
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2 
–
(1) Yn y Gorchymyn hwn–
 ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996;
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000; ac
 ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
3 
Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru.
4 
–
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1 Medi 2006 o ran Cymru a Lloegr.
(2) Nid yw adrannau 41 a 42 i ddod i rym ond i'r graddau eu bod yn gymwys i ysgolion arbennig o'r disgrifiad sydd yn adran 28(2)(d).
5 
Daw darpariaethau Deddf 2005 a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 o ran Cymru a Lloegr.
6 
Mae'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mai 2006
ATODLEN 1
Erthygl 3


Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 44 Categorïau o ysgolion sy'n peri pryder.
Adran 45 Achosion pan gaiff y Cynulliad gyfarwyddo cau ysgol.
Adran 46 Dosbarthiadau chwech y mae gofyn eu gwella'n sylweddol.
Adran 47 Ystyr “denominational education”.
Adran 51 Pŵer yr AALl i arolygu ysgol a gynhelir at ddiben penodol.
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 y cyfeirir atynt isod. Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Adran 54 Arolygu ysgolion annibynnol.
Adran 58 Arolygu cofnodion cyfrifiadurol.
Adran 59 Adroddiadau cyfunol.
Adran 60 Diddymu Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996.
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod. Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Adran 71 Cynigion sy'n ymwneud ag ysgolion arbennig a gynhelir.
Adran 105 Darparu a chyllido addysg uwch mewn ysgolion a gynhelir.
Adran 106 Trefniadau derbyn i wneud darpariaeth arbennig i blant sy'n derbyn gofal.
Adran 115 Pwer corff llywodraethu i wneud darpariaeth amgen ar gyfer disgyblion sydd wedi'u gwahardd.
Adran 116 Rhiant yn methu â sicrhau bod plentyn yn mynychu'r ddarpariaeth amgen.
Adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod. Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4.
Adran 118 Ystyr “the 2002 Act” yn Rhan 4.
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. Diddymiadau.
Atodlen 5 Dosbarthiadau chwech y mae angen eu gwella'n sylweddol.
Paragraffau 6 i 24 o Atodlen 7. Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Atodlen 8 Arolygu ysgolion annibynnol.
Paragraffau 8 i 21 a 28 i 30 o Atodlen 9. Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Paragraffau 1, 6 a 15 o Atodlen 18. Diwygiadau pellach sy'n ymwneud â Rhan 4.
Yn Atodlen 19, Rhan 1: Diddymiadau
Y diddymiadau sy'n ymwneud â: Deddf Addysg 1996, Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996, Deddf Addysg 1997, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Deddf Dysgu a Medrau 2000 (ac eithrio adran 81), Deddf Addysg 2002. Diddymiadau.
ATODLEN 2
Erthygl 4


Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 19 Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Adran 20 Swyddogaethau'r Prif Arolygydd.
Adran 21 Adroddiadau blynyddol ac adroddiadau eraill i'r Cynulliad.
Adran 22 Pŵer y Cynulliad i sefydlu panel cynghorol.
Adran 23 Pwerau mynediad etc y Prif Arolygydd.
Adran 24 Pŵer y Prif Arolygydd i drefnu arolygiadau.
Adran 25 Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru.
Adran 26 Tynnu arolygwyr o'r Gofrestr a gorfodi ac amrywio amodau.
Adran 27 Apelau ynghylch cofrestru.
Adran 28 Dyletswydd i drefnu bod ysgolion penodol yn cael eu harolygu'n rheolaidd.
Adran 29 Cyhoeddi adroddiadau arolygu.
Adran 30 Talu ffioedd i Gronfa Gyfunol.
Adran 31 Dehongli Pennod 3.
Adran 32 Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth.
Adran 33 Dyletswydd i roi adroddiad ar arolygiadau adran 28.
Adran 34 Arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig.
Adran 35 Adroddiadau ar Arolygiadau gan aelodau o'r Arolygiaeth.
Adran 36 Amseru arolygiadau adran 28 gan arolygwyr cofrestredig.
Adran 37 Dyletswydd i hysbysu pan fo arolygiad yn dangos bod ysgol a gynhelir yn peri pryder.
Adran 38 Cyrchfan adroddiadau: ysgolion a gynhelir.
Adran 39 Datganiad i'w baratoi gan awdurdod priodol i'r ysgol.
Adran 40 Datganiad i'w baratoi gan awdurdod addysg lleol.
Adran 41 Cyrchfan adroddiadau: ysgolion nas cynhelir.
Adran 42 Datganiad i'w baratoi gan berchennog ysgol.
Adran 43 Dehongli Pennod 4.
Adran 50 Arolygu addysg grefyddol: Cymru.
Adran 52 Darparu gwasanaethau arolygu gan AALl yng Nghymru.
Adran 53, i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 5 o Atodlen 7. Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Adran 61, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 9 y cyfeirir atynt isod. Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Adran 123, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. Diddymiadau.
Atodlen 2 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Atodlen 3 Cofrestru Arolygwyr yng Nghymru: Tribiwnlysoedd sy'n gwrando apelau o dan adran 27.
Atodlen 4 Arolygiadau Ysgolion yng Nghymru o dan adran 28.
Atodlen 6 Arolygiadau o addysg enwadol yng Nghymru.
Paragraff 5 o Atodlen 7. Arolygu gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin.
Paragraffau 6, 7, 22 , 24, 25 a 27 o Atodlen 9. Diwygiadau pellach sy'n ymwneud ag arolygu ysgolion.
Yn Atodlen 19, Rhan 1, yn Neddf Plant 1989, diddymu yn adran 79T(2)(a) y geiriau “the quality and standards of”. Diddymiadau.
ATODLEN 3
Erthygl 5


Y ddarpariaeth Y pwnc
Adran 55 Arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.
Adran 56 Arolygu gwasanaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.
Adran 57 Arolygiadau o dan adrannau 55 a 56: darpariaethau pellach.
Adran 123 i'r graddau y mae'n ymwneud a darpariaethau Atodlen 19 y cyfeirir atynt isod. Diddymiadau.
Yn Atodlen 19, Rhan 1, y diddymiadau yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a diddymiad adran 81 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Diddymiadau.
ATODLEN 4
Erthygl 6
1 
Mae paragraffau 2 i 5 o'r Atodlen hon yn gymwys er i adran 60 (Diddymu Deddf 1996) gael ei dwyn i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
2 
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol wedi'i wneud o dan Ddeddf 1996 a phan fo'r adroddiad hwnnw wedi nodi bod gofyn cymryd camau arbennig mewn perthynas â'r ysgol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod gofyn cymryd camau arbennig o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
(a) adrannau 34(7)(b) a 35(2)(b) a (5)(b); a
(b) adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998 (ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder).
3 
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad o ysgol yn un a wnaed o dan y Ddeddf honno ac a nododd fod gan yr ysgol wendidau difrifol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod yr ysgol yn un yr oedd gofyn ei gwella'n sylweddol o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
(a) adrannau 34(8)(b) a 35(3)(b) a (6)(b); a
(b) adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998.
4 
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol yn un a wnaed o dan Ddeddf 1996 ac a nododd fod gan yr ysgol ddosbarth chwech diffygiol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad arolygiad a nododd fod gofyn gwella sylweddol ar ddosbarth chwech yr ysgol at ddibenion adran 113 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7 iddi (fel y'i diwygiwyd gan adran 46 o Ddeddf 2005 ac Atodlen 5 iddi).
5 
Pan fo hysbysiad apêl yn cael ei gyflwyno i'r tribiwnlys cyn 1 Medi 2006, mae adran 27 ac Atodlen 3 i fod yn gymwys i'r apêl fel petai is-adran (2) o adran 27 yn cael ei hepgor.
6 
Er i adran 27 ac Atodlen 3 iddi gael eu dwyn i rym, ac er i adran 9 o Ddeddf 1996 ac Atodlen 2 iddi gael eu diddymu, oll gan y Gorchymyn hwn ar 1 Medi 2006, mae unrhyw reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 1996 sydd mewn grym ar 31 Awst 2006 (“y Rheoliadau presennol”) i barhau i fod yn effeithiol o ran Cymru hyd at y dyddiad pryd y daw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 2 o Atodlen 3 ddod i rym, fel petai'r Rheoliadau presennol wedi cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y paragraff hwnnw o'r Atodlen honno.