
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 17 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
At ddibenion adran 21(6) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, bydd y Fframwaith Tân ac Achub a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n dwyn yr enw “Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005” a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2005 yn cael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
16 Mawrth 2005