
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) (Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai yng Nghymru y mae adran 103 o Ddeddf Tai 2004 (“y Deddf”) yn gymwys iddynt.
2 

(1) Mae'r amgylchiadau a ganlyn yn amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 103 o'r Ddeddf—
(a) bod yr ardal y mae'r tŷ wedi ei leoli ynddi yn profi problem sylweddol a chyson sy'n cael ei hachosi gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol(3);
(b) y gellir priodoli'r broblem honno, yn gyfangwbl neu'n rhannol, i un sy'n meddiannu'r tŷ;
(c) bod landlord y tŷ yn landlord yn y sector breifat;
(ch) bod landlord y tŷ yn methu â chymryd camau i wrthsefyll y broblem honno y byddai'n briodol i landlord eu cymryd; a
(d) bydd gwneud gorchymyn rheoli dros dro, pan gyfunir ef â mesurau eraill a gymerir yn yr ardal gan yr awdurdod tai lleol, neu gan bersonau eraill ynghyd â'r awdurdod tai lleol, yn arwain at leihad yn y broblem honno neu at ei dileu.
(2) Yn yr erthygl hon nid yw “landlord yn y sector breifat” yn cynnwys landlord cymdeithasol cofrestredig yn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006