
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 11 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2 
Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £19.10 yr wythnos.
3 
Drwy hyn, dirymir Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2004.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Mawrth 2005