
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Mai 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson a awdurdodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;
 mae i “coeden” yr ystyr sydd i “tree” yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Prydain Fawr) 1993;
 ystyr “coeden sy'n dueddol o gael y pla” (“susceptible tree”) yw coeden, ac eithrio ffrwyth neu hadau, o'r rhywogaeth a'r genera a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1;
 ystyr “cynnyrch planhigion” (“plant product”) yw cynnyrch sy'n dod o blanhigyn ac na chafodd ei brosesu neu a gafodd ei baratoi'n syml i'r graddau nad planhigyn ydyw;
 ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
 ystyr “deunydd sy'n dueddol o gael y pla” (“susceptible material”) yw—
(a) yn achos deunydd sy'n tarddu yn Unol Daleithiau America (“UDA”), planhigion, ac eithrio ffrwyth neu hadau, o'r rhywogaeth a'r genera a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1, a
(b) ym mhob achos arall, planhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu;
 mae i “y Gymuned Ewropeaidd” yr ystyr sydd i “European Community” yn y prif Orchymyn;
 mae i “man cynhyrchu” yr ystyr sydd i “place of production” yn y prif Orchymyn;
 mae i “mangre” yr ystyr sydd i “premises” yn y prif Orchymyn;
 ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw naill ai—
(a) label a dogfen, pan fo'n briodol, sy'n mynd gyda phlanhigyn, ac a ddyroddir yn y Gymuned Ewropeaidd ac sy'n cynnwys yr wybodaeth berthnasol yn Atodlen 9 i'r Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y prif Orchymyn”) sef yr wybodaeth y ceir ynddi dystiolaeth o gydymffurfio â darpariaethau'r Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion sy'n cael eu symud o fewn yr Undeb Ewropeaidd, neu
(b) ac eithrio at ddibenion erthygl 8(1), pasbort planhigion y Swistir;
 ystyr “pasbort planhigion y Swistir” (“Swiss plant passport”) yw label a dogfen, pan fo'n briodol, sy'n mynd gyda phlanhigyn, ac a ddyroddir yn y Swistir yn unol â deddfwriaeth y Swistir—
(a) ac sy'n cynnwys gwybodaeth y ceir ynddi dystiolaeth o gydymffurfio â deddfwriaeth yn y Swistir sy'n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion sy'n cael eu symud i'r Swistir ac o fewn y Swistir;
(b) ac sy'n ymwneud â phlanhigyn Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch. neu Viburnum spp. L. y bwriedir ei blannu;
 mae “Phytophthora ramorum” yn cyfeirio at y pla Phytophthora ramorum Werres, De Cock & Man in `t Veld sp. nov;
 mae i “planhigyn” yr ystyr sydd i “plant” yn y prif Orchymyn;
 ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993;
 ystyr “tarddle” (“origin”), o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla, yw'r lle y tyfir neu y cynhyrchir y deunydd, ac mae “yn tarddu yn/o” i'w ddehongli yn unol â hynny;
 mae i “trydedd wlad” yr ystyr sydd i “third country” yn y prif Orchymyn;
 ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif wedi'i chwblhau'n briodol naill ai—
(a) ar y ffurf a geir yn Atodlen 14 o'r prif Orchymyn; neu
(b) ei gyfatebol;
 ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen” (“reforwarding phytosanitary certificate”) yw tystysgrif wedi'i chwblhau'n briodol naill ai—
(a) ar y ffurf a geir yn Atodlen 15 o'r prif Orchymyn; neu
(b) ei gyfatebol.
3 
Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â—
(a) dod â Phytophthora ramorum i Gymru; neu
(b) lledaenu Phytophthora ramorum o fewn Cymru.
4 
Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â mewnforioi Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA oni—
(a) bydd—
(i) tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gydag ef a honno'n dystysgrif a ddyroddwyd yn unol â gofynion Atodlen 1 neu, yn achos deunydd y dyroddwyd hefyd dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen ar ei gyfer, gopi wedi'i ardystio o'r dystysgrif ffytoiechydol; a
(ii) arolygydd, o archwilio'r deunydd, yn canfod ei fod yn glir o Phytophthora ramorum ; neu
(b) bydd pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda'r deunydd mewn achosion o fewnforio o'r Swistir blanhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac erthygl 11, pan fydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu yn UDA neu yn unrhyw drydedd wlad arall wedi'i fewnforio i Gymru, rhaid i berson beidio â symud y deunydd hwnnw—
(a) o fewn Cymru;
(b) i ran arall o'r Deyrnas Unedig;
(c) i Ynys Manaw neu i Ynysoedd y Sianel;
(ch) i Aelod-wladwriaeth arall; nac
(d) i'r Swistir, yn achos planhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu,
oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef .
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn Cymru os bydd ei symud yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 12.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i erthygl 11, rhaid i berson beidio â symud i Gymru ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n tarddu—
(a) mewn man arall yn y Deyrnas Unedig;
(b) mewn Aelod-wladwriaeth arall;
(c) yn Ynys Manaw neu yn Ynysoedd y Sianel; neu
(ch) yn y Swistir, yn achos planhigion Camellia spp., Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch., a Viburnum spp. L., ac eithrio hadau, y bwriedir eu plannu,
oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.
(2) Rhaid i berson sydd wrth ei waith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall beidio â symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru o'r man cynhyrchu onid oes pasbort planhigion yn mynd gyda'r deunydd a'i fod yn bodloni gofynion Atodlen 2.
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i berson sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla beidio â symud y deunydd hwnnw onid yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol ag erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn neu baragraff (2) o'r erthygl hon.
(2) O ran cynhyrchydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla nad yw wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd o dan y prif Orchymyn—
(a) caiff wneud cais am gael ei gofrestru o dan erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn fel pe bai darpariaeth ar gyfer ei gais yn y Gorchymyn hwnnw;
(b) rhaid iddo fodloni'r gofynion yn erthyglau 15 ac 16 o'r prif Orchymyn fel pe bai ei gais wedi'i wneud o dan y Gorchymyn hwnnw; ac
(c) rhaid iddo gael ei drin gan y Cynulliad Cenedlaethol, o ran y cyfryw gais ac unrhyw gofrestriad o ganlyniad iddo, fel pe bai darpariaeth ar gyfer y cais yn y prif Orchymyn.
(3) Rhaid i unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd yn unol â pharagraff (1) roi hysbysiad o unrhyw achos a amheuir o Phytophthora ramorum neu o bresenoldeb Phytophthora ramorum a gadarnhawyd yn y man cynhyrchu y mae'r person wedi'i gofrestru mewn perthynas ag ef.
(4) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i bersonau sy'n cynhyrchu deunydd sy'n dueddol o gael y pla neu sy'n symud deunydd sy'n dueddol o gael y pla y maent wedi'i gynhyrchu os ydynt yn gwneud hynny heb fod wrth eu gwaith yn masnachu, neu'n rhedeg busnes neu ymgymeriad arall.
8 

(1) Mae erthyglau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys o ran pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan erthyglau 5 neu 6, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn—
(a) erthygl 11(3), fel pe bai —
(i) tystysgrif ffytoiechydol wedi'i dyroddi o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a oedd yn cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn; a
(ii) cyfeiriad at “Ran A o Atodlen 5”o'r prif Orchymyn yn gyfeiriad at erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn;
(b) erthygl 14(1), fel pe bai'r pasbort planhigion wedi'i ddyroddi o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla; ac
(c) erthygl 14(2) i (8).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae person sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan erthygl 17 o'r prif Orchymyn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion ar ran busnes hefyd wedi'i awdurdodi o dan y Gorchymyn hwn i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran y busnes hwnnw.
(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y gwêl yn dda eu gosod, awdurdodi person nas awdurdodwyd o dan baragraff (2), i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn ar ran unrhyw fusnes, unigolyn neu gorff arall,—
(a) os yw'r person sy'n gofyn am gael ei awdurdodi wedi'i gofrestru'n gynhyrchydd deunydd sy'n dueddol o gael y pla o dan erthygl 7; a
(b) os bod arolygiad boddhaol wedi'i wneud gan arolygydd o fan cynhyrchu'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla a bod hwnnw'n fan y ceisir awdurdod mewn cysylltiad ag ef, neu o unrhyw ran o'r fan, neu o unrhyw fangre arall sy'n trafod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla, a hynny at ddibenion canfod, o ran Phytophthora ramorum , statws iechyd planhigion y deunydd sy'n dueddol o gael y pla, yn y lle hwnnw neu'r fangre honno, ac unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion sydd yno.
(4) Caiff arolygydd dynnu'n ôl awdurdod a roddir i berson o dan baragraff (2) neu (3) i gynhyrchu, storio a dyroddi pasbortau planhigion sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn os yw'r arolygydd wedi'i fodloni nad yw'r person hwnnw'n bodloni darpariaethau'r Gorchymyn hwn o ran pasbortau planhigion.
9 

(1) Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i dystysgrif ffytoiechydol sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn—
(a) erthygl 12(1);
(b) erthygl 12(4) fel be bai cyfeiriadau at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn;
(c) erthygl 12(5) a (6);
(ch) erthygl 12(7) fel pe bai deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn blanhigion, o fewn yr ystyr sydd i “plants”yn yr erthygl honno; a
(d) erthygl 13.
(2) Os traddodwyd, i drydedd wlad nad hi yw'r wlad y dyroddwyd y dystysgrif ynddi, lwyth o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae tystysgrif ffytoiechydol yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi'i dyroddi yn unol ag erthygl 4 ac os cafodd y deunydd ei storio, ei ailbacio neu ei rannu yn y drydedd wlad honno, rhaid i'r dystysgrif ffytoiechydol wreiddiol neu gopi ohoni sydd wedi'i ardystio fynd gyda'r deunydd ynghyd â thystysgrif ffytoiechydol ar gyfer anfon ymlaen a ddyroddir gan wasanaeth iechyd planhigion swyddogol y drydedd wlad honno.
10 

(1) Rhaid tybio bod unrhyw dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddir at ddibenion y Gorchymyn hwn neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol trydedd wlad wedi'i dyroddi'n unol â gofynion perthnasol Atodlen 1.
(2) Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd pasbort planhigion iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn neu ddeddfwriaeth gyfatebol yn y wlad lle y'i dyroddwyd gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol Aelod-wladwriaeth neu ran arall o'r Deyrnas Unedig neu Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yn bodloni gofynion Atodlen 2.
(3) Rhaid tybio bod unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y dyroddwyd iddo basbort planhigion y Swistir gan neu gydag awdurdod gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol yn y Swistir yn bodloni gofynion Atodlen 2.
11 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau erthygl 30A o'r prif Orchymyn fod yn gymwys o ran mewnforio, symud a chadw Phytophthora ramorum , neu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y mae Phytophthora ramorum yn bresennol arno, a fyddai fel arall wedi'i wahardd o dan y Gorchymyn hwn, fel pe bai ef neu'r deunydd yn bla planhigion y byddai ei fewnforio, ei symud neu ei gadw yn waharddedig, pe na bai am drwydded a roddwyd o dan y prif Orchymyn.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar gymhwyso erthygl 30A(2)(d) o'r prif Orchymyn o ran trwydded a roddwyd yn rhinwedd yr erthygl hon.
12 

(1) Os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, at ddibenion gorfodi erthygl 3(b), drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal am y fangre neu am y deunydd sy'n dueddol o gael y pla—
(a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw faint o'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla gael ei drin, ei ddifa neu ei waredu mewn ffordd arall ac yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad;
(b) gwahardd symud y deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fangre a bennir yn yr hysbysiad neu osod y cyfryw waharddiadau eraill ag sy'n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i rwystro lledaenu Phytophthora ramorum ;
(c) ei gwneud yn ofynnol i'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla gael ei symud i fangre a bennir yn yr hysbysiad yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu felly; neu
(ch) ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad, yn cael eu cymryd yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad ac sydd yn angenrheidiol ym marn yr arolygydd i rwystro lledaenu Phytophthora ramorum .
(2) Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu ei bod yn angenrheidiol at ddiben rhwystro lledaenu Phytophthora ramorum o unrhyw fangre neu sicrhau ei fod yn cael ei ddifa yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i feddiannydd unrhyw fangre arall neu i berson arall â gofal amdani osod y cyfryw waharddiadau a'i gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gamau rhesymol, a bennir yn yr hysbysiad, ac sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol at y diben hwnnw, yn cael eu cymryd a hynny yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw amser rhesymol ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.
(3) At ddiben cyflawni archwiliad o ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla wrth iddo ddod i Gymru caiff arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i draddodai unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gafodd ei fewnforio neu sydd i'w fewnforio i Gymru, bennu mangre a'i gwneud yn ofynnol i'r deunydd hwnnw gael ei symud i'r fangre honno yn y cyfryw fodd ac o fewn y cyfryw gyfnod ag a fyddo'n cael eu pennu yn yr hysbysiad.
13 

(1) Heb ragfarn yn erbyn y darpariaethau yn erthygl 12, ac yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd gan arolygydd sail resymol dros amau bod Phytophthora ramorum yn bresennol neu'n debygol o fod yn bresennol yn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol o'i fwriad i feddiannydd y fangre neu i berson arall â gofal amdani, ac o ddangos os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, fynd i'r cyfryw fangre a chymryd camau naill ai yn y fangre honno neu yn rhywle arall—
(a) i ddifa neu drin mewn rhyw ffordd unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a ganfyddir yn y fangre honno; neu
(b) i ddifa Phytophthora ramorum a ganfyddir yn y fangre honno a rhwystro'i ledaenu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff arolygydd, o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, arwydd o'i awdurdod, ar bob adeg resymol ac at ddiben canfod a oes Phytophthora ramorum yn bodoli yn unrhyw fangre, neu at unrhyw un o ddibenion eraill y Gorchymyn hwn, gan gynnwys gwirio a gydymffurfir ag ef, fynd i unrhyw fangre—
(a) i archwilio, tynnu ffotograff neu farcio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu wrthrych yn y fangre;
(b) i gymryd samplau o unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu wrthrych arall ac unrhyw beth sydd wedi bod mewn cyffyrddiad neu a allai fod wedi bod mewn cyffyrddiad â Phytophthora ramorum ; neu
(c) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y byddont yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla yn cael eu cyflwyno a chaiff archwilio a chopïo 'r cyfryw ddogfennau neu gofnodion.
(3) Ni chaniateir arfer y pŵ er i fynd i fangre, sef pŵer a roddir gan baragraffau (1) a (2), o ran mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, ond yn unol â gwarant a roddir o dan erthygl 28 o'r prif Orchymyn.
(4) Caiff arolygydd, at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), agor, awdurdodi unrhyw berson i agor ar ei ran neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog y cyfryw gynhwysydd, bwndel neu becyn arall neu i unrhyw berson â gofal drosto i agor, yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn ei bennu, y cynhwysydd neu'r pecyn arall.
(5) Caiff arolygydd, i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol at ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), wahardd symud, yn gyfan gwbl neu i'r cyfryw raddau ag y byddo'r arolygydd yn datgan, unrhyw ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla, unrhyw gynhwysydd, bwndel, pecyn arall neu wrthrych a all fod yn fodd i ledaenu Phytophthora ramorum yn ei farn ef.
(6) At ddibenion yr archwiliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd y fangre y cynhelir yr archwiliad ynddi neu i berson arall â gofal drosti ddarparu golau digonol a, phan fo'n briodol, fannau addas ar gyfer arolygiad.
(7) Pan gedwir unrhyw ddogfen neu gofnod o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(c) drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff arolygydd—
(a) gofyn am gael mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r ddogfennaeth neu'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a
(b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y byddo'n rhesymol iddo ofyn amdano.
(8) Caiff arolygydd, pan fydd yn mynd i unrhyw fangre o dan baragraff (1) neu baragraff (2) o'r erthygl hon, fynd â'r cyfryw bersonau eraill gydag ef, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, a'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau ag sy'n angenrheidiol at ddiben hwyluso arfer ei bwerau o dan y paragraffau hynny, ynghyd â'r cyfryw bersonau eraill, p'un ai yng nghwmni'r arolygydd neu beidio, a chânt, o ddangos os gofynnir iddynt wneud hynny arwydd o'u hawdurdod a roddwyd iddynt yn y cyswllt hwnnw gan arolygydd, aros ar y tir a mynd yn ôl i mewn o bryd i'w gilydd gyda'r cyfryw gyfarpar a'r cyfryw gerbydau a grybwyllir uchod, er mwyn cyflawni'r cyfryw waith at y dibenion uchod ac yn y cyfryw fodd ag y byddo'r arolygydd yn cyfarwyddo.
14 
Mae darpariaethau canlynol y prif Orchymyn yn gymwys i hysbysiad a ddyroddir o dan erthygl 12 neu erthygl 13, fel sy'n briodol, o'r Gorchymyn hwn—
(a) erthygl 24, fel pe byddai'r cyfeiriadau at erthygl 22 o'r prif Orchymyn yn gyfeiriadau at erthygl 12 o'r Gorchymyn hwn ac y byddai cyfeiriadau eraill at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn;
(b) erthygl 26, fel pe byddai'r cyfeiriadau at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn; ac
(c) erthygl 27, yn ddarostyngedig i erthygl 28 o'r prif Orchymyn, fel pe byddai'r cyfeiriadau at y prif Orchymyn yn gyfeiriadau at y Gorchymyn hwn.
15 

(1) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi—
(a) yn mynd yn groes i erthyglau 3, 5, 6(1)(a), 6(2), 7(1) neu 7(3) neu'n methu cydymffurfio â hwy;
(b) yn mynd yn groes i ddarpariaeth neu amod hysbysiad a gyflwynir, neu drwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn, neu'n methu cydymffurfio â hi; neu
(c) yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth i'r arolygydd neu'r person arfer ei bwerau o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, at ddibenion caffael yr awdurdod i ddyroddi pasbort planhigion o dan y Gorchymyn hwn—
(a) yn gwneud datganiad y mae'n gwybod ei fod yn ffug o ran manylyn perthnasol;
(b) yn ddi-hid yn gwneud datganiad ffug o ran manylyn perthnasol; neu
(c) yn fwriadol yn methu datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
(3) Mae person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn dyroddi pasbort planhigion ffug o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Bydd person yn euog o dramgwydd os yw, a hynny'n anonest, yn newid pasbort planhigion sydd ynghlwm wrth ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla neu'n ailddefnyddio pasbort planhigion ar gyfer deunydd pan nad y deunydd sy'n dueddol o gael y pla y dyroddwyd y pasbort planhigion ar ei gyfer ydyw.
(5) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan yr erthygl hon yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
16 
Dirymir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Rhif 2) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
ATODLEN 1
Erthyglau 4(a) a 10(1)


Deunydd sy'n dueddol o gael y pla Gofynion i'w bodloni o ran dyroddi unrhyw dystysgrif ffytoiechydol sy'n mynd gyda deunydd sy'n dueddol o gael y pla (“y dystysgrif”)

 Acer macrophyllum
 Pursh.
 Aesculus californica
 Nutt.
 Aesculus.
 hippocastanum L
 Arbutus menziesii
 Pursch.
 Arbutus unedo L.
 Arctostaphylos spp.
 Adans
 Camellia spp.
 Castanea sativa Mill.
 Fagus sylvatica L.
 Hamamelis
 virginiana L.
 Heteromeles
 arbutifolia (Lindley)
 M. Roemer
 Kalmia latifolia L.
 Leucothoe
 fontanesiana (Steudel)
 Sleumer neu
 Lithocarpus
 densiflorus (H & A)
 Lonicera hispidula
 (Dougl.)
 Pieris spp.
 Pseudotsuga menziesii
 (Mirbel) Franco
 Quercus spp. L.
 Rhamnus californica (Esch)
 Rhododendron spp. L.,
 ac eithrio
 Rhododendron simsii
 Planch.
 Sequoia sempervirens
 (D. Don) Endl.
 Syringa vulgaris L.
 Taxus spp.
 Trientalis latifolia (Hook)
 Umbellularia
 californica (Pursch.)
 Vaccinium vitis-idaea
 Britt.
 Vaccinium ovatum
 (Hook & Arn) Nutt.
 Viburnum spp. L. Naill ai—
(a) Rhaid i'r dystysgrif gynnwys datganiad ychwanegol bod y deunydd yn tarddu mewn ardal y mae gwasanaeth iechyd planhigion swyddogol y wlad y mae'r deunydd yn tarddu ohoni (“y gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol”) yn ei chydnabod yn ardal sy'n rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum , ac yn yr achos hwn rhaid i enw'r ardal y mae'r deunydd yn tarddu ohoni gael ei bennu o dan “tarddle”;
 neu
(b) rhaid peidio â dyroddi tystysgrif ac eithrio ar ôl i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol wirio'n swyddogol—
(i) o wneud arolygiadau swyddogol yn ystod cylchred gyflawn olaf llystyfiant y deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n destun y dystysgrif, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla nac ar unrhyw goeden sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu; a
(ii) bod samplau cynrychioliadol wedi'u cymryd o'r planhigion cyn eu hanfon, a'u bod wedi'u profi a'u cael yn rhydd o arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum yn y profion hyn, ac yn yr achos hwn rhaid i'r gwasanaeth iechyd planhigion perthnasol arnodi ar y dystysgrif o dan y pennawd “additional declaration”y datganiad “tested and found free from non- European isolates of Phytophthora ramorum”.
ATODLEN 2
Erthyglau 6 a 10(2) a (3)


Deunydd sy'n dueddol o gael y pla Gofynion i'w bodloni o ran deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac a gynhyrchir yng Nghymru neu a symudir i Gymru o fan arall yn y Deyrnas Unedig, neu o Aelod-wladwriaeth arall, neu o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu o'r Swistir

 Camellia spp.
 Rhododendron
 spp. L., ac eithrio
 Rhododendron simsii
 Planch.
 Viburnum spp. L. Naill ai—
(a) bod y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn tarddu mewn ardaloedd lle y gwyddys nad yw Phytophthora ramorum yn bresennol;
(b) o gynnal arolygiad swyddogol yn y man cynhyrchu, a hynny unwaith o leiaf ar adeg briodol pan fo'r deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y broses o dyfu, neu o wneud arbrawf mewn labordy ar symptomau ymddangosiadol o Phytophthora ramorum , na chanfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar y deunydd sy'n dueddol o gael y pla yn ystod cylchred gyflawn olaf y llystyfiant; neu
(c) os canfyddwyd arwyddion o Phytophthora ramorum ar ddeunydd sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu, bod gweithdrefnau priodol y mae iddynt y nod o ddifa Phytophthora ramorum ac sy'n cynnwys y mesurau canlynol o leiaf wedi'u rhoi ar waith—
(i) bod deunydd sy'n dueddol o gael y pla ac y canfyddir ei fod wedi'i heintio â Phytophthora ramorum (“deunydd heintiedig”) ac unrhyw ddeunydd arall sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddau fetr i'r deunydd heintiedig yn cael eu difa;
(ii) bod cadw deunydd sy'n dueddol o gael y pla o fewn radiws o ddeng metr i'r deunydd heintiedig a phob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla ac sy'n dod o'r un lot â'r deunydd heintiedig wedi'u cadw yn y man cynhyrchu ac, yn ystod y tri mis yn dilyn canfod haint y cyfeirir ato yn is- baragraff (i), nad ydynt wedi bod yn ddarostyngedig i unrhyw driniaethau a fyddo'n celu'r symptomau o Phytophthora ramorum a'u bod wedi'u cael yn rhydd o Phytophthora ramorum ar ôl arolygiadau ychwanegol a gyflawnir ddwywaith o leiaf; a
(iii) bod pob deunydd arall sy'n dueddol o gael y pla yn y man cynhyrchu wedi'i arolygu'n fynych yn sgil canfod haint y cyfeirir ato yn is-baragraff (i) a'i gael o'i arolygu felly yn rhydd o Phytophthora ramorum .