
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8(3), ar ôl y geiriau “service on him”, rhodder “or her”.
(3) Yn rheoliad 13(3), ar ôl y geiriau “ “supplied to him”, rhodder “or her”.
(4) Yn rheoliad 25(7), yn lle'r geiriau “paragraph 6(a)”, rhodder “paragraph (6)(a)”.
(5) Yn rheoliad 26—
(a) yn lle'r geiriau “a chairman appointed under regulation 8 of the Valuation and Community Charge Tribunals Regulations 1989”, rhodder “a chairperson of the relevant valuation tribunal”; a
(b) yn lle'r gair “chairman's”, rhodder “chairperson's”.
(6) Yn rheoliad 30(1), yn lle'r gair “chairman”, rhodder “chairperson” yn y ddau fan lle y digwydd.
(7) Yn rheoliad 31(4)(a) ar ôl y geiriau “to permit him”, rhodder “or her”.
(8) Yn rheoliad 33(4), yn lle'r geiriau “sent to him”, rhodder “sent to that party”.
(9) Dirymir rheoliad 43(1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2006