
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen–y–bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006, sef y diwrnod penodedig at ddibenion Rheoliadau 1976, ac eithrio fod y Gorchymyn hwn, at y dibenion a osodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, yn dod i rym ar y diwrnod ar (tm)l iddo gael ei wneud.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a nodwyd fel “Map Gorchymyn Pen–y–bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau 1976;
 ystyr “Rheoliadau 1976” (“the 1976 Regulations”) yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd);
3 

(1) Gwahenir y rhannau hynny o Gymuned Coety Uchaf a ddangosir fel ardaloedd rhesog “a”ar y map ffiniau oddi wrth y gymuned honno ac maent yn ffurfio rhan o gymuned Bracla.
(2) Gwahenir y rhan honno o gymuned Bracla a ddangosir fel ardal resog “b” ar y map ffiniau oddi wrth y gymuned honno ac mae'n ffurfio rhan o gymuned Coety Uchaf.
4 

(1) Newidir ffiniau Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng Nghymuned Coety Uchaf fel eu bod yn cyfateb â'r ffin gymunedol newydd.
(2) Newidir y ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng nghymuned Coety Uchaf fel y dangosir ar y map ffiniau ac a nodir fel “Ffin y Ward Gymunedol Newydd.”
5 
Newidir ffiniau adrannau etholaethol Pendre, Coety a Bracla i gyfateb â'r ffin gymunedol newydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Sue Essex
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth a Gwasanaethau Cyhoeddus
26 Mawrth 2006

