
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 1) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
(3) Mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac Atodlenni iddi.
2 

(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005.
(2) Daw'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod i rym at y dibenion a bennir yn ail golofn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2005
YR ATODLEN
Erthygl 2

Adran 12 Pob diben
Adran 16 Pob diben
Is-adrannau (1) i (3) o adran 20 At ddibenion rhagnodi graddfeydd ffioedd am archwilio'r cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.
Is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 Pob diben
Adran 39 At ddibenion ymgynghori a gwneud rheoliadau mewn perthynas â chyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.
Adran 50 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 1 At ddibenion dwyn i effaith: (a) paragraff 1 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n angenrheidiol at ddibenion (b) isod, a (b) paragraff 7 o Atodlen 1, i'r graddau y mae'n darparu i adran 8A newydd gael ei mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 .
Is-adrannau (6) i (8) o adran 54 Pob diben
Adran 58 Pob diben
Adran 59 Pob diben
Adran 68 ac Atodlen 3 Pob diben