
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn–
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
 ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985;
 ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl.
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 sy'n ymwneud â mangreoedd yng Nghymru.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(2), mae ffi o £150 yn daladwy am-
(a) apêl i dribiwnlys o dan–
(i) adran 22(9) o'r Ddeddf (gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre sy'n ddarostyngedig i orchymyn gwahardd);
(ii) paragraff 10 o Atodlen 1 i'r Ddeddf (hysbysiad gwella);
(iii) paragraff 13 o Atodlen 1 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu benderfyniad i wrthod dirymu neu amrywio hysbysiad gwella);
(iv) paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Ddeddf (gorchymyn gwahardd);
(v) paragraff 9 o Atodlen 2 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu benderfyniad i wrthod dirymu neu amrywio gorchymyn gwahardd);
(vi) paragraff 11 o Atodlen 3 i'r Ddeddf (hysbysiad gwella: hawliad i ad-ennill treuliau);
(vii) paragraff 32 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (trwyddedu HMO: penderfyniad i amrywio neu i ddirymu trwydded neu benderfyniad i beidio â gwneud hynny);
(viii) paragraff 32 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli: iawndal i drydydd parti);
(ix) paragraff 26(1)(a) a (b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (gorchymyn terfynol rheoli tŷ gwag);
(x) paragraff 30 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (penderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn terfynol neu dros dro rheoli tŷ gwag neu benderfyniad i beidio â gwneud hynny);
(xi) paragraff 34(2) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli tŷ gwag: iawndal i drydydd parti);
(xii) adran 269(1) o Ddeddf 1985 ( gorchmynion dymchwel);
(b) cais i dribiwnlys o dan–
(i) adran 126(4) o'r Ddeddf (effaith gorchmynion rheoli: dodrefn);
(ii) adran 138 o'r Ddeddf (iawndal taladwy i drydydd part 149 on);
(iii) adran 318(1) o Ddeddf 1985 (pŵer y tribiwnlys i awdurdodi gwneud gwaith ar fangre nad yw'n ffit neu ar gyfer gwelliant).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 5(2), mae ffi o £150 i'w thalu am apêl i dribiwnlys o dan un neu fwy o'r darpariaethau a ganlyn–
(a) adran 62(7) o'r Ddeddf (trwyddedu HMO: gwrthod cyflwyno hysbysiad esemptiad dros dro);
(b) adran 86(7) o'r Ddeddf (trwyddedu dethol: gwrthod cyflwyno hysbysiad esemptiad dros dro);
(c) paragraff 31 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (rhoi neu wrthod trwydded);
(ch) paragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli dros dro a gorchymyn rheoli terfynol);
(d) paragraff 28 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu i ddirymu gorchymyn rheoli neu benderfyniad i wrthod gwneud hynny).
(3) Nid oes ffi i'w thalu os yw apêl o dan is-baragraff (1)(b) o baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn cael ei gwneud ar y seiliau a osodir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.
4 
Mae'n rhaid i unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3 fynd gyda'r apêl neu'r cais a rhaid ei thalu â siec sy'n daladwy i, neu â gorchymyn post wedi ei dynnu o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
5 

(1) Mae'r apelydd neu'r ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3.
(2) Nid oes ffi i'w thalu o dan reoliad 3 os, ar y dyddiad y gwneir yr apêl neu'r cais, yw'r apelydd neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn–
(a) unrhyw un o'r budd-daliadau a ganlyn o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992–
(i) cymhorthdal incwm; neu
(ii) budd-dal tai;
(b) lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995;
(c) credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;
(ch) credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os-
(a) naill ai–
(i) oes elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddau)i'r credyd treth y mae'r person neu bartner y person yn ei gael; neu
(ii) yw'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant ; a
(b) yw'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14, 213 neu lai.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “partner” (“partner”) o ran person, yw–
(a) os yw'r person yn aelod o gwpwl, yr aelod arall o'r cwpwl hwnnw; neu
(b) os yw'r person yn briod ar yr un pryd â dau neu fwy o aelodau o aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o'r fath.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “cwpwl” (“couple”) yw–
(a) dyn a dynes sy'n briod â'i gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd;
(b) dyn a dynes nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig;
(c) dau o bobl o'r un rhyw sy'n bartneriaid sifil i'w gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd; neu
(ch) dau o bobl o'r un rhyw nad ydynt yn bartneriaid sifil i'w gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil,
ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau o bobl o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil os, ond yn unig os, byddid yn ystyried eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig petaent yn hytrach yn ddau o bobl o wahanol ryw.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran unrhyw apêl neu gais y mae ffi i'w thalu ar ei gyfer o dan reoliad 3, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti i'r apêl neu'r cais ad-dalu i unrhyw barti arall y cyfan neu ran o unrhyw ffi a dalwyd gan y parti hwnnw o ran yr apêl neu'r cais.
(2) Ni chaiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i barti wneud ad-daliad o'r fath os yw'r tribiwnlys, pan fo'n ystyried p'un ai i wneud hynny ai peidio, wedi'i fodloni fod y parti neu bartner y parti yn cael cymorth o unrhyw fath a grybwyllir yn rheoliad 5(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2006