
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 15(1)(e), ar ôl y geiriau “children’s guardian or reporting officer”, mewnosoder y geiriau “or Welsh family proceedings officer”.
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Bob tro y mae'r geiriau “officers of the service” yn ymddangos yn rheoliad 11, mewnosoder y geiriau “and Welsh family proceedings officers” ar eu hôl.
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991 yn unol â dapriaethau canlynol y rheoliad hwn.
(1) Yn rheoliad 2A(1)(c) ar ôl “Support Service”, mewnosoder “or a Welsh family proceedings officer where the child is ordinarily resident in Wales”.
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ar ddiwedd rheoliad 17, ychwaneger “a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan adran 35 o Ddeddf Plant 2004”.
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(1) Yn rheoliad 15(2)(b) ar ôl “a Theuluoedd” mewnosoder “neu Swyddog Achosion Teuluol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2005