
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2006.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod tai lleol” (“LHA”) yw'r awdurdod tai lleol;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais neu apêl i dribiwnlys o dan y Ddeddf neu o dan Ran IX o Ddeddf 1985 ac mae i “ceisydd” (“applicant”) ystyr sy'n cyfateb i hynny;
 ystyr “cais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro” (“IMO authorisation application”) yw cais am awdurdodi gwneud gorchymyn rheoli dros dro;
 ystyr “cynhadledd rheoli achos” (“case management conference”) yw adolygiad cyn treial neu unrhyw gyfarfod arall a gynhelir gan dribiwnlys i'r diben o reoli'r achos mewn perthynas â chais;
 ystyr “datganiad o resymau” (“statement of reasons”) yw datganiad o resymau a baratowyd gan yr awdurdod tai lleol o dan adran 8 o'r Ddeddf (rhesymau dros y penderfyniad i gymryd camau gorfodi);
 ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
 ystyr “mangre” (“premises”) yw'r annedd neu'r adeilad y mae'r cais yn ymwneud ag ef;
 ystyr “person sydd â buddiant” (“interested person”) mewn perthynas â chais penodol yw—
(a) person heblaw'r ceisydd a fyddai wedi bod â'r hawl o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf 1985 (yn ôl y digwydd) i wneud y cais,
(b) person y mae'n rhaid i'r ceisydd ei hysbysu ynghylch y cais yn unol â'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf—
(i) adran 73(7);
(ii) adran 96(7);
(iii) paragraff 11(2) o Atodlen 1; neu
(iv) paragraff 14(2) o Atodlen 3;
(c) person y mae'n rhaid i'r tribiwnlys roi iddo'r cyfle i gael ei glywed yn unol â'r darpariaethau canlynol—
(i) adran 34(4) o'r Ddeddf; neu
(ii) adran 317(2) o Ddeddf 1985;
(ch) yr awdurdod tai lleol pan nad yw'n barti i'r cais;
 ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“the Fees Regulations”) yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006;
 ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl, ac ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) mewn perthynas â chais yw'r tribiwnlys sydd i benderfynu ar y cais.
 ystyr “yr ymatebydd” (“the respondent”) mewn perthynas â chais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddo, yw'r person neu'r personau, neu un o'r personau, a bennir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.
3 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer achosion mewn tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ar geisiadau'n ymwneud â mangreoedd yng Nghymru a wneir—
(a) o dan y Ddeddf;
(b) o dan adran 318(1) o Ddeddf 1985 yn achos ceisiadau a wneir ar 23 Mehefin 2006 neu ar ôl hynny; neu
(c) o dan unrhyw un o adrannau 269(1), 272(1) neu (2)(a), 272(2)(b), neu 317(1) o Ddeddf 1985 yn achos gorchmynion dymchwel a wneir ar 23 Mehefin 2006 neu ar ôl hynny.
4 

(1) Pan fo tribiwnlys—
(a) yn gweithredu unrhyw bŵer o dan y Rheoliadau hyn, neu
(b) yn dehongli unrhyw reoliad,
rhaid iddo geisio gweithredu'r amcan cyffredinol o ymdrin yn deg ac yn gyfiawn gyda cheisiadau y mae i benderfynu arnynt.
(2) Mae ymdrin yn deg ac yn gyfiawn gyda chais yn cynnwys—
(a) ymdrin â'r cais mewn ffyrdd sy'n gymesur â chymhlethdod y materion sy'n codi ynddo ac ag adnoddau'r partïon;
(b) sicrhau, hyd y mae'n ymarferol, fod y partïon ar yr un gwastad â'i gilydd o safbwynt y weithdrefn a'u bod yn gallu cymryd rhan gyflawn yn yr achos;
(c) cynorthwyo unrhyw barti gyda chyflwyno achos y parti hwnnw heb argymell pa lwybr y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn;
(ch) defnyddio arbenigedd neilltuol y tribiwnlys yn effeithiol;
(d) osgoi oedi, i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.
5 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn gofyn i dribiwnlys am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn y Ddeddf fel y cyfnod o fewn yr hwn mae'n rhaid gwneud y cais.
(2) Pan wneir cais am ganiatâd o'r fath o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo—
(a) bod mewn ysgrifen;
(b) rhoi'r rhesymau pam na wnaed y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw ac esbonio unrhyw oedi pellach a fu ers hynny;
(c) cynnwys datganiad fod y person sy'n gwneud y cais yn credu fod yr holl ffeithiau a fynegir yn y cais hwnnw'n wir;
(ch) bod wedi'i ddyddio a'i lofnodi.
(3) Pan wneir cais am ganiatâd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r ceisydd ar yr un pryd anfon i'r tribiwnlys y cais cyflawn y mae'n gofyn am y caniatâd hwnnw ar ei gyfer.
6 

(1) Rhaid i gais fod mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol—
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd;
(b) enw a chyfeiriad yr ymatebydd pan fydd y ceisydd yn gwybod y manylion hynny neu, os nad yw'n eu gwybod, disgrifiad o gysylltiad yr ymatebydd â'r fangre;
(c) cyfeiriad y fangre;
(ch) cysylltiad y ceisydd â'r fangre;
(d) rhesymau'r ceisydd dros wneud y cais, gan gynnwys pa rwymedi a geisir;
(dd) pan fo'r ceisydd yn gwybod hynny, enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â buddiant;
(e) datganiad fod y ceisydd yn credu fod y ffeithiau a fynegir yn y cais yn wir;
(f) ar gyfer pob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.
(2) Gellir hepgor unrhyw rai o'r manylion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) neu liniaru'r gofynion ar eu cyfer, os yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni—
(a) bod y manylion a'r dogfennau a gynhwysir gyda chais yn ddigonol i sefydlu bod y cais yn un y gellir ei wneud i dribiwnlys; a
(b) na fyddir felly'n rhagfarnu, ac na fydd tebygolrwydd o ragfarnu, achos unrhyw barti i'r cais.
(3) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel weithredu'r pŵer a roddir o dan baragraff (2).
7 

(1) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl derbyn y cais, rhaid i'r tribiwnlys—
(a) anfon cydnabyddiaeth i'r ceisydd fod y cais wedi'i dderbyn; a
(b) anfon copi o'r cais ac o bob dogfen a ddaeth gydag ef i'r ymatebydd.
(2) Heblaw mewn achos y mae rheoliad 9 yn gymwys iddo, rhaid i'r tribiwnlys hefyd anfon at yr ymatebydd hysbysiad sy'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 8.
(3) Ni chaiff y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y'i gwnaed.
8 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ymatebydd yn derbyn yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 7(2).
(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r ymatebydd anfon i'r tribiwnlys erbyn y dyddiad a ddynodir yn yr hysbysiad hwnnw ateb ysgrifenedig yn cydnabod iddo dderbyn y copïau o ddogfennau a anfonwyd yn unol å rheoliad 7(1)(b) ac yn datgan—
(a) pa un ai a yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais ai peidio;
(b) pan na fyddant eisoes wedi'u cynnwys yn y cais, enw a chyfeiriad pob person sydd â buddiant y mae'r ymatebydd yn gwybod amdanynt;
(c) y cyfeiriad y dylid anfon dogfennau iddo at ddibenion yr achos.
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r awdurdod tai lleol yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro fel mater brys.
(2) Pan ymddengys i'r tribiwnlys, ar sail y wybodaeth a gyflwynir gyda'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, caiff orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”) heb gydymffurfio â'r gofynion hysbysu yn rheoliad 25.
(3) Yr amgylchiadau eithriadol yw—
(a) bod yna fygythiad uniongyrchol i iechyd a diogelwch meddianwyr y tŷ neu i bersonau sy'n meddiannu neu sydd ag ystâd neu fuddiant mewn unrhyw fangre yng nghyffiniau'r tŷ; a
(b) y bydd yr awdurdod tai lleol drwy wneud y gorchymyn rheoli dros dro cyn gynted ag y bo modd (ar y cyd, pan fo hynny'n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill ag y mae'r awdurdod tai lleol yn bwriadu eu gweithredu) yn gallu cymryd camau priodol yn syth i atal neu i leihau'r bygythiad yn sylweddol.
(4) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon a phob person sydd â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad wedi'u hysbysu iddo—
(a) bod y cais yn cael ei drin fel mater brys o dan y rheoliad hwn;
(b) o'r rhesymau pam yr ymddengys i'r tribiwnlys bod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;
(c) ynghylch unrhyw ofyniad y mae'n rhaid i barti ei fodloni cyn y gwrandawiad
(ch) o'r dyddiad y cynhelir y gwrandawiad llafar brys.
(5) Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod ar ôl y dyddiad pryd yr anfonir yr hysbysiad ynghylch y gwrandawiad llafar brys.
(6) Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—
(a) penderfynu ar y cais os yw wedi'i fodloni pan glyw'r dystiolaeth fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli; neu
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly—
(i) gohirio'r achos; a
(ii) rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau ag y tyb sy'n briodol.
(7) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel—
(a) weithredu'r pŵer a roir gan baragraff (2); a
(b) penderfynu ar ddyddiad y gwrandawiad llafar brys.
(8) Pan fydd tribiwnlys yn gorchymyn gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau ynghylch hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—
(a) rheoliad 21(5) (rhybudd ynghylch archwiliad);
(b) rheoliad 25(3) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).
10 

(1) Gall person (“y parti posibl”) wneud cais i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti i'r achos.
(2) Yn achos unrhyw gais o dan baragraff (1)—
(a) gellir ei wneud heb rybudd;
(b) rhaid iddo fod mewn ysgrifen;
(c) rhaid iddo gynnwys rhesymau dros wneud y cais; ac
(ch) rhaid iddo bennu pa un ai a yw'r parti posibl yn dymuno cael ei drin—
(i) fel ceisydd; neu
(ii) fel ymatebydd.
(3) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl iddo benderfynu pa un ai a fydd yn caniatáu ynteu'n gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys—
(a) hysbysu'r parti posibl ynghylch y penderfyniad a'r rhesymau drosto; a
(b) anfon copi o'r hysbysiad i'r partïon sydd wedi'u cynnwys yn yr achos yn barod.
(4) Rhaid trin unrhyw barti posibl y caniateir ei gais o dan baragraff (1) fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion rheoliadau 4, 9, 11, 13 i 37 a 39 i 41.
(5) Yn y rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (4), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at geisydd neu ymatebydd fel ei fod yn cynnwys person a gaiff ei drin fel ceisydd neu ymatebydd o dan y rheoliad hwn, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel ei fod yn cynnwys unrhyw berson o'r fath.
(6) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel ganiatáu neu wrthod cais o dan baragraff (1).
11 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisiadau wedi'u gwneud ar wahân sydd, ym marn y tribiwnlys—
(a) yn ymwneud â materion cysylltiedig mewn perthynas â'r un fangre; neu
(b) wedi'u gwneud mewn perthynas â dau neu ragor o fangreoedd y mae gan yr un partïon fuddiant ynddynt ac y mae materion tebyg neu gysylltiedig i'w penderfynu arnynt ynglŷn â hwy.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, gall y tribiwnlys orchymyn y dylid penderfynu ar y cyd ynglŷn â—
(a) rhai neu bob un o'r ceisiadau hynny; neu
(b) materion neu ystyriaethau penodol sy'n codi yn y ceisiadau.
12 
Pan na fydd ffi'n sy'n daladwy o dan y Rheoliadau Ffioedd wedi'i thalu o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r dyddiad pryd y derbynnir y cais, dylid trin y cais fel wedi'i dynnu'n ôl oni bai fod y tribiwnlys wedi'i fodloni fod yna sail resymol dros beidio â gwneud hynny.
13 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo parti neu berson sydd â buddiant yn gwneud cais ysgrifenedig i'r tribiwnlys am ddarparu gwybodaeth neu ddogfennau i gynrychiolydd y parti neu'r person sydd â buddiant hwnnw.
(2) Rhaid i gais o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (1) gynnwys enw a chyfeiriad y cynrychiolydd.
(3) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, fe fodlonir unrhyw ddyletswydd sydd ar y tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen drwy iddo ei hanfon at y cynrychiolydd neu ei rhoi iddynt.
14 

(1) Pan hysbysir y tribiwnlys o enw a chyfeiriad person sydd â buddiant, rhaid iddo sicrhau cyn gynted ag sy'n ymarferol y darperir i'r person sydd â buddiant—
(a) copi o'r cais;
(b) esboniad o'r weithdrefn pan fo person am wneud cais am gael ymuno yn yr achos fel ceisydd neu ymatebydd; ac
(c) unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall sy'n briodol ym marn y tribiwnlys.
(2) Caiff y tribiwnlys sicrhau fod gwybodaeth neu ddogfennau'n cael eu darparu o dan baragraff (1) drwy—
(a) darparu'r wybodaeth neu'r dogfennau ei hun i'r person sydd â buddiant; neu
(b) mynnu bod parti'n gwneud hynny drwy orchymyn a wneir o dan reoliad 16(2).
(3) Pan ddarperir gwybodaeth a dogfennau i berson sydd â buddiant yn unol â pharagraff (1) ond—
(a) bod y person sydd â buddiant yn ymateb i'r tribiwnlys ond nid yw'n ymuno fel parti o dan reoliad 10; neu
(b) nad yw'r person sydd â buddiant yn ymateb,
ni fydd unrhyw ddyletswydd bellach ar y tribiwnlys i sicrhau darparu gwybodaeth neu ddogfennau i'r person hwnnw.
15 

(1) Cyn penderfynu ynghylch cais, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darparu i bob un o'r partïon—
(a) copi o unrhyw ddogfen sy'n berthnasol i'r achos (neu ddetholiadau digonol o'r ddogfen neu fanylion y ddogfen) a dderbyniwyd oddi wrth unrhyw barti arall neu berson sydd â buddiant (heblaw dogfen sydd eisoes ym meddiant y parti neu'r person sydd â buddiant hwnnw, neu un y rhoddwyd copi ohoni eisoes i'r parti neu'r person sydd â buddiant hwnnw); a
(b) copi o unrhyw ddogfen sy'n cynnwys canlyniadau unrhyw ymholiadau perthnasol a wnaed gan y tribiwnlys neu ar ran y tribiwnlys at ddibenion yr achos.
(2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi derbyn dogfen berthnasol, neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddetholiadau digonol neu fanylion o ddogfen berthnasol, yna oni bai bod—
(a) y person hwnnw'n caniatáu i'r gwrandawiad barhau; neu
(b) bod y tribiwnlys yn ystyried fod gan y person hwnnw gyfle digonol i ymdrin â'r materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb fod y gwrandawiad yn cael ei ohirio,
rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ystyried fydd yn rhoi cyfle digonol i'r person hwnnw ymdrin â'r materion hynny.
16 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn mynnu fod parti'n darparu i'r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pwerau'r parti hwnnw i'w darparu.
(2) Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn mynnu fod parti'n darparu i barti arall neu i berson sydd â buddiant gopïau o unrhyw ddogfennau a gafodd eu darparu neu sydd i'w darparu i'r tribiwnlys o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i barti sy'n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu'r fath wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a all fod wedi'i bennu yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â'r gorchymyn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn mynnu fod unrhyw berson yn mynychu gwrandawiad llafar i roi tystiolaeth ac i gyflwyno unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, y mae o fewn pwerau'r person hwnnw i'w cyflwyno.
(5) Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys i unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i'w chyflwyno mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru neu Loegr.
(6) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—
(a) yn fater rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
(b) yn fater rhagarweiniol i benderfyniad neu'n fater sy'n gysylltiedig â phenderfyniad.
17 
Pan fo parti wedi methu â chydymffurfio â gorchymyn a wnaed o dan reoliad 16(1), (2) neu (4) caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn yn gwrthod neu'n caniatáu'r cyfan neu ran o'r cais.
18 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6) caiff y tribiwnlys benderfynu ynghylch cais heb wrandawiad llafar os bydd wedi hysbysu'r partïon mewn ysgrifen ddim llai na 14 diwrnod ymlaen llaw o'i fwriad i wneud hynny.
(2) Ar unrhyw adeg cyn penderfynu ynghylch cais—
(a) caiff y ceisydd neu'r ymatebydd ofyn am wrandawiad llafar; neu
(b) caiff y tribiwnlys hysbysu'r partïon ei fod yn bwriadu cynnal gwrandawiad llafar.
(3) Pan wneir cais neu pan roir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 25.
(4) Gellir gwneud dyfarniad heb wrandawiad llafar yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr ymatebydd.
(5) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel benderfynu pa un ai a yw gwrandawiad llafar yn briodol neu beidio ar mwyn penderfynu ynghylch cais.
(6) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 9 (ceisiadau brys am orchymyn rheoli dros dro) yn gymwys iddo.
19 

(1) Caiff tribiwnlys wneud gorchymyn a fydd yn weithredol dros dro (“gorchymyn dros dro”)—
(a) yn atal, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, effaith unrhyw benderfyniad, hysbysiad, gorchymyn neu drwydded sy'n wrthrych achos sydd ger ei fron; neu
(b) yn caniatáu am y tro unrhyw rwymedi y byddai ganddo bŵer i'w ddyfarnu yn ei benderfyniad terfynol.
(2) Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn dros dro heb yn gyntaf ganiatáu cyfle i'r partïon wneud sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am amrywio'r gorchymyn dros dro neu ei ddiddymu.
(3) Gellir gwneud unrhyw gais o'r fath—
(a) ar lafar mewn cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
(b) mewn ysgrifen; neu
(c) drwy unrhyw ddull arall ag y gall tribiwnlys ei ganiatáu.
(4) Rhaid cofnodi gorchymyn dros dro cyn gynted ag y bo modd mewn dogfen y mae'n rhaid iddi, heblaw yn achos gorchymyn a wnaed gyda chytundeb yr holl bartïon, roi'r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.
(5) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro.
20 

(1) Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau drwy wneud gorchymyn o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o'r Ddeddf.
(2) Caiff parti y cyfeirir cyfarwyddyd ato ofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddiddymu.
(3) Gellir gwneud cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2)—
(a) ar lafar mewn cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
(b) mewn ysgrifen; neu
(c) drwy unrhyw ddull arall ag y gall tribiwnlys ei ganiatáu.
(4) Rhaid i'r parti sy'n gwneud y cais bennu'r cyfarwyddiadau a geisir a'r rhesymau dros eu ceisio.
(5) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel roi cyfarwyddyd gweithdrefnol ynghylch unrhyw fater sydd—
(a) yn fater rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
(b) yn fater rhagarweiniol i benderfyniad neu'n fater cysylltiedig â phenderfyniad.
(6) Ym mharagraff (5), ystyr “cyfarwyddyd gweithdrefnol” (“procedural direction”) yw unrhyw gyfarwyddyd heblaw un o'r rhai a ddynodir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) o'r Ddeddf.
21 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys archwilio—
(a) y fangre;
(b) unrhyw fangre arall y gallai ei harchwilio gynorthwyo'r tribiwnlys i benderfynu ynghylch y cais;
(c) yr ardal o gwmpas y fangre.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(a) rhaid i'r tribiwnlys roi'r cyfle i'r partïon fod yn bresennol ar adeg archwiliad; a
(b) caiff aelod o'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd hynny fod yn bresennol ar adeg unrhyw archwiliad.
(3) Mae gwneud archwiliad a mynychu archwiliad yn amodol ar sicrhau unrhyw ganiatâd sydd ei angen.
(4) Pan fo yna wrandawiad llafar, gellir cynnal archwiliad cyn y gwrandawiad, yn ystod y gwrandawiad neu ar ôl y gwrandawiad.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd i'r partïon o ddim llai na 14 diwrnod o ddyddiad, amser a lleoliad yr archwiliad i'r partïon.
(6) Gellir hepgor unrhyw un o'r gofynion ar gyfer rhybudd ym mharagraff (5) neu ei lacio os yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni fod y partïon wedi derbyn rhybudd digonol.
(7) Pan wneir archwiliad ar ôl i wrandawiad llafar derfynu, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad o achos unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad a ail-agorir i'r partïon.
22 

(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “arbenigwr” (“expert”) yw arbenigwr annibynnol nad yw'n cael ei gyflogi gan un o'r partïon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—
(a) darparu crynodeb ysgrifenedig o'r dystiolaeth ar gyfer y tribiwnlys; a
(b) darparu copi o'r crynodeb ysgrifenedig hwnnw ar gyfer pob parti arall o leiaf 7 diwrnod cyn—
(i) dyddiad y gwrandawiad llafar perthnasol y rhoddwyd hysbysiad ohono mewn perthynas â'r cais o dan reoliad 25; neu
(ii) y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 18 pryd y byddir yn penderfynu ynghylch y cais heb wrandawiad llafar.
(3) Rhaid i grynodeb ysgrifenedig yr arbenigwr o dystiolaeth yr arbenigwr—
(a) bod wedi'i gyfeirio at y tribiwnlys;
(b) cynnwys manylion o gymwysterau'r arbenigwr;
(c) cynnwys datganiad fod yr arbenigwr yn deall dyletswydd yr arbenigwr i gynorthwyo'r tribiwnlys ynghylch y materion sydd o fewn arbenigedd yr arbenigwr, a'i fod wedi cydymffurfio â hynny, a'i fod yn deall bod y ddyletswydd honno'n bwysicach nag unrhyw ddyletswydd tuag at y person y derbyniodd yr arbenigwr gyfarwyddiadau oddi wrtho neu y mae'r arbenigwr wedi'i gyflogi neu'i dalu ganddo.
(4) Pan fo tribiwnlys yn rhoi cyfarwyddyd, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o'r Ddeddf, na all parti roi tystiolaeth arbenigol ger ei fron heb ei ganiatâd, caiff bennu fel amod i'r caniatâd hwnnw—
(a) bod yn rhaid cyfyngu tystiolaeth yr arbenigwr i'r materion hynny ag y bydd y tribiwnlys yn ei gyfarwyddo;
(b) bod yn rhaid i'r arbenigwr fynychu gwrandawiad i roi tystiolaeth lafar; neu
(c) bod yn rhaid i'r partïon gyfarwyddo'r arbenigwr ar y cyd.
23 

(1) Caiff y tribiwnlys gynnal cynhadledd rheoli achos.
(2) Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd o ddim llai na 7 diwrnod o ddyddiad, amser a lleoliad y gynhadledd rheoli achos i'r partïon.
(3) Yn y gynhadledd rheoli achos caiff y tribiwnlys orchymyn y partïon i gymryd pa gamau bynnag a gwneud pa bethau bynnag ag sy'n ymddangos i'r tribiwnlys eu bod yn ofynnol neu'n ddymunol ar gyfer sicrhau penderfynu ynghylch y cais mewn ffordd gyfiawn, brydlon ac economaidd.
(4) Caiff y tribiwnlys ohirio neu oedi cynhadledd rheoli achos.
(5) Caiff parti gael ei gynrychioli mewn cynhadledd rheoli achos.
(6) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel gyflawni swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.
24 

(1) Caiff y tribiwnlys—
(a) cwtogi'r amser a bennir gan y Rheoliadau hyn neu o danynt ar gyfer cyflawni unrhyw weithred pan fo'r holl bartïon yn cytuno i'r cwtogi hwnnw;
(b) estyn yr amser a bennir gan y Rheoliadau hyn neu o danynt ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, hyd yn oed os bydd yr amser a benodwyd wedi dod i ben—
(i) pan na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r person dan sylw gydymffurfio neu fod wedi cydymffurfio o fewn yr amser hwnnw; neu
(ii) pan fyddai peidio ag estyn yr amser yn esgor ar anghyfiawnder sylweddol;
(c) caniatáu defnyddio ffôn, cyswllt fideo, neu unrhyw ddull arall o gyfathrebu—
(i) er mwyn gwneud sylwadau gerbron y tribiwnlys; neu
(ii) at ddibenion cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
(ch) mynnu fod unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys gyda'r dystiolaeth honno ddatganiad wedi'i lofnodi fod y person yn credu fod y ffeithiau a ddatgenir yn y dystiolaeth yn wir;
(d) cymryd unrhyw gam arall neu wneud unrhyw benderfyniad arall y mae'r tribiwnlys yn ystyried ei fod yn ofynnol neu'n ddymunol at ddiben rheoli'r achos.
(2) Caiff y tribiwnlys weithredu ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn ymateb i gais i wneud hynny neu o'i benderfyniad ei hun.
(3) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel weithredu'r pwerau a roir o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n rhagarweiniol i—
(a) gwrandawiad llafar; neu
(b) dyfarniad sydd i'w wneud heb wrandawiad llafar.
25 

(1) Y tribiwnlys sydd i benodi dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiad.
(2) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon o'r dyddiad, yr amser a'r lleoliad a benodwyd ar gyfer y gwrandawiad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid rhoi hysbysiad ynghylch y gwrandawiad ddim llai na 21 diwrnod cyn y dyddiad a benodwyd.
(4) Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, roi llai na 21 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad; ond rhaid rhoi unrhyw rybudd o'r fath cyn gynted ag sy'n ymarferol cyn y dyddiad a benodwyd a rhaid i'r hysbysiad bennu beth yw'r amgylchiadau eithriadol.
26 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad llafar.
(2) Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd rhesymol o'r amser a'r dyddiad hyd y rhai y gohirir gwrandawiad.
(3) Pan fo parti'n gofyn am ohiriad, ni chaiff y tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny o ystyried—
(a) y sail dros wneud y cais;
(b) yr adeg y gwneir y cais; ac
(c) cyfleustra'r partïon.
27 

(1) Mewn gwrandawiad—
(a) y tribiwnlys (yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn) sy'n penderfynu ar weithdrefn y gwrandawiad a'r modd y'i cynhelir;
(b) caiff unrhyw berson sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys wneud hynny un ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd y person hwnnw;
(c) mae gan y partïon yr hawl—
(i) i roi tystiolaeth berthnasol;
(ii) i alw tystion;
(iii) i holi unrhyw dyst; a
(iv) i annerch y tribiwnlys ynghylch y dystiolaeth a'r gyfraith ac yn gyffredinol ynghylch pwnc y cais; ac
(ch) caiff y tribiwnlys dderbyn tystiolaeth o unrhyw ffaith sy'n ymddangos iddo ei bod yn berthnasol, hyd yn oed os byddai'r dystiolaeth yn annerbyniadwy mewn achos gerbron llys barn, ac ni chaiff wrthod unrhyw dystiolaeth a gyflwynir mewn da bryd sy'n dderbyniadwy o dan y gyfraith ac sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol a heb ei chael mewn ffordd amhriodol.
(2) Mewn gwrandawiad, caiff tribiwnlys os yw wedi'i fodloni ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol gwneud hynny, ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o'r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o'r blaen neu nas dygwyd gerbron o'r blaen.
(3) Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad i adeg arall, ond os gwneir hynny ar gais un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys ystyried a yw'n rhesymol gwneud hynny yng ngoleuni—
(a) y sail dros wneud y cais;
(b) yr adeg y gwneir y cais; ac
(c) cyfleustra'r partïon.
28 

(1) Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus heblaw pan fo'r tribiwnlys wedi'i fodloni yn amgylchiadau'r achos ac yn ddarostyngedig i'r amcan cyffredinol y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat.
(2) Caiff y tribiwnlys benderfynu o dan baragraff (1)—
(a) bod yn rhaid i ran yn unig o'r gwrandawiad fod yn breifat; neu
(b) na ddylid cyhoeddi unrhyw un o'r materion canlynol—
(i) gwybodaeth am yr achos gerbron y tribiwnlys;
(ii) enwau a manylion a allai arwain at adnabod y personau sy'n ymwneud â'r achos; neu
(iii) tystiolaeth benodol a roddir yn ystod yr achos.
29 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae gan y personau canlynol yr hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ac i fod yn bresennol yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ar gyfer penderfynu ar y cais—
(a) llywydd neu gadeirydd neu aelod arall o'r panel nad yw'n rhan o'r tribiwnlys at ddibenion y gwrandawiad;
(b) aelod o'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno;
(c) staff y Gwasanaeth Tribiwnlys;
(ch) unrhyw berson arall a gaiff ganiatâd y tribiwnlys gyda chytundeb y partïon.
(2) Ni chaiff yr un o'r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad neu drafodaethau o'r fath.
(3) Caiff tribiwnlys ganiatáu i bersonau fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ar ba bynnag delerau ac amodau ag y tyb sy'n briodol.
30 
Pan fo parti yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys barhau gyda'r gwrandawiad os—
(a) yw wedi'i fodloni fod y parti hwnnw wedi'i hysbysu o'r gwrandawiad yn unol â'r Rheoliadau hyn; a
(b) nad yw wedi'i fodloni fod yna reswm da pam y methodd ymddangos.
31 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r penderfyniad sy'n dyfarnu ynghylch cais.
(2) Os cynhaliwyd gwrandawiad, gellir cyhoeddi'r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.
(3) Rhaid, ym mhob achos, cofnodi'r penderfyniad mewn dogfen cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.
(4) Nid oes angen i benderfyniad a roddir neu a gofnodir yn unol â pharagraff (2) neu (3) gofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad.
(5) Rhaid cofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad mewn dogfen cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl rhoi neu gofnodi'r penderfyniad.
(6) Rhaid i ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad neu'r rhesymau dros benderfyniad (“dogfen penderfyniad”) gael ei lofnodi a'i ddyddio gan berson priodol.
(7) Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan y person hwnnw, gywiro unrhyw wallau clercio mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau sy'n codi ynddo o lithriad neu esgeulustod damweiniol.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—
(a) Cadeirydd y tribiwnlys; neu
(b) yn achos absenoldeb neu analluogrwydd y Cadeirydd, aelod arall o'r tribiwnlys.
(9) Rhaid anfon copi o unrhyw ddogfen penderfyniad, a chopi o unrhyw gywiriad yr ardystiwyd iddo o dan baragraff (7) i bob parti.
32 
Ni chaiff y tribiwnlys wneud dyfarniad o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i'r Ddeddf mewn perthynas â pharti heb yn gyntaf ganiatáu i'r parti hwnnw y cyfle i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys.
33 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd (“y parti sy'n tynnu'n ôl”) (“the withdrawing party”) dynnu'n ôl y cyfan o gais a wnaed gan y ceisydd hwnnw, neu ran o'r fath gais, yn unol â pharagraff (2) ar unrhyw adeg cyn y dyfernir y cais.
(2) Rhaid i'r parti sy'n tynnu'n ôl hysbysu ei fod yn tynnu'r cais yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad wedi'i lofnodi a'i ddyddio i'r tribiwnlys—
(a) yn rhoi gwybodaeth ddigonol i alluogi adnabod y cais neu'r rhan o gais sy'n cael ei dynnu'n ôl;
(b) yn datgan os oes yna unrhyw ran o'r cais, ac os felly pa ran, sydd eto i'w benderfynu arno; ac
(c) yn cadarnhau fod copi o'r hysbysiad fod y cais yn cael ei dynnu'n ôl wedi'i roi i'r holl bartïon eraill ac yn nodi'r dyddiad pryd y gwnaed hynny.
(3) O dan unrhyw un o'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4), ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn effeithiol hyd y bydd un o'r camau gweithredu ym mharagraff (5) wedi'i gyflawni.
(4) Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw bod—
(a) gorchymyn dros dro wedi'i wneud o blaid parti;
(b) parti wedi gwneud ymrwymiad i'r tribiwnlys;
(c) taliad wedi'i orchymyn i'r parti sy'n tynnu'n ôl, boed hynny i'w ddigolledu, fel iawndal, fel costau, i ad-dalu ffioedd neu unrhyw beth arall;
(ch) parti wedi gwneud cais am orchymyn i ad-dalu ffioedd.
(5) Y camau gweithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
(a) bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi anfon datganiad ysgrifenedig i'r tribiwnlys wedi'i lofnodi gan yr holl bartïon eraill yn nodi sut y dylid ymdrin ag unrhyw un o'r amgylchiadau yn is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (4); neu
(b) bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi hysbysu'r holl bartïon o'i fwriad i dynnu'n ôl y cais ac—
(i) bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi gofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ynghylch yr amodau dan y rhai y gellir tynnu'r cais yn ôl; a
(ii) bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddiadau o'r fath.
(6) Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5)(b)(ii), gall y tribiwnlys osod pa bynnag amodau ag y tyb sy'n briodol.
(7) Caiff un aelod cymwysedig roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5)(b)(ii).
34 
Gellir, gyda chaniatâd y llys sirol, orfodi unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlys yn yr un ffordd â gorchmynion y fath lys.
35 

(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “apelio” (“to appeal”) yw gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y tribiwnlys i'r Tribiwnlys Tiroedd ac mae i “apelydd” (“appellant”) ystyr sy'n cyfateb i hynny.
(2) Pan fo parti'n gwneud cais i'r tribiwnlys am ganiatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd yn sgil penderfyniad gan y tribiwnlys, gellir gwneud y cais—
(a) ar lafar yn y gwrandawiad lle mae'r penderfyniad yn cael ei gyhoeddi gan y tribiwnlys; neu
(b) ar ôl hynny mewn ysgrifen i swyddfa'r tribiwnlys.
(3) Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad o'r penderfyniad fel y dyddiad pryd y rhoddwyd y rhesymau dros y penderfyniad.
(4) Pan wneir cais am ganiatâd i apelio mewn ysgrifen, rhaid iddo gael ei lofnodi gan yr apelydd neu gynrychiolydd yr apelydd a rhaid iddo—
(a) nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd i'r apelydd;
(b) nodi at ba benderfyniad a pha dribiwnlys y mae'r cais am ganiatâd i apelio yn cyfeirio;
(c) datgan y seiliau y bwriada'r apelydd ddibynnu arnynt yn yr apêl.
(5) Rhaid cofnodi penderfyniad y tribiwnlys ynghylch cais am ganiatâd i apelio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny, mewn ysgrifen, a rhaid i'r tribiwnlys anfon copi o'r penderfyniad a'r rhesymau i'r apelydd ac i'r partïon eraill i'r cais sy'n wrthrych i'r apêl.
(6) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (5) gynnwys, fel bo'n briodol, ddatganiad ynghylch unrhyw ddarpariaeth statudol, rheol neu gyfarwyddyd mewn perthynas ag unrhyw gais pellach i'r Tribiwnlys Tiroedd am ganiatâd i apelio ac ynghylch yr amser a'r lle ar gyfer gwneud y cais pellach neu ar gyfer hysbysu ynghylch y bwriad i apelio.
36 

(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfranogwr” (“participant”) yw unrhyw barti neu dyst neu unrhyw berson arall sy'n cymryd rhan mewn achos mewn perthynas â chais neu at yr hwn y cyfeirir gorchymyn gan y tribiwnlys.
(2) Os yw cyfranogwr yn analluog i ddarllen neu siarad neu ddeall yr iaith Saesneg neu'r iaith Gymraeg, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu ar gyfer y cyfranogwr, yn ddi-dâl, y cyfieithiadau a'r cymorth gan gyfieithydd sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan yn effeithiol yn yr achos.
(3) Os yw cyfranogwr yn methu â chlywed neu siarad, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu ar gyfer y cyfranogwr, yn ddi-dâl, wasanaethau cyfieithydd iaith arwyddion, gwefuslefarydd neu palandeipydd i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan yn effeithiol yn yr achos.
(4) Mae gan gyfranogwr hawl i gymorth o dan y rheoliad hwn pa un ai a yw wedi'i gynrychioli ai peidio.
(5) Rhaid i gyfranogwr y mae arno angen cymorth o dan y rheoliad hwn hysbysu'r tribiwnlys o'r angen hwnnw ar y cyfle cyntaf posibl.
37 

(1) Mae unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae'r Rheoliadau hyn yn ei awdurdodi neu yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu darparu i unrhyw berson, boed hynny gan y tribiwnlys, parti, neu unrhyw berson arall, wedi'i ddarparu'n briodol i'r person hwnnw—
(a) os caiff ei anfon i gyfeiriad priodol y person drwy bost dosbarth cyntaf neu ddosbarthiad arbennig, neu ddanfoniad cofnodedig;
(b) os caiff ei anfon mewn unrhyw ffordd arall i gyfeiriad priodol y person;
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (2), os caiff ei anfon, gyda chaniatâd ysgrifenedig y person, at y person hwnnw—
(i) drwy ffacs, e-bost neu ddull cyfathrebu electronig arall sy'n cynhyrchu testun a geir mewn ffurf sy'n ddarllenadwy;
(ii) drwy wasanaeth danfon dogfennau preifat.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c), ystyrir bod cynrychiolydd cyfreithiol y person wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig os dangosir y cyfeirnod neu'r cyfeiriad ar gyfer cyfathrebu drwy ffacs neu'n electronig neu drwy system danfon dogfennau preifat ar bapur ysgrifennu'r cynrychiolydd cyfreithiol.
(3) Cyfeiriad priodol person ar gyfer dibenion paragraff (1) yw—
(a) yn achos y tribiwnlys, cyfeiriad swyddfa'r tribiwnlys;
(b) yn achos cwmni corfforedig neu gorff arall sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni neu'r corff;
(c) yn achos unrhyw berson arall, ei gyfeiriad arferol neu'r cyfeiriad olaf y gwyddys amdano ar ei gyfer.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(a) os bydd person sydd i fod i dderbyn dogfen neu hysbysiad—
(i) yn amhosibl ei ddarganfod ar ôl gwneud pob ymholiad dyfal;
(ii) wedi marw a heb unrhyw gynrychiolydd personol; neu
(iii) y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b) os am unrhyw reswm arall na ellir yn rhwydd ddarparu hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(5) Pan fo paragraff (4) yn gymwys, caiff y tribiwnlys—
(a) hepgor darparu'r hysbysiad neu'r ddogfen arall; neu
(b) rhoi cyfarwyddiadau i gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen ym mha ffurf bynnag arall (pa un ai drwy hysbysebu mewn papur newydd neu fel arall) neu drwy ba ddull bynnag arall ag y tyb y tribiwnlys sy'n briodol.
(6) Pan fo'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol fod yn rhaid i barti ddarparu tystiolaeth fod y parti hwnnw wedi darparu dogfen i unrhyw berson, caiff y parti hwnnw fodloni'r gofyniad drwy ddarparu tystysgrif wedi'i lofnodi yn cadarnhau fod y ddogfen wedi'i chyflwyno'n unol â gofynion y rheoliad hwn.
38 
Pan fo'r amser a ddynodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul neu ar ddiwrnod o wyliau cyhoeddus, fe ystyrir ei fod yn dod i ben ar y diwrnod dilynol nesaf nad yw'n ddydd Sadwrn neu'n ddydd Sul neu'n ddiwrnod o wyliau cyhoeddus.
39 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan ymddengys i'r tribiwnlys fod cais yn wacsaw neu'n flinderus neu fel arall yn gamddefnydd o broses y tribiwnlys, caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol.
(2) Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r ceisydd o'i fwriad i wneud hynny yn unol â pharagraff (3).
(3) Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan—
(a) bod y tribiwnlys â'i fryd ar wrthod y cais;
(b) y seiliau pam y mae â'i fryd ar wrthod y cais;
(c) y dyddiad (heb fod yn llai na 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pryd yr anfonwyd yr hysbysiad) cyn y gall y tribiwnlys wrando ar y ceisydd ynghylch y cwestiwn a ddylid gwrthod y cais.
(4) Ni chaniateir gwrthod cais o dan baragraff (1) oni bai—
(a) nad yw'r ceisydd yn gwneud cais i'r tribiwnlys cyn y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3)(c); neu
(b) pan fo'r ceisydd yn gwneud y fath gais, bod y tribiwnlys wedi gwrando ar y ceisydd a'r ymatebydd, neu pa un bynnag ohonynt sy'n mynychu'r gwrandawiad, ar gwestiwn gwrthod y cais.
40 
Nid yw unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant gan barti i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn bod y tribiwnlys wedi penderfynu ar y cais ohono'i hun yn gwneud yr achos yn ddi-rym.
41 
Pan fo'r Rheoliadau hyn yn gofyn fod dogfen yn cael ei llofnodi, bydd y gofyniad hwnnw wedi'i fodloni—
(a) os bydd y llofnod un ai wedi'i ysgrifennu neu wedi'i gynhyrchu gan gyfrifiadur neu ddull mecanyddol arall; a
(b) bod enw'r llofnodydd yn ymddangos o dan y llofnod yn y fath fodd ag y gellir adnabod y llofnodydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2006
ATODLEN
rheoliad 2 a 6
1 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) heblaw cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad gwella (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) os mai sail neu un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
2 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i'r Ddeddf sydd ar y sail a ddynodir ym mharagraff 11(1) o'r Atodlen honno (sail apêl yn ymwneud â phersonau eraill), neu sy'n cynnwys y sail honno.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad gwella (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau;
(c) os mai sail neu un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai dyna'r ffordd orau o weithredu;
(ch) enw a chyfeiriad unrhyw berson a ddylai, fel un o berchnogion y fangre, ym marn y ceisydd weithredu fel sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad gwella neu dalu'r cyfan neu ran o gostau'r gweithredu hwnnw (“y perchennog arall”);
(d) prawf fod copi o'r cais wedi ei gyflwyno i'r perchennog arall;
(dd) datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—
(i) natur buddiant y perchennog arall yn y fangre;
(ii) y rheswm pam y mae'r ceisydd yn tybio y dylai'r perchennog arall weithredu fel hynny neu dalu'r cyfan neu ran o gost y gweithredu hwnnw; a
(iii) pan mai sail y cais yw y dylai'r perchennog arall dalu'r cyfan neu ran o gost y gweithredu, amcangyfrif o'r gost honno o weithredu a'r gyfran o'r gost y mae'r ceisydd yn tybio y dylai'r perchennog arall ei thalu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
3 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 13(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad gwella (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) copi o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella (yn cynnwys unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
4 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—
(a) paragraff 11(1) o Atodlen 3 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn galwad gan awdurdod tai lleol am ad-dalu costau a ddaeth i ran yr awdurdod tai lleol wrth weithredu pan fo hysbysiad gwella wedi'i gyflwyno);
(b) y paragraff hwnnw pan fydd wedi'i gymhwyso gydag addasiadau o dan adran 42 o'r Ddeddf (apêl yn erbyn galwad awdurdod tai lleol am ad-dalu costau a ddaeth i'w ran wrth gymryd camau adfer brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad gwella neu (yn ôl y digwydd) yr hysbysiad o weithredu adfer brys (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) yr hysbysiad o ddatganiad o resymau;
(c) copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol o dan baragraff 4 o Atodlen 3 i'r Ddeddf (hysbysiad ynghylch bwriad awdurdod tai lleol i fynd i mewn i fangre i gymryd camau gweithredu penodol heb gytundeb);
(ch) copi o alwad yr awdurdod tai lleol am gostau;
(d) pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir ym mharagraff 11(4) o'r Atodlen honno, manylion y cynnydd y dibynnir arno ei fod wedi'i wneud tuag at gydymffurfio â'r hysbysiad.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
5 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o'r Ddeddf (cais yn erbyn gwrthodiad gan awdurdod tai lleol i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4)).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn gwahardd (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i wrthod caniatáu defnydd penodol o'r cyfan neu ran o'r fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
6 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o'r Ddeddf (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu'n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn gwahardd (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau;
(c) copi o'r les berthnasol;
(ch) datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.
7 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(1) o Atodlen 2 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn gwahardd (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) os mai un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd arall o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i'r Ddeddf yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
8 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(1) o Atodlen 2 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu i wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn gwahardd (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau;
(c) copi o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i amrywio neu i wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd (yn cynnwys unrhyw ddogfennau a ddosbarthwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
9 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o'r Ddeddf (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o'r Ddeddf yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i gymryd camau gweithredu adfer brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad o weithredu adfer brys (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
10 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o'r Ddeddf (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad o orchymyn gwahardd brys a wnaed o dan adran 43 o'r Ddeddf (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo); a
(b) y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
11 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—
(a) paragraff 14 o Atodlen 3 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn i adennill treuliau a llog oddi wrth berson sy'n elwa o weithredu heb gytundeb); a
(b) y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o'r Ddeddf.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad o'r hysbysiad gwella neu, yn ôl y digwydd, yr hysbysiad o weithredu adfer brys (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau;
(c) copi o'r galwad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno;
(ch) copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno;
(d) prawf fod yr hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person y mae'r awdurdod tai lleol yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.
12 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 269(1) o Ddeddf 1985 (apêl gan berson sydd wedi'i dramgwyddo gan orchymyn dymchwel).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) os mai sail neu un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd arall o weithredu a grybwyllir yn adran 269A(2) o Ddeddf 1985 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
13 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn perthynas ag adennill treuliau awdurdod tai lleol wrth weithredu gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu ynghylch cyfraniadau gan berchnogion ar y cyd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) datganiad yn nodi—
(i) y treuliau a ddaeth i ran yr awdurdod tai lleol o dan adran 271 o Ddeddf 1985 (gweithredu gorchymyn dymchwel);
(ii) y swm (os unrhyw beth) a godwyd drwy werthu deunyddiau; a
(iii) y swm y mae'r awdurdod tai lleol am ei adennill oddi wrth berson sy'n un o berchnogion y fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre.
14 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(2)(b) o Ddeddf 1985 (cais gan berchennog mangre am benderfyniad ynghylch y gyfran o dreuliau awdurdod tai lleol sydd i'w thalu gan berchennog arall).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau; ac
(c) datganiad o beth yw—
(i) buddiant pob un o'r perchnogion yn y fangre; a
(ii) dyletswyddau ac atebolrwyddau pob un o'r perchnogion mewn perthynas â chynnal a chadw ac atgyweirio o dan unrhyw gyfamod neu gytundeb, boed hwnnw'n ddatganedig neu ymhlyg.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog y mae'r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau'r awdurdod tai lleol.
15 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 317(1) o Ddeddf 1985 (cais gan lesydd neu lesddeiliad mangre y mae gorchymyn dymchwel wedi dod yn weithredol ar ei chyfer, am orchymyn yn amrywio neu'n terfynu'r les).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (yn cynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b) y datganiad o resymau;
(c) copi o'r les berthnasol; ac
(ch) datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.
16 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 318(1) o Ddeddf 1985 (cais gan berson sydd â buddiant mewn mangre am i dribiwnlys awdurdodi cyflawni gwaith ar fangre anaddas neu ar gyfer gwella).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) manylion y gwaith y mae'r ceisydd yn bwriadu ei wneud yn cynnwys—
(i) enwau a chyfeiriadau contractwyr arfaethedig pan fo hynny'n berthnasol;
(ii) amcangyfrif o gostau'r gwaith; a
(iii) amserlen ar gyfer cychwyn a chwblhau'r gwaith;
(b) pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir yn adran 318(1)(b) o Ddeddf 1985, manylion—
(i) y cynllun gwella neu ailadeiladu y mae'r ceisydd yn dymuno ei gyflawni; a
(ii) cymeradwyaeth yr awdurdod tai lleol i'r cynllun.
(c) datganiad o sefyllfa ariannol y ceisydd yn cynnwys datgelu faint o arian sydd ar gael i dalu costau arfaethedig y gwaith;
(ch) pan fo'r cais yn cynnwys cais am orchymyn i derfynu les a ddelir oddi wrth y ceisydd neu les ddeilliannol, copi o'r les honno.
(3) Yr ymatebwyr penodedig yw—
(a) y person sydd â'r hawl i'r meddiant o'r fangre;
(b) perchennog y fangre.
17 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 62(7) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn gwrthodiad gan awdurdod tai lleol i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad i'r awdurdod tai lleol o dan adran 62(1) o'r Ddeddf; a
(b) copi o'r hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod tai lleol o dan adran 62(6) o'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
18 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 73(5) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) Pan wneir y cais gan yr awdurdod tai lleol—
(i) copi o'r hysbysiad o'r bwriad i ddwyn achos o dan adran 73(7);
(ii) copi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;
(iii) un ai—(aa) datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad fod trosedd o dan adran 72(1) wedi'i chyflawni; neu(bb) pan fo'r awdurdod tai lleol yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 74 o'r Ddeddf, prawf fod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf; a
(iv) dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn perthynas â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o'r fath gael ei chyflawni; neu
(b) pan wneir y cais gan feddiannydd—
(i) tystiolaeth fod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf neu y mynnwyd iddo drwy orchymyn ad-dalu rhent i wneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a
(ii) tystiolaeth fod y meddiannydd wedi gwneud taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir fod trosedd o'r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol .
19 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 255(9) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i gyflwyno datganiad tai amlfeddiannaeth).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r datganiad tai amlfeddiannaeth.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
20 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 256(4) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i wrthod dirymu datganiad tai amlfeddiannaeth).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r datganiad tai amlfeddiannaeth; a
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i beidio â dirymu datganiad tai amlfeddiannaeth.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
21 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i ganiatáu, neu beidio â chaniatáu, trwydded o dan Ran 2 o'r Ddeddf, neu yn erbyn unrhyw un o amodau'r drwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu ag amodau trwydded—
(i) copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a
(ii) copi o'r drwydded; a
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
22 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan paragraff 32(1) o Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl gan ddeiliad trwydded neu unrhyw berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded o dan Ran 2 o'r Ddeddf).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 14 a 16 o Atodlen 5;
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i wrthod amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;
(c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;
(ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a
(d) ym mhob achos, copi o'r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
23 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o'r Ddeddf (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr awdurdod tai lleol i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad i'r awdurdod tai lleol o dan adran 86(1) o'r Ddeddf; a
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad o dan adran 86(6) o'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
24 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan wneir y cais gan yr awdurdod tai lleol—
(i) copi o'r hysbysiad o'r achos arfaethedig o dan adran 96(7);
(ii) copi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;
(iii) un ai—(aa) datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad fod trosedd o dan adran 95(1) o'r Ddeddf wedi'i chyflawni; neu(bb) pan fo'r awdurdod tai lleol yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o'r Ddeddf, prawf fod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 95(1) o'r Ddeddf; a
(iv) dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn perthynas â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o'r fath gael ei chyflawni; neu
(b) pan wneir y cais gan feddiannydd—
(i) tystiolaeth fod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 95(1) o'r Ddeddf neu wedi'i orchymyn drwy orchymyn ad-dalu rhent i wneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a
(ii) tystiolaeth fod y meddiannydd wedi gwneud taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod cyfnod pryd yr honnir fod trosedd o'r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol.
25 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu yn ymwneud ag amodau trwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu ag amodau trwydded—
(i) copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno;
(ii) copi o'r drwydded; a
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
26 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i'r Ddeddf (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded o dan Ran 3 o'r Ddeddf.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5;
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;
(c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;
(ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a
(d) ym mhob achos, copi o'r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
27 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn drafft;
(b) datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—
(i) a yw'r amod iechyd a diogelwch yn adran 104 o'r Ddeddf wedi'i fodloni; a
(ii) y graddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer a gymeradwywyd o dan adran 233 o'r Ddeddf; a
(iii) pan fo'r awdurdod tai lleol yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 9, datganiad sy'n rhoi digon o fanylion i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynghylch a yw'n ymddangos fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw'n bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o “relevant person” ym mharagraff 8(4) a pharagraff 35 o Atodlen 6 i'r Ddeddf.
28 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o'r Ddeddf yn gymwys iddo).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn drafft;
(b) datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynghylch a yw'r amodau yn adran 103(3) a (4) o'r Ddeddf wedi'u bodloni; ac
(c) pan fo'r awdurdod tai lleol yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 9, datganiad sy'n rhoi digon o fanylion i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynghylch a yw'r amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw'n bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 8(4) a pharagraff 35 o Atodlen 6 i'r Ddeddf.
29 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am i orchymyn rheoli dros dro barhau mewn grym hyd y byddir wedi ymdrin ag apêl);
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli dros dro; a
(b) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
30 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o'r Ddeddf (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli dros dro mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli dros dro;
(b) copi o'r cyfrifon a gadwyd gan yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 110(6).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
31 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn y dylai gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes barhau mewn grym tra disgwylir ymdrin ag apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes;
(b) copi o'r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli'r gorchymyn hwnnw; ac
(c) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
32 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o'r Ddeddf (cais gan berson yr effeithir arnynt am orchymyn bod yr awdurdod tai lleol yn rheoli yn unol â'r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n cynnwys y cynllun rheoli y mae'r cais yn cyfeirio ato.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
33 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o'r Ddeddf (cais am addasu hawliau ac atebolrwyddau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr awdurdod tai lleol tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli perthnasol; a
(b) datganiad yn rhoi manylion hawliau ac atebolrwyddau (yn cynnwys perchnogaeth) pob un o'r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.
34 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o'r Ddeddf (cais i benderfynu pwy yw “y landlord perthnasol” (“the relevant landlord”) at ddibenion adran 130 pan ddaw'r gorchymyn rheoli i ben).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r landlord perthnasol arall.
35 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan paragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli (yn cynnwys y cynllun rheoli);
(b) copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i'r Ddeddf;
(c) pan fo'r cais yn ymwneud ag amodau'r gorchymyn rheoli, datganiad sy'n pennu pob amod a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac
(ch) pan wneir y cais ar y sail a ddynodir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, datganiad o'r materion yn adran 110(5) (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben ac ati) sy'n berthnasol i'r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
36 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad neu wrthodiad awdurdod tai lleol i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli neu wrthodiad i newid neu ddirymu'r fath orchymyn).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6;
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;
(c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno; ac
(ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a
(d) ym mhob achos—
(i) copi o'r gorchymyn rheoli; a
(ii) copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
37 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol o dan adran 128 o'r Ddeddf ynghylch yr iawndal sy'n daladwy i drydydd partïon).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli (yn cynnwys y cynllun rheoli);
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag adran 128(2) o'r Ddeddf; ac
(c) datganiad yn rhoi manylion llawn—
(i) yr hawliau yr honnir y bu tarfu arnynt o ganlyniad i'r gorchymyn rheoli; a
(ii) swm yr iawndal a hawlir oherwydd y tarfu hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
38 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 133(1) o'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am awdurdodiad i wneud gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r drafft o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro;
(b) datganiad o dystiolaeth—
(i) ynghylch y materion y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael ei fodloni yn eu cylch o dan adran 134(2) o'r Ddeddf;
(ii) fod yr awdurdod tai lleol wedi ystyried yr hawliau a'r buddiannau a ddynodir yn adran 133(4) o'r Ddeddf; ac
(c) pan fo'r awdurdod tai lleol, yn unol ag adran 133(3) o'r Ddeddf, wedi hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro, copi o'r hysbysiad hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog perthnasol.
39 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 138(1) o'r Ddeddf (cais, tra bo gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro mewn grym, am orchymyn fod awdurdod tai lleol yn talu iawndal i drydydd parti am darfu ar ei hawliau).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro (yn cynnwys y cynllun rheoli);
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag adran 138(4) o'r Ddeddf; ac
(c) datganiad yn rhoi manylion llawn—
(i) yr hawliau yr honnir y bu tarfu arnynt o ganlyniad i'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro; a
(ii) swm yr iawndal a hawlir oherwydd y tarfu hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
40 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn y dylai gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro barhau mewn grym hyd y byddir wedi ymdrin ag apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro; a
(b) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
41 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn o dan baragraff 22 o'r Atodlen honno'n terfynu les neu drwydded tra bo gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol (yn cynnwys unrhyw gynllun rheoli);
(b) copi o'r les neu'r drwydded berthnasol, neu os nad yw honno ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu'r drwydded; ac
(c) datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—
(i) enw a chyfeiriad, pan fyddant yn wybyddus, unrhyw lesydd, lesddeiliad, is-lesydd, is-lesddeiliad, neu drwyddedai;
(ii) tystiolaeth o faterion y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael ei fodloni yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf; a
(iii) swm yr iawndal (os unrhyw beth) y mae'r awdurdod tai lleol yn fodlon ei dalu o ganlyniad i derfynu'r les neu'r drwydded, yn cynnwys manylion ynghylch sut y cyfrifwyd yr iawndal hwnnw.
(3) Yr ymatebwyr penodedig yw'r partïon i'r les neu'r drwydded.
42 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5(7) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan berchennog perthnasol am orchymyn mewn cysylltiad â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro mewn grym).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro; a
(b) copi o'r cyfrifon a gedwir gan yr awdurdod tai lleol yn unol â pharagraff 5(6) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
43 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(8) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan awdurdod tai lleol am orchymyn y dylai gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol barhau mewn grym hyd y byddir wedi ymdrin ag apêl o dan baragraff 26).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro; a
(b) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
44 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (cais gan berson yr effeithir arnynt am orchymyn fod awdurdod tai lleol i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol (yn cynnwys y cynllun rheoli).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
45 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol (yn cynnwys y cynllun rheoli);
(b) pan fo'r cais yn ymwneud ag amodau'r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob amod a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac
(c) pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, datganiad o'r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
46 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 30 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol neu wrthodiad i amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (fel y'u cymhwysir gan baragraff 17 o Atodlen 7);
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;
(c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno; ac
(ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a
(d) ym mhob achos copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol (yn ôl y digwydd).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
47 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 34(2) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol o dan adran 136(4) neu 138(3) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r iawndal sy'n daladwy i drydydd partïon am y tarfu a fu ar eu hawliau o ganlyniad i orchymyn rheoli anheddau gwag terfynol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol (yn cynnwys y cynllun rheoli);
(b) pan fo'r trydydd parti wedi gofyn am iawndal o dan adran 138 o'r Ddeddf copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag isadran (4) o'r adran honno; ac
(c) datganiad yn rhoi manylion llawn—
(i) yr hawliau yr honnir y bu tarfu arnynt o ganlyniad i'r gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol; a
(ii) swm yr iawndal a hawlir oherwydd y tarfu hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
48 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o'r Ddeddf (apêl gan berson sydd wedi'i dramgwyddo gan hysbysiad gorlenwi).
(2) Y ddogfen benodedig yw copi o'r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio'r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o'r hysbysiad hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
49 

(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad awdurdod tai lleol i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr awdurdod tai lleol i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o'r fath).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a) copi o'r hysbysiad gorlenwi;
(b) pan fu i'r awdurdod tai lleol wrthod amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr awdurdod tai lleol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.