
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2006, deuant i rym ar 15 Mehefin 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006;
3 
Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn.
4 
Yn nhestun Cymraeg is-baragraff (b) o baragraff (1) o reoliad 5 (Gorfodi) mewnosoder y geiriau “neu'r awdurdod bwyd” ar ôl y geiriau “gan yr Asiantaeth”.
5 
Yn nhestun Cymraeg paragraff (9) o reoliad 13 (Dadansoddi etc samplau) rhodder y geiriau “rheoliad hwn” yn lle'r geiriau “Rheoliadau hyn”.
Llofnodwyd o ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006