
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn–
 ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980;
 ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
2 
11 Mai 2006 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2000 ddod i rym–
(a) adran 47 (ailddynodi ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus);
(b) adran 48 (hawliau cilffyrdd cyfyngedig);
(c) adran 49 (darpariaethau atodol at adrannau 47 a 48);
(ch) adran 50 (hawliau preifat dros gilffyrdd cyfyngedig);
(d) adran 51 (diwygiadau sy'n ymwneud â mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r darpariaethau yn Atodlen 5 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) ac (e) isod;
(dd) yn Rhan I–
(i) paragraff 1 (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus);
(ii) paragraff 5 (dim arolygon nac adolygiadau pellach o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949);
(iii) paragraff 6 (effaith map a datganiad diffiniol);
(iv) paragraff 9 (dehongli Rhan III);
(e) Rhan II;
(f) adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau yn Atodlen 16 (diddymiadau sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) y cyfeirir atynt ym mharagraffau (ff) i (ng) isod;
(ff) Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 54 o Ddeddf 1981;
(g) Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 56(5) o Ddeddf 1981;
(ng) Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu rhan o adran 57(1) o Ddeddf 1981;
(h) adran 57 (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (j) isod;
(i) adran 69(2) o Ddeddf 2000 (diwygio adran 147(5) o Ddeddf 1980 sy'n ymwneud â'r dehongliad o gyfeiriadau at dir amaethyddol ac at dir yn cael ei ddefnyddio o'r newydd ar gyfer amaethyddiaeth at ddibenion adran 147 o Ddeddf 1980);
(j) is-baragraff (8) o baragraff 23 o Atodlen 6 i'r graddau nad yw'r is-baragraff hwnnw eisoes mewn grym.
3 

(1) Ni fydd dim yn adran 47 na 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 na 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 na 15 iddi mewn perthynas â gorchymyn perthnasol neu gais am orchymyn perthnasol a wnaed cyn 11 Mai 2006.
(2) Ym mharagraff (1) mae i “gorchymyn perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant order” yn adran 48(10) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006