
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC dyddiedig 8 Mai 2000, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/15/EC dyddiedig 28 Chwefror 2005, ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion i'r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;
 ystyr “cynnyrch planhigyn” (“plant product”) yw'r ystyr sydd i “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw'r ystyr sydd i “identity check” yn erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r ystyr sydd i “documentary check” yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw'r ystyr sydd i “plant health check” yn erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “llwyth” (“consignment”) yw'r ystyr sydd i “consignment” yn erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wŷl y banc o dan Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971 yng Nghymru;
 ystyr “planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu” (“plant intended for planting”) yw'r ystyr sydd i “plant intended for planting” yn erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb;
 ystyr “planhigyn” (“plant”) yw'r ystyr sydd i “plant” yn erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb; ac
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i lwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad penodedig yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 a laniwyd yng Nghymru o drydedd wlad, ac y mae'n ofynnol yn ôl erthygl 13d(1) o'r Gyfarwyddeb i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd ffytoiechydol ynglŷn â hwy i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion.
4 

(1) Rhaid i fewnforiwr llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo dalu'r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir ar unrhyw lwyth o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill ac eithrio llwyth o blanhigion neu gynhyrchion planhigion y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a) y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 1 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; neu
(b) y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny fydd y ffi sy'n daladwy.
(3) O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir, neu y byddai wedi bod yn ofynnol ei wneud heblaw am Erthygl 13a(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n darparu ar gyfer gwneud gwiriadau o'r fath yn llai aml) ar lwyth o unrhyw blanhigion neu o gynhyrchion planhigion a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 ac sy'n tarddu o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno, y ffi sy'n daladwy, yn unol ag Erthygl 13d(2) o'r Gyfarwyddeb—
(a) yw'r ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; a
(b) yw'r ffi a bennir ym mhumed golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny.
(4) O ran gwiriad dogfennol neu wiriad adnabod a wneir ar unrhyw lwyth y ffi sy'n daladwy yw'r ffi a bennir ar gyfer y gwiriad hwnnw yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
ATODLEN 1
Rheoliadau 3 a 4(2)


Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu beth arall Nifer Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd) Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion mefus neu lysiau ifanc Fesul llwyth  
 — hyd at 10,000 o nifer £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol £0.52 £0.78
 — uchafbris £105.92 £158.88
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had) Fesul llwyth  
 — hyd at 1,000 o nifer £13.24 £19.86
 — am bob 100 o unedau ychwanegol £0.33 £0.49
 — uchafbris £105.92 £158.88
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (heblaw cloron tatws) y bwriedir eu plannu Fesul llwyth  
 — hyd at 200 kg o bwysau £13.24 £19.86
 — am bob 10 kg ychwanegol £0.12 £0.18
 — uchafbris £105.92 £158.88
Hadau, meinweoedd meithrin Fesul llwyth  
 — hyd at 100 kg o bwysau £5.67 £8.50
 — am bob 10 kg ychwanegol £0.13 £0.19
 — uchafbris £105.92 £158.88
Planhigion eraill y bwriedir eu plannu, ac nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon Fesul llwyth  
 — hyd at 5,000 o nifer £13.24 £19.86
 — am bob 100 o unedau ychwanegol £0.13 £0.19
 — uchafbris £105.92 £158.88
Blodau wedi eu torri Fesul llwyth  
 — hyd at 20,000 o nifer £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol £0.10 £0.15
 — uchafbris £105.92 £158.88
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) Fesul llwyth  
 — hyd at 100 kg o bwysau £13.24 £19.86
 — am bob 100 kg ychwanegol £1.32 £1.98
 — uchafbris £105.92 £158.88
Coed Nadolig wedi eu torri Fesul llwyth  
 — hyd at 1,000 o nifer £13.24 £19.86
 — am bob 100 o unedau ychwanegol £1.32 £1.98
 — uchafbris £105.92 £158.88
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog Fesul llwyth  
 — hyd at 100 kg o bwysau £13.24 £19.86
 — am bob 10 kg ychwanegol £1.32 £1.98
 — uchafbris £105.92 £158.88
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) Fesul llwyth  
 — hyd at 25,000 kg o bwysau £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 kg ychwanegol £0.52 £0.78
Cloron tatws Fesul lot  
 — hyd at 25,000 kg o bwysau £39.72 £59.58
 — am bob 25,000 kg ychwanegol £39.72 £59.58
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl Fesul llwyth  
 — hyd at 25,000 kg o bwysau £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 kg ychwanegol £0.52 £0.78
 — uchafbris £105.92 £158.88
Grawn Fesul llwyth  
 — hyd at 25,000 kg o bwysau £13.24 £19.86
 — am bob 1,000 kg ychwanegol £0.52 £0.78
 — mwyafswm £529.60 £794.40
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed coedwigol Fesul llwyth £13.24 £19.86
ATODLEN 2
Rheoliad 4(3)


Genws Nifer Gwlad tarddiad Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd) Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Blodau wedi eu torri
Aster Fesul llwyth   
 — hyd at 20,000 o nifer Zimbabwe £3.31 £4.96
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol Zimbabwe £0.02 £0.03
 — uchafbris Zimbabwe £26.48 £39.72
Dianthus Fesul llwyth   
 — hyd at 20,000 o nifer Colombia £0.40 £0.60
  Ecuador £1.98 £2.97
  Moroco, Twrci £3.31 £4.96
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol Colombia £0.003 £0.004
  Ecuador £0.01 £0.015
  Moroco, Twrci £0.02 £0.03
 — uchafbris Colombia £3.17 £4.75
  Ecuador £15.88 £23.82
  Moroco, Twrci £26.48 £39.72
Rosa Fesul llwyth   
 — hyd at 20,000 o nifer Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe £0.66 £0.99
  Colombia £1.32 £1.98
 — am bob 1,000 o unedau ychwanegol Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe £0.005 £0.007
  Colombia £0.01 £0.015
 — uchafbris Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe £5.29 £7.94
  Colombia £10.59 £15.89
Ffrwythau
Malus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o bwysau Chile, De Affrica £1.32 £1.98
  Ariannin, Seland Newydd £1.98 £2.97
  Brasil £3.31 £4.96
  Tsieina £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Chile, De Affrica £0.05 £0.07
  Ariannin, Seland Newydd £0.07 £0.10
  Brasil £0.13 £0.19
  Tsieina £0.26 £0.39
Mangifera Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o bwysau Brasil £1.32 £1.98
  De Affrica £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Brasil £0.05 £0.07
  De Affrica £0.26 £0.39
Prunus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o bwysau Chile, De Affrica, Twrci £1.32 £1.98
  Ariannin £1.98 £2.97
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Chile, De Affrica, Twrci £0.05 £0.07
  Ariannin £0.07 £0.10
Pyrus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o bwysau De Affrica £1.32 £1.98
  Ariannin £1.98 £2.97
  Chile £3.31 £4.96
  Tsieina £6.62 £9.93
 — am bob 1,000 kg ychwanegol De Affrica £0.05 £0.07
  Ariannin £0.07 £0.10
  Chile £0.13 £0.19
  Tsieina £0.26 £0.39
Citrus Fesul llwyth   
 — hyd at 25,000 kg o bwysau Moroco £0.66 £0.99
  Twrci £0.92 £1.38
  UDA £1.32 £1.98
  Israel, Mecsico, Uruguay £1.98 £2.97
 — am bob 1,000 kg ychwanegol Moroco £0.02 £0.03
  Twrci £0.03 £0.04
  UDA £0.05 £0.07
  Israel, Mecsico, Uruguay £0.07 £0.10
Os yw cyfanswm unrhyw ffi yn swm o lai na £0.01, ni chynhwysir y swm hwnnw.
ATODLEN 3
Rheoliad(4)(4)


Dull gwirio Nifer Ffi
Gwiriad Dogfennol Fesul llwyth £5.29
Gwiriad adnabod Fesul llwyth 
 — hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb £5.29
 — mwy na'r maintioli uchod £10.58