
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mai 2006.
2 

(1) Diwygir Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005yn unol â pharagraff (2).
(2) Ar ôl paragraff 20 yn Rhan VIII o Atodlen 1 mewnosoder–“
21 
Penderfyniad y Comisiwn 2006/7/EC, sy'n ymwneud â mesurau gwarchod penodol mewn perthynas â mewnforio plu o drydydd gwledydd penodol (OJ Rhif L5, 10.01.2006, t.17) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/183/EC (OJ Rhif L65, 7.3.2006, t.49).”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006