
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2006.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £20.00 yr wythnos.
3 
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005 drwy hyn wedi'u dirymu.
4 
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o “liable relative”, yn lle “or former spouse”, rhodder “, former spouse, civil partner or former civil partner”.
5 
Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau yn lle'r ffigur “£21,000” rhodder y ffigur “£21,500”.
6 
Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf - Cymru)—
(a) yn lle'r ffigur “£14,750” rhodder y ffigur “£16,000” yn y ddau le y mae'n ymddangos; a
(b) yn lle'r ffigur “£21,000” rhodder y ffigur “£21,500”.
7 
Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm nad yw'n enillion)—
(a) Ym mharagraff 10A—
(i) yn is-baragraffau (1)(a) a (3), ar (tm)l “spouse” mewnosoder “or civil partner”, a
(ii) yn is-baragraff (1)(b), ar (tm)l “spouse’s maintenance” mewnosoder “or his civil partner for that civil partner’s maintenance”;
(b) ym mharagraff 17—
(i) yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—“
(a) pursuant to regulations  made under section 2(6)(b) or 3 of the Adoption and Children Act 2002”; a
(ii) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) Any payment other than a payment to which sub-paragraph (1)(a) applies, made to the resident pursuant to regulations made under section 2(6)(b) or 3 of the Adoption and Children Act 2002.”;
(c) ym mharagraff 28H
(i) yn is-baragraffau (1) a (2) yn lle'r ffigur “£4.85” rhodder y ffigur “£5.05” ym mhob man y mae'n ymddangos; a
(ii) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur “£7.20” rhodder y ffigur “£7.50” ym mhob man y mae'n ymddangos.
8 
Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf i'w ddiystyru) yn lle paragraff 24 rhodder—“
24 
Any payment made to the resident pursuant to regulations made under section 2(6)(b) or 3 of the Adoption and Children Act 2002.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis—Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006