gyflwyno sylwadau ar y mater; ac
(c) rhaid i'r person a enwebir, cyn pen mis ar ôl cael ei enwebu, benderfynu a ddylai'r hysbysiad rheoliad 8 neu'r gwrthodiad rheoliad 9 sefyll a rhaid iddo hysbysu'r ceisydd a'r Asiantaeth am ei benderfyniad.
(6) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwi at ddibenion cynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli'r diwydiant gwin cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.”.
(8) Rhodder yr Atodlen a roddir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn lle Atodlen 1.
(9) Yn Atodlen 2—
(a) rhodder yr eitemau a roddir yn rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn lle eitemau 1 a 2 o'r tabl a roddir yn Rhan III o Atodlen 2;
(b) rhodder yr eitem a roddir yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn lle eitem 12 o'r tabl a roddir yn Rhan V o Atodlen 2; ac
(c) rhodder y Rhif “1999” yn lle Rhif “2000” yn y golofn gyntaf o eitem 12 o'r tabl a roddir yn Rhan V o Atodlen 2.
(10) Rhodder y cofnodion canlynol yn Atodlen 3 yn eu lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
Gamay Du
Gewurztraminer Gwyn”
3 

(1) Mae unrhyw beth a wneir gan y Bwrdd Safonau Gwin neu a wneir mewn perthynas ag ef drwy arfer ei swyddogaethau o dan Reoliadau 2001 cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn effeithiol fel petai wedi'i wneud gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu wedi'i wneud mewn perthynas â hi.
(2) Caniateir parhau unrhyw beth sydd, adeg y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, wrthi yn cael ei wneud gan y Bwrdd Safonau Gwin neu mewn perthynas ag ef, drwy arfer ei bwerau o dan Reoliadau 2001, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu mewn perthynas ag ef.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at y Bwrdd Safonau Gwin mewn unrhyw ddogfen sy'n ymwneud ag unrhyw beth y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo, i'r graddau y mae'n angenrheidiol er mwyn rhoi effaith i'r darpariaethau hynny, i'w ddehongli fel petai'n gyfeiriad at yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Mehefin 2006
ATODLEN 1
Rheoliad 2(8)
“
ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


Mesurau sy'n cynnwys Darpariaethau Cymunedol Cyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd: Y Cyfeirnod

1 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 357/79 ar arolygon ystadegol o ardaloedd o dan winwydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2329/98 (OJ Rhif L 291, 30.10.98, t.2 ) OJ Rhif L 54, 5.3.79, t.124

2 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1907/85 ar y rhestr o amrywogaethau o winwydd a'r rhanbarthau sy'n darparu gwin wedi'i fewnforio at wneud gwinoedd pefriol yn y Gymuned OJ Rhif L 179, 11.7.85, t.21

3 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3805/85 sy'n addasu, oherwydd bod Sbaen a Phortiwgal wedi ymaelodi, Reoliadau penodol sy'n ymwneud â'r sector gwin OJ Rhif L 367, 31.12.85, t.39

4 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2392/86 OJ Rhif L 208, 31.7.86, t.1

5 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 649/87 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer sefydlu cofrestr o winllannoedd y Gymuned, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L 116, 28.4.89, t.20) OJ Rhif L 62, 5.3.87, t.10

6 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 OJ Rhif L 272, 3.10.90, t.1

7 
Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 yn gosod rheolau cyffredinol ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 277, 30.10.96, t.1) OJ Rhif L 149, 14.6.91, t.1

8 
Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2009/92 yn pennu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer ethyl alcohol o darddiad amaethyddol a ddefnyddir i baratoi diodydd gwirodydd, gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru OJ Rhif L 203, 21.7.92, t.10

9 
Penderfyniad y Cyngor 93/722/EC ynghylch cwblhau Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.11

10 
Penderfyniad y Cyngor 93/723/EC ynghylch cwblhau Cytundeb ar ffurf Cyfnewidiad Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Hwngari ar gyd-sefydlu cwotâu tariff ar gyfer gwinoedd penodol OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.83

11 
Penderfyniad y Cyngor 93/726/EC ynghylch cwblhau Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Romania ar gyd-ddiogelu a chyd-reoli enwau gwinoedd OJ Rhif L 337, 31.12.93, t.177

12 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 122/94 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91 ar ddiffinio, disgrifio a chyflwyno gwinoedd wedi'u persawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru, a choctêls o gynhyrchion gwin wedi'i bersawru OJ Rhif L 21, 26.1.94, t.7

13 
Penderfyniad y Cyngor 94/184/EC ynghylch cwblhau Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd ac Awstralia ar y fasnach win OJ Rhif L 86, 31.3.94, t.1

14 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1

15 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1227/2000 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win, o ran y potensial ar gyfer cynhyrchu, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1389/2004 (OJ Rhif L 255, 31.7.2004, t.7) OJ Rhif L 143, 16.6.2000, t.1

16 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1607/2000 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad win, yn benodol y Teitl sy'n ymwneud â gwin o safon a gynhyrchir mewn rhanbarthau penodedig. OJ Rhif L 185, 25.7.2000, t.17

17 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000 OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.1

18 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000 OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.45

19 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2729/2000 yn nodi rheolau gweithredu manwl ar ddulliau rheoli yn y sector gwin, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2120/2004 (OJ Rhif L 367, 14.12.2004, t.11) OJ Rhif L 316, 15.12.2000, t.16

20 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 678/2001 ynghylch cwblhau Cytundebau ar ffurf Cyfnewidiadau Llythyrau rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth Bwlgaria, Gweriniaeth Hwngari a Gweriniaeth Romania ar gyd-gonsesiynau masnach ffafriol ar gyfer gwinoedd a gwirodydd penodol, ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 933/95 OJ Rhif L 94, 4.4.2001, t.1

21 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001 OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.1

22 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.32

23 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1037/2001 yn awdurdodi cynnig a dosbarthu gwinoedd penodol i'w hyfed gan bobl yn uniongyrchol a'r rheini yn winoedd wedi'u mewnforio sydd wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2324/2003 (OJ Rhif L 345, 31.12.2003, t.24) OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t.12

24 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1282/2001 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999 o ran casglu gwybodaeth i adnabod cynhyrchion gwin ac i fonitro'r farchnad win a diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1623/2000 OJ Rhif L 176, 29.6.2001, t.14

25 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2597/2001 sy'n agor a darparu ar gyfer gweinyddu cwotâu tariff Cymunedol ar gyfer gwinoedd penodol sy'n tarddu o Weriniaeth Croatia, hen Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia ac yng Ngweriniaeth Slofenia, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2088/2004 (OJ Rhif L 361, 8.12.2004, t.3) OJ Rhif L 345, 29.12.2001, t.35

26 
Penderfyniad y Cyngor 2002/51/EC ar gwblhau Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Gweriniaeth De Affrica ar y fasnach win OJ Rhif L 28, 30.1.2002, t.3

27 
Penderfyniad y Cyngor a'r Comisiwn 2002/309/EC o ran y Cytundeb ar Gydweithredu Gwyddonol a Thechnolegol 4 Ebrill 2002 ar gwblhau saith Gytundeb gyda Cydffederasiwn y Swistir, i'r graddau y mae a wnelo â darpariaethau Atodiad 7 ar Fasnachu Cynhyrchion y Sector Gwin a geir yn y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar Fasnachu Cynhyrchion Amaethyddol OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t.1

28 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1

29 
Penderfyniad y Cyngor 2002/979/EC ar lofnodi a chymhwyso dros dro ddarpariaethau penodol Cytundeb sy'n sefydlu cymdeithas rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law, a Gweriniaeth Chile ar y llall, i'r graddau y mae a wnelo'r darpariaethau hynny â masnachu gwin, gwin wedi'i bersawru, diodydd wedi'u seilio ar win wedi'i bersawru a choctêls wedi'u seilio ar gynhyrchion gwin wedi'i bersawru OJ Rhif L 352, 30.12.2002, t.1

30 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 527/2003 yn awdurdodi cynnig a dosbarthu gwinoedd penodol i'w hyfed gan bobl yn uniongyrchol a'r rheini yn winoedd wedi'u mewnforio o'r Ariannin y mae'n bosibl eu bod wedi mynd drwy brosesau gwinyddol na ddarparwyd ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1493/1999, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2067/2004 (OJ Rhif L 358, 3.12.2004, t.1) OJ Rhif L 78, 25.3.2003, t.1

31 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2303/2003 ar reolau labelu penodol ar gyfer gwinoedd wedi'u mewnforio o Unol Daleithiau America OJ Rhif L 342, 30.12.2003, t.5

32 
Penderfyniad y Comisiwn 2004/91/EC ar gwblhau'r cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chanada ar fasnachu gwinoedd a diodydd o wirod OJ Rhif L 35, 6.2.2004, t.1

33 
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 709/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn y sector gwin o ganlyniad i Malta ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd OJ Rhif L 111, 17.4.2004, t.21”
ATODLEN 2
Rheoliad 2(9)
RHAN 1“

1 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif .1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VII Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002: pob Erthygl i'r graddau y mae a wnelo â gwinoedd pefriol Rheolau cyffredinol a gofynion penodol sy'n ymwneud â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu cynhyrchion penodol heblaw gwinoedd pefriol

2 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999: Erthyglau 48 a 49 ac Atodiad VIII Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002: pob Erthygl i'r graddau y mae a wnelo â gwinoedd pefriol Rheolau cyffredinol a gofynion penodol sy'n ymwneud â disgrifio, dynodi, cyflwyno a diogelu gwinoedd pefriol”
RHAN 2“

12 
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999: Erthygl 46(3) Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2676/90 Dulliau'r Gymuned o ddadansoddi gwinoedd”