
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 12 Mai 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Mae adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 yn peidio â chael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thoma
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Mai 2006