
1 
Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan reoliadau Eneffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn–
 ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw gwartheg yn cynnwys buail a byfflo (gan gynnwys byfflo dŵr);
 ystyr “BSE” (“BSE”) yw enseffalopathi sbyngffurf buchol;
 mae gan “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
3 
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu iawndal–
(a) pan fo anifail yn cael ei ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006;
(b) pan fo anifail i'w ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, a bod yr anifail wedi ei brisio ar gyfer pwrpasau iawndal, ond fod yr anifail yn marw (neu yn cael ei ladd am resymau eraill) wedi prisio; neu
(c) lle bo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad symud o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 a bod yn rhaid ei ladd fel mater o frys, a bod milfeddyg wedi datgan yn ysgrifenedig y byddai'r anifail fel arall wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid, ac os felly yr iawndal yw gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
4 

(1) Yr iawndal yw'r pris cyfartalog a delir ym Mhrydain fawr am anifail o'r oed a'r categori hwnnw o anifail–
(a) yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri; ac
(b) yn achos unrhyw anifail buchol eraill, yn y mis blaenorol
(2) Anifail pedigri yw anifail sydd wedi cael tystysgrif pedigri gan sefydliad neu gymdeithas bridwyr sy'n cyflawni amodau Penderfyniad y Cyngor 84/247/EEC sy'n gosod y meini prawf ar gyfer cydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy'n cadw llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth buchol.
(3) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gategoreiddio anifeiliaid fel a ganlyn, ac at bwrpas penderfynu ynglŷn â pha gategori i roi'r anifail, oed yr anifail yw'r oed, fel y dangosir gan ei basport gwartheg, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o'r bwriad i'w ladd.

Gwryw Menyw
Sector Eidion—anifail sydd ddim yn bedigri 
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis Hyd at ac yn cynnwys 3 mis
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnnwys 9 mis Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 9 mis
Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis Dros 9 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis
Dros 20 mis– Dros 20 mis–
Teirw bridio Wedi bwrw llo
Arall Heb fwrw llo
Sector Llaeth—anifail sydd ddim yn bedigri 
Hyd at ac yn cynnwys 3 mis Hyd at ac yn cynnwys 3 mis
Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis Dros 3 mis hyd at ac yn cynnwys 6 mis
Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis Dros 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 16 mis
Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis Dros 16 mis hyd at ac yn cynnwys 20 mis
Dros 20 mis Dros 20 mis–
 Wedi bwrw lloHeb fwrw llo
Sector Eidion — anifail pedigri 
6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis 6 mis hyd at ac yn cynnwys 12 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis
Dros 24 mis Dros 24 mis (heb fwrw llo)
 Wedi bwrw llo o dan 36 mis
 Wedi bwrw llo 36 mis a drosodd
Sector Llaeth—anifail pedigri 
Hyd at ac yn cynnwys 2 fis Hyd at ac yn cynnwys 2 fis
Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 12 mis Dros 2 fis hyd at ac yn cynnwys 10 mis
Dros 12 mis hyd at ac yn cynnwys 24 mis Dros 10 mis hyd at ac yn cynnwys 18 mis
Dros 24 mis Dros 18 mis (heb fwrw llo)
 Wedi bwrw lllo o dan 36 mis
 Wedi bwrw llo 36 mis a throsodd
5 

(1) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r data i gyfrifo'r pris cyfartalog yn ddigonol, yna mae'n rhaid iddo dalu iawndal–
(a) am anifeiliaid yn y categori hwnnw, y pris cyfartalog a gyfrifwyd yn flaenorol yn fwyaf diweddar lle roedd digon o ddata i gyfrifo'r pris cyfartalog; neu
(b) pris y farchnad, am yr anifail unigol.
(2) Ar gyfer byfflo neu bison, yr iawndal yw pris y farchnad.
(3) Pris y farchnad yw'r pris y gellid yn rhesymol fod wedi ei gael am anifail unigol oddi wrth brynwr yn y farchnad agored adeg prisio pe na bai'n ofynnol lladd yr anifail o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, wedi ei gyfrifo o dan reoliad 15 o Reoliadau Enseffalopathïau Trosgwlyddadwy (Cymru) 2006, gyda'r ffioedd am enwebu'r prisiwr a ffioedd y prisiwr yn daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol.
6 
Dirymir Rheoliadau 8, 9, 84, 93, Rhan III o Atodlen 1, rheoliad 17 o Ran IV o Atodlen 6A a rheoliadau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â thalu iawndal yn dilyn cigydda anifail buchol, o Reoliadau TSE (Cymru) 2002pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mehefin 2006