
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd preswyl yng Nghymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person sy'n gwneud arolygiad o dan adran 4 o'r Ddeddf (arolygiadau gan awdurdodau tai lleol i weld a oes perygl posibl categori 1 neu 2 yn bodoli);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
 mae “meddiannydd” (“occupier”) yn cynnwys meddiannydd posibl, ac eithrio yn rheoliad 6(7)(e); ac
 ystyr “niwed” (“harm”) yw niwed sydd o fewn unrhyw un o'r Dosbarthiadau rhwng I a IV fel a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
3 

(1) Mae i berygl posibl ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion y Ddeddf os yw'r risg o niwed yn gysylltiedig â bod unrhyw un neu rai o'r materion neu'r amgylchiadau a restrir yn Atodlen 1 yn bodoli.
(2) Yn Atodlen 1, oni nodir yn wahanol, cyfeiriad at fater neu amgylchiad yn yr annedd neu yn y tŷ amlfeddiannaeth o dan sylw, neu mewn unrhyw adeilad neu ar unrhyw dir yng nghyffiniau'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth, yw cyfeiriad at fater neu amgylchiad.
4 
At ddibenion adran 10 o'r Ddeddf perygl posibl categori 1 a 2 yw perygl tân posibl a ragnodwyd os yw'r risg o niwed yn gysylltiedig â bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a mwg cysylltiedig.
5 
Rhaid i arolygydd—
(a) rhoi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf mewn perthynas ag arolygu mangreoedd;
(b) arolygu unrhyw fangreoedd preswyl gyda golwg ar baratoi cofnod cywir o'u stad a'u cyflwr; ac
(c) paratoi a chadw'r cyfryw gofnod yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.
6 

(1) Os bydd arolygydd, yn sgil arolygiad o fangreoedd preswyl o dan adran 4 o'r Ddeddf—
(a) yn penderfynu bod perygl posibl y mae iddo ddisgrifiad a ragnodwyd yn bodoli; a
(b) ac o roi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf mewn perthynas â'r asesiadau o beryglon posibl, o'r farn ei bod yn briodol cyfrifo pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl hwnnw,
rhaid cyfrifo pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl hwnnw yn unol â pharagraffau (2) i (4) o'r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i'r arolygydd asesu pa mor debygol ydyw, yn ystod y cyfnod o 12 mis yn cychwyn ar ddyddiad yr asesiad, i feddiannydd perthnasol ddioddef unrhyw niwed o ganlyniad i'r ffaith bod y perygl posibl hwnnw, yn dod o fewn un o'r ystod cymarebau tebygolrwydd a geir yng ngholofn 1 o Dabl 1.

Tabl 1
Colofn 1 Colofn 2
Ystod cymarebau tebygolrwydd Pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod
Llai tebygol nag 1 mewn 4200 5600
1 mewn 4200 hyd 1 mewn 2400 3200
1 mewn 2400 hyd 1 mewn 1300 1800
1 mewn 1300 hyd 1 mewn 750 1000
1 mewn 750 hyd 1 mewn 420 560
1 mewn 420 hyd 1 mewn 240 320
1 mewn 240 hyd 1 mewn 130 180
1 mewn 130 hyd 1 mewn 75 100
1 mewn 75 hyd 1 mewn 42 56
1 mewn 42 hyd 1 mewn 24 32
1 mewn 24 hyd 1 mewn 13 18
1 mewn 13 hyd 1 mewn 7.5 10
1 mewn 7.5 hyd 1 mewn 4 6
1 mewn 4 hyd 1 mewn 2.5 3
1 mewn 2.5 hyd 1 mewn 1.5 2
Mwy tebygol nag 1 mewn 1.5 1
(3) Rhaid i'r arolygydd asesu o ba un o'r pedwar dosbarth o niwed (a nodir yn Atodlen 2) y mae meddiannydd perthnasol yn fwyaf tebygol o ddioddef yn ystod y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2).
(4) Rhaid i'r arolygydd—
(a) asesu'r posibilrwydd y bydd pob un o'r dosbarthiadau eraill o niwed yn digwydd o ganlyniad i'r ffaith bod y perygl posibl hwnnw yn dod o fewn un o'r ystod canrannau posibilrwydd a geir yng ngholofn 1 o Dabl 2;
(b) cofnodi pob posibilrwydd a asesir felly ar ffurf y pwynt cyfatebol o blith pwyntiau graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol a geir yng ngholofn 2 o Dabl 2; ac
(c) cofnodi'r posiblrwydd (sy'n wybyddus at ddibenion y fformiwla ym mharagraff (5) fel pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR)) bod y dosbarth mwyaf tebygol o niwed yn digwydd, a hynny ar ffurf canran a gyfrifir gan ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—100%-(A+B+C)Yn yr achos hwn—
 A yw pwynt ystod cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan is-baragraff (b) fel yr ail ddosbarth mwyaf tebygol o niwed;
 B yw pwynt ystod cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan is-baragraff (b) fel y trydydd dosbarth mwyaf tebygol o niwed; ac
 C yw pwynt ystod cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan is-baragraff (b) fel y pedwerydd dosbarth mwyaf tebygol o niwed.

Tabl 2
Colofn 1 Colofn 2
Ystod canrannau posibilrwydd Pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR)
O dan 0.05% 0%
0.5 hyd 0.15% 0.1%
0.15% hyd 0.3% 0.2%
0.3% hyd 0.7% 0.5%
0.7% hyd 1.5% 1%
1.5% hyd 3% 2.2%
3% hyd 7% 4.6%
7% hyd 15% 10%
15% hyd 26% 21.5%
26% hyd 38% 31.6%
Dros 38% 46.4%
(5) Pan fydd yr arolygydd wedi asesu pa mor debygol ydyw o dan baragraff (2) ac wedi asesu pa mor bosibl ydyw o dan baragraff (3) i bob niwed ddigwydd rhaid iddo fynegi difrifoldeb y perygl posibl hwnnw fel sgôr rifiadol a gyfrifir drwy ddefnyddio'r fformiwla ganlynol—S1+S2+S3+S4Yn yr achos hwn—S110000 × (1/L) × O1S21000 × (1/L) × O2S3300 × (1/L) × O3S410 × (1/L) × O4
(6) At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (5)—
(a) L yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) yng ngholofn 2 o Dabl 1 sy'n cyfateb i'r ystod a gofnodwyd o dan baragraff (2);
(b) O1 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth I;
(c) O2 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth II;
(ch) O3 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth III;
(d) O4 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth IV.
(7) Yn y rheoliad hwn—
 os yw'r risg o niwed o dan sylw yn gysylltiedig â bod unrhyw un neu rai o'r materion neu'r amgylchiadau a restrir fel a nodir isod yn bodoli, ystyr “meddiannydd perthnasol” (“relevant occupier”)—
(a) ym mharagraff 1 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 15 mlwydd oed;
(b) ym mharagraff 2, 3 neu 6(a) o Atodlen 1, yw meddiannydd 65 mlwydd oed neu drosodd;
(c) ym mharagraff 7 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 3 blwydd oed;
(ch) ym mharagraff 8 o Atodlen 1, yw meddiannydd 60 mlwydd oed neu drosodd sydd wedi bod mewn cyffyrddiad â radon ers ei enedigaeth;
(d) ym mharagraff 11 o Atodlen 1, yw'r meddiannydd ei hun;
(dd) ym mharagraff 17, 22, 23 neu 25 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 5 mlwydd oed;
(e) ym mharagraff 19, 20, 21, 24 neu 28 o Atodlen 1, yw meddiannydd 60 mlwydd oed neu drosodd;
(h) ym mharagraff 26—
(i) ac eithrio os gwrthdrawiad ydyw â nodweddion pensaernïol isel, yw meddiannydd o dan 5 mlwydd oed, a
(ii) os gwrthdrawiad ydyw â nodweddion pensaernïol isel, yw meddiannydd 16 mlwydd oed neu drosodd;
(ff) yn unrhyw baragraff arall o Atodlen 1, yw unrhyw feddiannydd; ac
 ystyr “RSPPR” yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol.
(8) Wrth wneud asesiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i arolygydd roi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf.
7 
At ddibenion y Ddeddf daw perygl posibl o fewn band a ddynodir gan lythyren yng ngholofn 1 o Dabl 3 pan fydd yn cyrraedd sgôr rifiadol a gyfrifir yn unol â rheoliad 6(5) ac sydd o fewn yr ystod sy'n cyfateb i'r llythyren honno yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw.

Tabl 3
Colofn 1 Colofn 2
Band Ystod Sgôr Rifiadol
A 5000 neu fwy
B 2000 hyd 4999
C 1000 hyd 1999
D 500 hyd 999
E 200 hyd 499
F 100 hyd 199
G 50 hyd 99
H 20 hyd 49
I 10 hyd 19
J 9 neu lai
8 
At ddibenion y Ddeddf—
(a) mae perygl posibl sy'n dod o fewn band A, B neu C yn Nhabl 3 yn berygl posibl categori 1; a
(b) mae perygl posibl sy'n dod o fewn unrhyw fand arall yn y Tabl hwnnw yn berygl posibl categori 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)
1 
Bod mewn cyffyrddiad â gwiddon llwch mewn cartrefi, lleithder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffwngaidd.
2 
Bod mewn cyffyrddiad â thymheredd isel.
3 
Bod mewn cyffyrddiad â thymheredd uchel.
4 
Bod mewn cyffyrddiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd.
5 
Bod mewn cyffyrddiad â chemegolion a ddefnyddir i drin pren a thyfiant llwydni.
6 
Bod mewn cyffyrddiad â'r canlynol—
(a) carbon monocsid;
(b) nitrogen diocsid;
(c) sylffwr diocsid a mwg.
7 
Amlyncu plwm.
8 
Dod i gyffyrddiad ag ymbelydredd.
9 
Bod mewn cyffyrddiad â nwy tanwydd nas hylosgwyd.
10 
Dod i gyffyrddiad â chyfansoddion organig anweddol.
11 
Diffyg gofod digonol ar gyfer byw a chysgu.
12 
Anawsterau wrth gadw'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth yn ddiogel rhag i bobl nas awdurdodir ddod i mewn.
13 
Diffyg golau digonol.
14 
Bod mewn cysylltiad â sŵn.
15 

(1) Dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel na ellir yn hawdd gadw'r annedd neu'r tŷ amlfeddiannaeth yn lân.
(2) Bod mewn cyffyrddiad â phla.
(3) Darpariaeth annigonol ar gyfer storio gwastraff tŷ a'i waredu'n hylan.
16 
Darpariaeth annigonol o gyfleusterau ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.
17 
Darpariaeth annigonol—
(a) o gyfleusterau i gynnal hylendid personol da;
(b) o garthffosiaeth a draenio.
18 
Cyflenwad annigonol o ddŵr sydd heb ei halogi, er mwyn ei yfed ac at ddibenion domestig eraill.
19 
Cwympo sy'n gysylltiedig â thoiledau, baddonau, cawodydd neu gyfleusterau ymolchi eraill.
20 
Cwympo ar unrhyw arwyneb gwastad neu gwympo rhwng arwynebau pan na fydd y newid yn y lefel yn fwy na 300 milimetr.
21 
Cwympo ar risiau, stepiau neu rampiau pan fydd y newid mewn lefel yn 300 milimetr neu'n fwy.
22 
Cwympo rhwng lefelau pan fydd y gwahaniaeth yn y lefelau yn 300 milimetr neu'n fwy.
23 
Bod mewn cyffyrddiad â thrydan.
24 
Bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a'r mwg sy'n gysylltiedig ag ef.
25 
Bod mewn cyffyrddiad â'r canlynol—
(a) tân neu fflamau a reolir;
(b) pethau, hylifau neu anweddau poeth.
26 
Taro yn erbyn drysau, ffenestri neu nodweddion pensaernïol eraill, neu rannau o'r corff yn mynd yn sownd ynddynt.
27 
Ffrwydrad yn yr annedd neu yn y tŷ amlfeddiannaeth.
28 
Safle, lleoliad a gweithrediad amwynderau, ffitiadau a chyfarpar.
29 
Yr annedd gyfan neu ran ohoni neu'r tŷ amlfeddiannaeth cyfan neu ran ohono yn dymchwel.
ATODLEN 2
Rheoliad 2
1 
Niwed Dosbarth 1 yw unrhyw niwed eithafol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a) marw o unrhyw achos;
(b) canser yr ysgyfaint;
(c) mesothelioma a thyfiannau malaen eraill;
(ch) parlysu parhaol islaw'r gwddf;
(d) niwmonia difrifol a rheolaidd;
(dd) colli ymwybyddiaeth yn barhaol;
(e) anafiadau o losgiadau 80%.
2 
Niwed Dosbarth II yw unrhyw niwed difrifol iawn y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a) clefyd cardio-resbiriadol;
(b) asthma;
(c) clefydau resbiriadol anfalaen;
(ch) gwenwyno gan blwm;
(d) sioc anaffylactig;
(dd) cryptosporidiosis;
(e) clefyd y llengfilwyr;
(f) cnawdnychiant myocardaidd;
(ff) trawiad ysgafn;
(g) dryswch cronig;
(ng) twymyn ddifrifol reolaidd;
(h) colli llaw neu droed;
(i) torasgwrn difrifol;
(j) llosgiadau difrifol;
(l) colli ymwybyddiaeth am ddyddiau.
3 
Niwed Dosbarth III yw unrhyw niwed difrifol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a) anhwylderau'r llygad;
(b) llid y ffroenau;
(c) pwysedd gwaed uchel;
(ch) anhunedd;
(d) nam newroseicolegol;
(dd) syndrom adeilad afiach;
(e) dermatitis rheolaidd a chyson, gan gynnwys dermatitis drwy gyffyrddiad;
(f) alergedd;
(ff) llid y coluddion;
(g) dolur rhydd;
(ng) chwydu;
(h) straen difrifol cronig;
(i) trawiad ysgafn ar y galon;
(j) canser malaen y croen ond un y gellir ei drin;
(l) colli bys;
(ll) torpenglog ac ergydwst difrifol;
(m) clwyfau difrifol i'r pen neu i'r corff sy'n torri drwy'r cnawd;
(n) llosgiadau difrifol i'r dwylo;
(o) anafiadau straen neu ysigiad difrifol;
(p) meigryn difrifol a rheolaidd.
4 
Niwed Dosbarth IV yw unrhyw niwed cymedrol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a) haint y nodau eisbilennol;
(b) anghysur difrifol achlysurol;
(c) tyfiannau diniwed;
(ch) niwmonia ysgafn achlysurol;
(d) torri bys;
(dd) ergydwst ysgafn;
(e) briwiau cymedrol i'r wyneb neu i'r corff;
(f) cleisio difrifol i'r corff;
(ff) peswch neu annwyd difrifol rheolaidd.