
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 24 Mai 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988.
2 

(1) Mae tabl A o Ran I o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (addasiadau o ddarpariaethau Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987at ddibenion Rhan I o'r Atodlen hon) wedi'i ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 45–
(a) ym mharagraff (a), yn lle “£8000” rhodder “£16,000”;
(b) ym mharagraff (b), yn lle “£21,000” rhodder “£21,500”;
(c) ym mharagraff (c), yn lle “£14,750” rhodder “£16,000”.
(3) Yn y cofnod sy'n ymwneud â rheoliad 53 yn lle “£14,750” rhodder £16,000” ac yn lle “£21,000” rhodder “£21,500”.
3 

(1) Mae Tabl B o Ran II o Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (addasiadau o ddarpariaethau o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 at ddibenion Rhan II o'r Atodlen hon) wedi'i ddiwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 1 (2) o Atodlen 4A a fewnosodwyd, yn lle “£3000” rhodder “£6000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Mai 2006